Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Rhaglen Nofio i Blant

 

Caiff yr holl wersi nofio i blant ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam eu cynnal gan athrawon nofio Lefel 2 ASA cymwys ac mae'r holl wersi wedi'u strwythuro o amgylch Cynllun Cenedlaethol ASA ar gyfer Addysgu Nofio a amlinellir isod.

Cynllun Cenedlaethol yr ASA ar gyfer Addysgu Nofio (NPTS)

Trwy'r cynllun hwn, caiff plant sy'n methu â nofio eu datblygu i lefel cyn cystadlu gan ddilyn Cynllun Cenedlaethol ASA o Lefel Sylfaen trwodd i Lefel 10.

Mae'r NPTS yn darparu cysondeb clir o ran ymagwedd, strwythur, dulliau addysgu ac ansawdd yn genedlaethol ar draws yr holl byllau nofio sy’n cymryd rhan yn y DU. Mae’n annog disgyblion i ddatblygu ymagwedd, aml-sgiliau dyfrol gyda phwyslais ar hyder, cymhwysedd ac ymagwedd tuag at ddatblygu sgiliau sylfaenol.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf cafodd y Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysgu Nofio ei ddiwygio a’i ddiweddaru gan y Gymdeithas Nofio Amateur (ASA) ac mae bellach yn cynnwys 10 cam, 7 cam craidd sy’n datblygu’r sgiliau symud sylfaenol (dysgu nofio) a thri cham sy’n benodol i faes chwaraeon sy’n cyflwyno’r canlynol gan ddibynnu ar ba drywydd y mae’r nofiwr wedi penderfynu ei ddilyn boed hynny’n bolo-mini, nofio cydamserol, deifio, nofio cystadleuol a dosbarthiadau achub.

Mae’r Gymdeithas Nofio Amateur (ASA) yn rhestru’r canlyniadau canlynol o ddilyn Cynllun Cenedlaethol ASA

  • Cymhwysedd mewn dŵr
  • Hyder mewn dŵr
  • Nofio “diogel”
  • Mwynhau dŵr
  • Mwy tebygol o nofio gydol oes
  • Mwy tebygol o gael ffordd o fyw iach

Mae Cynllun Nofio Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn dilyn egwyddorion strategaeth ddatblygu hirdymor ASA i athletwyr sy’n dechrau gyda Chynllun Cenedlaethol yr ASA ar gyfer Addysgu Nofio.

Mae Cynllun Nofio’r Sir yn defnyddio set strwythuredig o wersi i ddarparu rhaglen o ansawdd uchel i roi’r cyfle i bob plentyn nofio mewn amgylchedd cyfeillgar. Cynhelir gwersi mewn blociau o 10 – 12 wythnos (gan ddibynnu ar y Ganolfan a hyd tymor yr ysgol) sy’n caniatáu digon o amser i blant ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo i basio pob lefel. Gan ddibynnu ar eu gallu/y ganolfan mae athrawon cynorthwyol wrth law yn y dŵr i’w helpu i fagu mwy o hyder. Mae tystiolaeth o’r ASA yn dangos bod plant yn fwyaf llwyddiannus o ran dysgu sgiliau newydd mewn amgylchedd sy’n cynnwys HWYL a gemau. Felly bydd llawer o wersi’r lefelau is yn cynnwys gemau a hwyl i addysgu sgiliau symud hollbwysig a hyder yn y dŵr.

Lefel Sylfaen / Cyn y Cynllun Cenedlaethol

I blant dan 5 oed, mae Cynllun Gwersi Nofio Wrecsam yn cynnig nifer o opsiynau o ddosbarthiadau oedolion a phlant (babanod a phlant bach 4 mis - 4 oed) i wersi ar ôl ysgol (dosbarthiadau Cyn y Cynllun Cenedlaethol a Sylfaen) i blant 3 - 4 oed.  Mae'r gwersi hyn yn dilyn lefel sylfaen Cynllun Cenedlaethol ASA.  Mae'r lefel sylfaen wedi'i rhannu'n bump cam, hwyaden fach 1-5.  Mae'r holl wersi i blant dan 5 oed yn cael eu cynnal gyda'r rhieni/gwarcheidwaid yn y dŵr gyda'r plant.

