Clybiau nofio

Cysylltiadau â Chlybiau Nofio

Mae Cynllun Nofio Sir Wrecsam yn datblygu cysylltiadau â Chlwb Nofio Wrecsam a Chlwb Nofio Dreigiau’r Waun ar hyn o bryd. Yn y clybiau nofwyr gallant barhau i ddilyn Camau 8-10 Cynllun Cenedlaethol ASA a gwobrau eraill megis Gwobr Dechrau Cystadlu (Deifio), bathodynnau pellter, gwobrau cyflymder, gwobrau cyn cystadlu.

Gwahoddir pob nofiwr sydd ar lefel 8-10 i sesiwn rhagflas eu clwb nofio lleol. Mae hwn yn ffordd arall o ymuno â’r clybiau.

Caiff clybiau nofio eu gwahodd hefyd i fynd i nifer o wersi nofio ysgol (yn dilyn ymgynghoriad ag ysgolion ac athrawon nofio) i nodi nofwyr ifanc dawnus. Bydd cynrychiolwyr y clwb hefyd yn rhoi cyflwyniadau byr i’r nofwyr am eu clwb. Mae’r clybiau nofio hefyd yn gysylltiedig â chynnal pob gala nofio i ysgolion, gan ddarparu beirniaid lonydd, dechreuwyr a dyfarnwyr.

Nofio’r ysgol

Fel rhan o’r Cwricwlwm Cenedlaethol, mae holl blant cyfnod allweddol 2 yn gorfod cymryd rhan mewn gwersi nofio ac mae’r Llywodraeth yn disgwyl i bob plentyn allu nofio 25 metr heb help pan fyddant yn gadael yr ysgol gynradd. Felly mae pob pwll ar draws y fwrdeistref yn darparu gwersi nofio ysgol yn ystod y tymor o ddydd Llun i ddydd Gwener (dyddiau/amseroedd yn amrywio ym mhob pwll). Mae rhai ysgolion yn dewis dod â phlant cyfnodau allweddol 1, 3 a 4 hefyd.

Datblygu Nofio a Gweithgareddau Dwr

yn ôl i'r brig