Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Cymwysterau Nofio a Gweithgareddau Dwr

 

Cymwysterau'r Gymdeithas Achub Bywydau Frenhinol (RLSS), Cymhwyster Achubwr Bywydau y Pwll Cenedlaethol (NPLQ) a chymwysterau Athrawon Nofio'r ASA.

Mae NPLQ yr RLSS yn gwneud pobl yn gymwys i fod yn achubwyr bywydau.  Mae pob pwll nofio yn Wrecsam yn cyflogi achubwyr bywydau sydd â chymhwyster NPLQ yr RLSS er mwyn diogelu'r cyhoedd.  Caiff y cymhwyster ei adnewyddu bob 2 flynedd ac yn ystod y 2 flynedd, rhaid i achubwyr bywydau allu dangos tystiolaeth ysgrifenedig eu bod wedi cwblhau o leiaf 20 awr o hyfforddiant.  Fodd bynnag, mae gofyn i staff ym mhob pwll yn y fwrdeistref hyfforddi o leiaf unwaith y mis.  Mae nifer o safleoedd yn y fwrdeistref yn cynnig cyrsiau hyfforddi NPLQ.  Am fwy o wybodaeth am gymhwyster NPLQ yr RLSS, gweler y wefan achubwyr bywydau am fanylion.  Mae'r wefan hon yn cynnwys manylion eich cwrs agosaf hefyd.

Cymwysterau Athrawon Nofio'r ASA. Mae pob pwll nofio yn Wrecsam yn cyflogi staff sydd â chymwysterau'r ASA i addysgu nofio.  Mae Lefel 1 yr ASA yn gwneud athrawon yn gymwys i gynorthwyo athrawon lefel 2 i ddarparu gwersi.  Ar ôl cwblhau cwrs lefel 1 ac yn dilyn o leiaf 15 awr o addysgu (gallai hyn fod ar draws ystod o lefelau), gall athrawon fynd ymlaen i gwrs addysgu lefel 2.  Mae athrawon lefel 2 yn gymwys i addysgu dosbarth o hyd at 25 o fyfyrwyr (niferoedd yn ddibynnol ar allu'r grŵp a'r athro/athrawes) o rai sy'n methu â nofio trwodd i lefel hyfforddi (yn dibynnu ar y cymhwyster sydd gan yr athrawon).  Mae Canolfan Chwaraeon Gwyn Evans yn cynnig cymwysterau lefel 1 a 2.  Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Chanolfan Chwaraeon Gwyn Evans neu ewch i wefan yr ASA am fanylion am y cwrs neu i ddarganfod eich cwrs agosaf.

Chwaraeon dwr eraill

Mae'r Swyddog Datblygu Nofio yn ymdrechu i greu ystod o gyfleoedd i'r nofwyr a fyddai â diddordeb mewn cymryd rhan mewn gweithgareddau bob yn ail megis polo dŵr, nofio cydamserol, erobeg dŵr, ymarfer corff i ferched beichiog yn y dŵr, caiacio / canŵio, snorcelu, dan y dŵr, achub bywydau a deifio.

Swimfit yr ASA

Mae Wrecsam wedi bod yn ddigon lwcus i gael Swimfit trwy garedigrwydd Kelloggs. Mae Kelloggs wedi prynu 10,000 o aelodaethau Swimfit ar gyfer preswylwyr Wrecsam.  Mae Swimfit yn rhaglen campfa ar gyfer y pwll nofio sy'n anelu at wneud nofio yn fwynhad.  Bydd nofwyr lonydd yn cael budd o hyn trwy lawrlwytho rhaglenni nofio i'w dilyn yn y pwll gan wneud y profiad yn fwy amrywiol a diddorol i'w cadw'n llawn cymhelliant.

Cysylltiadau defnyddiol

ASA – www.britishswimming.org
WASA – www.welshasa.co.uk
Nofio am ddim – www.freeswimming.org
Lifesavers – www.lifesavers.org.uk
Llywodraeth Cynulliad Cymru - www.wales.gov.uk

Datblygu Nofio a Gweithgareddau Dwr

 
English
 

Cyswllt i

Nofio
Rygbi
Tennis
Pêl-droed
Chwaraeon Anabledd
Iechyd
Hyfforddiant
Gwirfoddolwyr
AG a Chwaraeon Ysgol
Datblygu Chwaraeon
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint