Hyfforddiant Tennis

Addysg i Hyfforddwyr

Rydw i’n ystyried hyfforddi neu ddysgu tennis – sut ddylwn i ddechrau?

P’un ai ydych chi’n gobeithio hyfforddi’n broffesiynol neu helpu mewn clybiau lleol neu ysgolion. Mae cyrsiau ar gael yn lleol i’ch helpu i ddechrau. Yn ychwanegol, mae amrywiaeth o gyrsiau ar gyfer athrawon ysgol.

Manylion y cyrsiau

Cyrsiau Athrawon Nestle

Mae’r rhain ar gyfer athrawon cymwysedig. Darperir pecyn adnoddau penodol i gefnogi’r holl gyrsiau. Cyflwynir tystysgrif i brofi presenoldeb!

  • Cyfnod Allweddol 1/2 (Tennis Byr)

    Cwrs 4 awr sy’n cyflwyno tennis yng Nghyfnod Allweddo1 / 2 i athrawon ysgolion cynradd a cynorthwywyr cwricwlaidd mewn ysgolion gan gysylltu â chlybiau sy’n cynnig rhaglenni Tennis Byr drwy gydol y flwyddyn.

  • Cwrs Cyfnod Allweddol 2

    Cwrs 2 awr sy’n cyflwyno tennis yng Nghyfnod Allweddol 2 i athrawon a chynorthwywyr cwricwlaidd.

    Mae tiwtoriaid yn canolbwyntio ar ddysgu gweithgaredd dysgu tennis mewn ysgolion cynradd yn yr amser ysgol ac amser allgyrsiol ychwanegol.

  • Cwrs Modwl Cyfnod Allweddol 3/4

    Cwrs 3 awr sy’n cynnig dau sesiwn 90 munud sy’n dysgu’r elfennau canlynol: dysgu grwpiau mawr o alluoedd cymysg, ymagwedd sy’n seilidig ar y gêm, technegau ar gyfer y gêm gyfoes, gemau sengl - arferion timau ysgol, dyblau – arferion timau ysgol.

  • Cwrs Cyfnod Allweddol 3/4

    Cwrs 7 awr sy’n canolbwyntio ar ddysgu grwpiau mawr gyda galluoedd amrywiol yng Nghyfnod Allweddol 3 /4.

    Mae tiwtoriaid a hyfforddwyd yn arbennig yn canolbwyntio ar amrywiol themau o ddysgu dechreuwyr i weithio gyda chwaraewyr fwy profiadol a thimau ysgol.

yn ôl i'r brig

Cyrsiau i Addysgu Hyfforddwyr

Mae’r GTL yn cynnal ystod lawn o gyrsiau i helpu datblygu hyfforddwyr tennis sydd i gynorthwyo chwaraewyr i gael mwy allan o’u tennis.

  • Cwrs Cynorthwywyr Tennis

    Y Cwrs Cynorthwywyr Tennis yw’r cyntaf o Gyrsiau Addysgu i Hyfforddwyr GTL. Anelir at y rheini sydd â diddordeb mewn cynorthwyo datblygiad tennis mewn clybiau ac ysgolion. Mae’r cymhwyster hwn yn rhag- ofyniad ar gyfer y cymhwyster nesaf.

    Mae’r cwrs hwn am 12 awr dros gyfnod o 2 ddiwrnod.

    Cynnwys y cwrs - cyfathrebu, cydsymud sylfaenol, tennis byr, deallt twrnameintiau, trefniadaeth, tennis cyn-ysgol, tennis i ddechreuwyr.

    Gellir cael ffurflenni cais a gwybodaeth ynghylch dyddiadau a safleoedd ar wefan GTL.

  • CYRSIAU I GYNORTHWYWYR TENNIS BYR A CHYNORTHWYWYR CLYBIAU PLANT

    Gweler gwefan CTL am wybodaeth bellach.

    Mae’n raid i gynorthwywyr fod wedi mynychu’r cwrs i Gynorthwywyr Tennis neu feddu ar Dystysgrif Cymorth Cyntaf a gymeradwywyd, a chan i CTL feddu ar Bolisi Diogelu Plant llym, Tystysgrif Datguddio oddi wrth y Cofnodion Troseddol.

Mae cyrsiau ychwanegol ar gael ond bydd y cyrsiau uchod yn eich helpu i ddechrau. Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch yngHylch cyrsIau hyfforddi gweler gwefan CTL neu cysylltwch â’r Swyddog Datblygu Tennis lleol.

yn ôl i'r brig