Y Gist Gymunedol a Grantiau Datblygu - Cyngor Chwaraeon Cymru

Y Gist Gymunedol

Awydd £1500 tuag at eich prosiect chwaraeon cymunedol?

Mae'r Gist Gymunedol yn cynnig grant o hyd at £1500 mewn unrhyw gyfnod o 12 mis ar gyfer gweithgareddau sy'n:

  • Annog mwy o bobl i ddod yn fwy egnïol yn amlach          
  • Codi safonau'r gweithgareddau presennol     

Pwy all wneud cais?

Mae'r cynllun yn agored i unrhyw grŵp, ar yr amod bod ganddo gyfrif banc yn enw'r sefydliad.               

Pwy na all wneud cais?

Yn anffodus, os ydych chi'n aelod o'r cyhoedd, yn ysgol gynradd neu'n gorff cysylltiedig yn trefnu gweithgareddau i blant, neu'n ysgol uwchradd sy'n rhan o'r cynllun 5x60, nid ydych yn gymwys i wneud cais am grant y Gist Gymunedol.

Hefyd, ni ellir cyllido'r gweithgareddau a ganlyn:                       

  • Gweithgareddau corfforol fel garddio, DIY, gwelliannau amgylcheddol, dawnsio perfformiad neu sgiliau syrcas
  • Gweithgareddau / prosiectau sy'n bodoli eisoes ac sydd wedi dechrau
  • Prosiectau y credir eu bod yn rhan o gostau rhedeg o ddydd i ddydd arferol sefydliad            
  • Prosiectau wedi'u lleoli y tu allan i Gymru

Neu'r elfennau a ganlyn mewn prosiectau:

  • Cynnal a chadw, atgyweirio neu newid offer neu gyfleusterau presennol (er hynny, rhoddir ystyriaeth i newid offer nad yw'n cydymffurfio bellach â'r ddeddfwriaeth bresennol)         
  • Prynu eitemau personol o offer
  • Arlwyo a lletygarwch      
  • Medalau, tystysgrifau a thlysau
  • Tripiau cartref neu dramor
  • Achlysuron unigryw heb unrhyw gysylltiad â gweithgareddau parhaus
  • Aelodaeth  
  • Prosiectau cyfalaf (prosiectau sy'n cynnwys adeiladu neu brynu tir)
  • Cefnogaeth ariannol i unigolion 

Sut i wneud cais?

Cyn cwblhau eich ffurflen gais, gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen nodiadau cyfarwyddyd y cynllun am fanylion pellach ac am eich holl wybodaeth gyswllt.

Dychweler ffurflenni cais at:

Tîm Datblygu Chwaraeon
Y Byd Dŵr
Ffordd Holt
Wrecsam
LL13 8DH

Ffôn: 01978 292088
Ebost: sports.development@wrexham.gov.uk


Grantiau Datblygu

Ydych chi eisiau sefydlu tîm newydd, datblygu cyfleusterau ymarfer newydd neu brynu offer y mae ei wir angen er mwyn symud eich prosiect ymlaen i'r lefel nesaf?

Os felly, mae grant sydd rhwng £1,501 a £25,000 ar gael i dalu am yr holl brosiectau uchod, yn ogystal â'r canlynol:

  • Addysg i hyfforddwyr
  • Llifoleuadau at ddibenion hyfforddi
  • Prynu tir neu hawliau ar dir er mwyn datblygu mannau gweithgarwch
  • Grantiau sefydlu i gefnogi mentrau newydd  

Pwy all wneud cais?

Mae'r grant ar gael i unrhyw grŵp, ar yr amod bod ganddo gyfrif banc yn enw'r sefydliad.               

Pwy na all wneud cais?

Yn anffodus, os ydych chi'n aelod o'r cyhoedd, yn ysgol gynradd neu'n gorff cysylltiedig yn trefnu gweithgareddau i blant, neu'n ysgol uwchradd sy'n rhan o'r cynllun 5x60, nid ydych yn gymwys i wneud cais am Grant Datblygu.

Hefyd, ni ellir cyllido'r gweithgareddau a ganlyn:                       

  • Gweithgareddau corfforol fel garddio, DIY, gwelliannau amgylcheddol, dawnsio perfformiad neu sgiliau syrcas
  • Gweithgareddau / prosiectau sy'n bodoli eisoes ac sydd wedi dechrau
  • Prosiectau y credir eu bod yn rhan o gostau rhedeg o ddydd i ddydd arferol sefydliad            
  • Prosiectau wedi'u lleoli y tu allan i Gymru

Neu'r elfennau a ganlyn mewn prosiectau:

  • Cynnal a chadw, atgyweirio neu newid offer neu gyfleusterau presennol (er hynny, rhoddir ystyriaeth i newid offer nad yw'n cydymffurfio bellach â'r ddeddfwriaeth bresennol)         
  • Prynu eitemau personol o offer
  • Arlwyo a lletygarwch      
  • Medalau, tystysgrifau a thlysau
  • Tripiau cartref neu dramor
  • Achlysuron unigryw heb unrhyw gysylltiad â gweithgareddau parhaus
  • Aelodaeth  

Sut i wneud cais?

Os yw'r grant yma'n swnio'n berffaith i'ch prosiect chi, yna beth am gysylltu Tîm Datblygu Chwaraeon, a fydd yn fwy na pharod i drafod eich prosiect ymhellach gyda chi, neu gallwch lawrlwytho ffurflen gais. Cyn llenwi eich ffurflen gais, gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen nodiadau cyfarwyddyd y cynllun am ragor o fanylion ac i sicrhau'r holl wybodaeth gyswllt. 

Dychweler ffurflenni cais at:

Tîm Datblygu Chwaraeon
Y Byd Dŵr
Ffordd Holt
Wrecsam
LL13 8DH

Ffôn: 01978 292088
Ebost: sports.development@wrexham.gov.uk

yn ôl i'r brig