Camau 1-7

Mae camau 1-7 yn mynd â nofwyr o 5 oed a throsodd gan ddechrau gyda’r rheiny na allant nofio yng ngham 1 yn mynd ymlaen i ddilyn disgyblaeth ddŵr yng Ngham 7. Mae symud o un cam i’r llall yn seiliedig ar asesu parhaus, ac mae angen i nofwyr gyflawni pob canlyniad ar bob Cam i symud ymlaen i’r cam nesaf. Mae hyd yr amser y mae’n ei gymryd i nofiwr gyflawni pob cam yn dibynnu ar y nofiwr, pa mor gyflym mae’n dysgu, pa mor hyderus ydyw a faint o brofiad blaenorol  mae wedi’i gael yn  y dŵr. Peidiwch â disgwyl i’ch plentyn gwblhau Cam bob tymor gan y gallai gymryd mwy o amser na hyn i rai plant ennill pob dyfarniad. Bydd yr athro dysgu nofio yn rhoi atborth ar gyflawniadau eich plentyn ddwywaith y tymor ar ffurf ‘noson i rieni’ ar ganol y tymor ac adroddiad ysgrifenedig llawn ar yr holl sgiliau y gwnaethant roi cynnig arnynt ar ddiwedd y tymor.

Ar ôl cwblhau Cam o Gynllun Cenedlaethol ASA gellir prynu bathodynnau a thystysgrifau i gydnabod cyflawniad. Gan ddibynnu ar gynnydd y grŵp a dewis yr athro (neu gyfyngiadau'r cyfleuster yn eu gosod ar yr athro) gellir rhoi gwobrau ategol eraill yn ystod gwersi megis bathodynnau pellter, gwobrau goroesi personol a Gwobrau Herio.

Camau 8-10

Ar ôl cwblhau Cam 7 gall nofwyr ddewis pa lwybr i’w ddilyn. Mae camau 8-10 yn gamau sy’n benodol i faes chwaraeon gyda phob disgyblaeth ddŵr yn cael ei chynrychioli. Gall nofwyr naill ai ddewis polo-mini, troi a phlymio (plymio), hwyl yn y dŵr, (nofio cydamserol) neu nofio cystadleuol. Caiff nofio cystadleuol ei gynnal gan y ddau glwb nofio yn Wrecsam, (Dreigiau’r Waun a Chlwb Nofio Wrecsam) a chaiff y nofwyr hynny sydd am gwblhau Camau 8-10 o’u nofio cystadleuol eu gwahodd i ymuno â Chlwb Dreigiau’r Dŵr. Mae clwb Dreigiau’r Dŵr yn grŵp cyswllt rhwng gwersi nofio a sesiynau clybiau nofio. Bydd Bwrdeistref Sirol Wrecsam hefyd yn cynnig rhaglen achub (cyflwyniad i achub bywyd a thechnegau a sgiliau achub bywyd) a ailgynlluniwyd i gyd-fynd â Chamau 8-10.

Nodwch oherwydd natur benodol camau 8-10 na chynigir pob gweithgaredd ym mhob pwll. Felly cysylltwch â’ch pwll nofio lleol i ganfod pa weithgareddau a gynigir.

HeiNi’n Nofio i Blant

I’r nofwyr hynny nad ydynt am ymuno â’r clwb nofio ond a hoffai weithio ar eu techneg a’u stamina bydd Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cynnig HeiNi’n Nofio i Blant. Rhaglen nofio lonydd gydag athro yw hon ac fe’i cynigir i nofwyr sydd wedi cwblhau Cam 7.

Prifysgol y Plant

Mae Cynllun Nofio Wrecsam wedi’i gofrestru â Phrifysgol y Plant Wrecsam. Os yw plant yn dymuno casglu pwyntiau ar gyfer Prifysgol y Plant, dylent hysbysu’r athro nofio ar ddechrau’r tymor.

Datblygu Nofio a Gweithgareddau Dwr

 
English
 

Cyswllt i

Nofio
Rygbi
Tennis
Pêl-droed
Chwaraeon Anabledd
Iechyd
Hyfforddiant
Gwirfoddolwyr
AG a Chwaraeon Ysgol
Datblygu Chwaraeon
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint