Er mwyn cydymffurfio ag argymhellion Cenedlaethol Cymeradwy, mae gan Fwrdeistref Sirol Wrecsam bolisi ar waith sy’n cydnabod yr angen i sicrhau bod gan blant a rhieni amgylchedd mor ddiogel â phosibl i nofio ynddo. Mae’r polisi hwn wedi’i ddiweddaru bellach ac mae pob pwll yn yr Awdurdod yn cydymffurfio â’r newidiadau sydd wedi bod ar waith ers 14 Chwefror 2009.
Mae Polisi CBSW ar gyfer cymarebau nofio i rieni neu warcheidwaid â phlant dan 8 oed fel a ganlyn:
Mynediad Arferol:
Plant rhwng 0 a 4 oed - 1:1 (1 Plentyn i 1 Oedolyn)
Plant rhwng 5, 6 a 7 oed - 2:1 (2 Blentyn i 1 Oedolyn)
Mae’n rhaid i oedolyn addas (16 oed) oruchwylio.
Fodd bynnag, gan ein bod yn sylweddoli y gallai teuluoedd rhiant sengl a theuluoedd â phlant iau ei chael hi’n anodd bodloni’r cymarebau hyn, rydym wedi datblygu Sesiynau Rhiant a Throchwr ym mhob un o’n pyllau (gweler amserlenni canolfannau am argaeledd), a gynlluniwyd yn benodol gyda mesurau diogelwch ychwanegol, sy’n galluogi rhieni i oruchwylio hyd at ddau blentyn o unrhyw gyfuniad oedran o 0 - 7 oed.
Sesiynau Rhiant a Throchwr:
Plant rhwng 0 a 7 oed - 2:1 (2 blentyn i 1 oedolyn)
Mae’r polisi uchod yn berthnasol bob amser. Os bydd gennych unrhyw ymholiadau am y cymarebau uchod a sut y gallent effeithio ar eich ymweliad, cysylltwch â’ch pwll lleol.