Menter Nofio am Ddim Llywodraeth Cynulliad Cymru

Mae nofio am ddim yn fenter gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac mae wedi'i hanelu at blant a phobl ifanc 16 oed ac iau a phobl hŷn 60 oed ac yn hŷn.

Mae gan y fenter nofio am ddim nifer o amcanion:

  • Gwella iechyd y wlad
  • Datblygu ac atgyfnerthu cymunedau
  • Cael gwared ar rwystrau a gwella mynediad i blant / pobl ifanc / pobl anabl / lleiafrifoedd ethnig / pobl hŷn
  • Pontio'r bwlch rhwng bechgyn a merched o ran cyfranogiad
  • Symbylu cyfranogiad gweithredol yn y Gymraeg a'r Saesneg
  • Gwella safonau nofio
  • Ymgysylltu â phobl ifanc i ddatblygu diddordeb mewn gweithgareddau eraill

Nofio am ddim yn Wrecsam

Cynigir nofio am ddim yn Wrecsam i bob plentyn ac:

Holwch yn eich canolfan leol am amseroedd nofio am ddim.

Gweithgaredd strwythuredig am ddim

Fel rhan o’r fenter am ddim mae gweithgareddau strwythuredig am ddim ar gael i blant a phobl ifanc 16 oed ac iau yn ystod y gwyliau megis polo dŵr, water walkerz, sea-doos, nofio lonydd a sesiynau hwyl. Gall oedolion dros 60 oed roi cynnig ar weithgaredd strwythuredig am ddim yn ystod tymor yr ysgol. Mae gweithgareddau fel gwersi, snorcelu ac aerobeg ddŵr ar gael. Noder bod y gweithgareddau a gynigir yn amrywio o safle i safle.

Datblygu Nofio a Gweithgareddau Dwr

yn ôl i'r brig