|
Mae amryw o wersi nofio ar gael i oedolion ar draws y sir gan gynnwys dysgu nofio (dechreuwyr), gwersi gwella, gwersi i rai 50 oed neu'n hŷn, gwersi i rai 60 oed neu'n hŷn, gwersi i ferched yn unig, gwersi yn ystod y dydd a gwersi gyda'r nos.
Mae gwersi nofio i oedolion yn para 30 munud ac yn cael eu cynnal gan athrawon lefel 2 yr ASA cymwys. Yn aml, bydd athrawon lefel 1 yr ASA wrth law i gynorthwyo hefyd. Anogir nofwyr i gymryd rhan yn eu hamser eu hunain ac yn aml caiff gwersi eu strwythuro o amgylch yr arddulliau / sgiliau y mae'r nofiwr am eu datblygu.
Datblygu Nofio a Gweithgareddau Dwr
|