Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

chwaraeon@wrexham

 

Llun o chwaraewr tennisRhifyn 6. Gwanwyn 2006.

Gwobrau Chwaraeon 2006

Ar 30ain Mai 2006, ar y cyd â Chyngor Chwaraeon Rhanbarthol Wrecsam, cynhaliodd Tîm Datblygu Chwaraeon Wrecsam ei 3ydd Noson Gwobrau Chwaraeon flynyddol.

Nod y noson yw anrhydeddu a chydnabod cyflawniadau ac ymroddiad y bobl hynny sy’n gysylltiedig â chwaraeon yn Wrecsam. Cynhaliwyd y digwyddiad yn ystod wythnos genedlaethol y gwirfoddolwyr ac fe helpiodd hyn ni i godi proffil hyfforddwyr a gwirfoddolwyr lleol sy’n gweithio’n galed gyda chlybiau chwaraeon yn y gymuned leol.

Cynhaliwyd y Noson Wobrwyo unwaith eto yng Nghanolfan Chwaraeon a C h y m d e i t h a s o l newydd sbon Brymbo ac roedd dros 350 o bobl yn bresennol.

Huw Jones, Prif Weithredwr Cyngor Chwaraeon Cymru oedd siaradwr gwadd y noson. Soniodd am agenda newidiol Cyngor Chwaraeon Cymru, sy’n cynnwys mwy o ffocws ar y mentrau iechyd fel modd o gael mwy o bobl yn fwy gweithgar.

Roedd gwesteion y noson yn cynnwys cystadleuwyr o Wrecsam a gynrychiolodd Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad ym Melbourne. Cyflwynwyd cydnabyddiaeth i bob un ohonynt gan Faer Wrecsam am eu cyflawniadau.

Denodd y gwobrau eleni dros 150 o enwebiadau o feysydd chwaraeon amrywiol a chafwyd nifer fawr o bleidleisiau dros y ffôn ar gyfer Personoliaeth Chwaraeon Hÿn y flwyddyn a gynhaliwyd yn y Wrexham Evening Leader.

Enillwyr 2006 oedd:

  • Gwirfoddolwr Iau'r Flwyddyn - Sian Smith
  • Gwirfoddolwr Hÿn y Flwyddyn – Rachel Pearce
  • Personoliaeth Iau'r Flwyddyn - Lowri Tynan
  • Personoliaeth Hÿn y Flwyddyn – Lydia Johnson
  • Tîm y Flwyddyn -Tîm Cleddyfaeth Iau'r Gymanwlad yn Wrecsam
  • Clwb y Flwyddyn – Clwb Cleddyfaeth Wrecsam
  • Hyfforddwr y Flwyddyn - Jayne Hanlon
  • Ysgol Gynradd y Flwyddyn- Ysgol yr Holl Saint, Gresffordd
  • Ysgol Uwchradd y Flwyddyn – Ysgol Sant Christopher
  • Personoliaeth Chwaraeon Anabledd y Flwyddyn - Stephen Davies
  • Gwobr Sbortsmonaeth - Ashley Edwards
  • Gwasanaeth i Chwaraeon – Ray Jones

Mae’r Uned Datblygu Chwaraeon yn chwilio’n ddyfal am bobl i ymuno â Chyngor Chwaraeon Rhanbarthol Wrecsam. Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn dod yn aelod gysylltu â’r Tîm Datblygu Chwaraeon ar 01978 297366.

Gweler y tudalennau canol am ffotograffau o’r noson.

chwaraeon@wrexham

Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:

chwaraeon@wrexham - Fersiwn PDF 1.5Mb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.

 

I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan microsoft i ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word

 

 
English
 

Cyswllt i

Dychwelyd i'r mynegai

 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint