Datblygu Nofio a Gweithgareddau Dwr

Nod y Swyddog Datblygu Nofio a Gweithgareddau Dŵr yw cynyddu cyfranogiad mewn nofio a disgyblaethau dyfrol eraill ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam.  Mae hyn trwy wersi nofio'r ysgol, gwersi dysgu nofio a gwersi uwch, gwersi i oedolion a phlant, nofio am ddim, clybiau nofio a disgyblaethau dyfrol eraill.

Mae'r swyddog datblygu'n gweithio gyda dechreuwyr trwodd i athletwyr elitaidd yn y sir ac yn dilyn Cynllun Datblygu Gweithgareddau Dŵr cynhwysfawr.

Pam nofio?

Mae nofio'n weithgaredd y gall pawb gael mynediad ato ac nid yw byth yn rhy hwyr i ddysgu!  Nofio yw gweithgaredd mwyaf poblogaidd un yn y wlad hon o ran cyfranogiad (cerdded sydd ar y brig) ac mae'n ffordd wych o gyfarfod â phobl newydd a chadw'n heini ar yr un pryd.

  • Gall pobl ddysgu nofio ar unrhyw adeg - gallwch ddod yn fwy heini trwy nofio ar unrhyw adeg yn eich bywyd
  • Mae nofio'n llawer o hwyl
  • Nid oes raid i chi fod yn arbenigwr
  • Mae nofio'n weithgaredd cymdeithasol iawn
  • Bydd gallu nofio yn eich galluogi i gymryd rhan mewn llawer o chwaraeon a gweithgareddau eraill megis caiacio, syrffio, erobeg dŵr a pholo dŵr.
  • Mae nofio'n berffaith i helpu gordewdra, osteoarthritis a chlefydau cardiofasgwlaidd.

Gweithgareddau dŵr yn Sir Wrecsam

Cynhelir y gweithgareddau canlynol yn un neu fwy o byllau ledled y fwrdeistref

  • Gwersi i oedolion a phlant (4 mis - 4 oed)
  • Gwersi Sylfaen neu Cyn y Cynllun Cenedlaethol (3 - 4 oed)
  • Camau 1 - 7 y Cynllun Addysgu Cenedlaethol – Dysgu Nofio (5 oed ac yn hŷn)
  • Camau 8 – 10 y Cynllun Addysgu Cenedlaethol – nofio cydamseredig, polo dŵr mini, deifio, achub, nofio cystadleuol (i nofwyr sydd wedi cwblhau cam 7)
  • Heini’n Nofio Iau / Perfformiad
  • Clybiau Nofio (Clwb Nofio Wrecsam, Clwb Nofio Dreigiau’r Waun, Clwb Nofio Gwersyllt a Chlwb Nofio Pengwiniaid Llannerch Banna)
  • Gwersi Nofio i Oedolion (gan gynnwys gwersi i ferched yn unig a gwersi i rai 50 oed heu'n hŷn)
  • Nofio hamdden
  • Sesiynau hwyl i deuluoedd a sesiynau sblash (gyda theganau gwynt ac arnofion)
  • Nofio am ddim
  • Sesiynau Ymarfer Corff yn y Dŵr i Ferched Beichiog
  • Gwersi a chlwb achub bywydau
  • Dan y dŵr
  • Clwb canŵio
  • Aerobeg dŵr a ffitrwydd dŵr (loncian dŵr a chylchdeithiau dŵr)
  • Atgyfeiriadau meddyg teulu
  • Gwersi nofio ysgolion
  • Nofio i ferched yn unig
  • Meistri
  • Cymhwyster achubwyr bywydau y pwll cenedlaethol yr RLSS
  • Cyrsiau Addysgu Nofio'r ASA
  • HeiNi'n Nofio'r WASA
  • Swimfit yr ASA
  • Rhiant a Throchwr

Am fwy o wybodaeth am bethau sy'n digwydd yn eich pwll lleol, cysylltwch â'r canolfannau'n uniongyrchol:

yn ôl i'r brig