Gwybodaeth Arall Ynghylch Tennis

Cymorth i Glybiau Tennis

Rydw i am adeiladu neu wella cwrs tennis – ym mhle ydw i’n dechrau?

Cysyllter â’r Swyddog Datblygu Tennis neu wefan CTL.

Sut mae clwb tennis yn cysylltu â’r CTL?

Dylai clybiau tennis Wrecsam gysylltu â Pam Alford ar 01978 352773.

Pa gynlluniau ariannu sydd ar gael?

Mae manylion cynlluniau i glybiau a chymdeithasau sy’n gysylltiedig yn ogystal â’r rhai sydd â’r potensial i fod yn gysylltiedig. Cysyllter â’r Swyddog Datblygu Tennis neu wefan CTL.

Beth yw maint cwrt tennis cyffredin?

Gall Adran Gyfleusterau CTL gynghori a chynorthwyo clybiau, ysgolion ac awdurdodau lleol sy’n ymgymryd â phrosiectau i ddatblygu neu wella cyfleusterau tennis.

yn ôl i'r brig

Rheolau Tennis

Rydw i angen gwybod rhywbeth ynglyn â rheolau tennis.

Gweinyddir y rheolau gan y Ffederasiwn Tennis Rhyngwladol a gellir dod o hyd iddynt ar eu gwefan.

Tennis i’r rhai ag anableddau

Tennis mewn cadair olwyn

Mae’r ganolfan tennis yn gwbl hygyrch ac mae rhaglenni hyfforddi a thwrnameintiau ar gael i ddechreuwyr a rhai sy’n gwella. Sefydlwyd cysylltiad hefyd yn lleol â’r Uned Anafiadau i’r Asgwrn Cefn.

Tennis ar gyfer pobl ag anabledd dysgu

Mae rhieni chwaraewyr lleol wedi sefydlu Clwb Tennis Olympaidd DU Arbennig (SOUK) yng Nghanolfan Tennis, Wrecsam. Sefydlwyd cysylltiadau hefyd gyda Choleg Iâl a Chanolfan Cefnogi Gwersyllt.

Tennis i’r Byddar

Mae cyfleoedd ar gael ar lefel genedlaethol ar gyfer cystadleuthau. Gwnaed gwaith hefyd gydag ysgolion lleol. Mae chwaraewyr hefyd yn integreiddio gyda sesiynau hyfforddi cyffredin.

yn ôl i'r brig

Gwylio tennis

Ym mhle allaf wylio tennis da?

  • Yn genedlaethol

    Gellir gweld tennis ym Mhrydain mewn unrhyw ddigwyddiad pwysig megis Cwpan Davis a’r pencampwriaethau yn Wimbledon. Ewch i gael golwg ar wefan y Ffederasiwn Tennis Cenedlaethol am wybodaeth ynghylch ATPTOUR (dynion) a WTA (merched) am ddigwyddiadau eraill ym Mhrydain.

  • Yn lleol

    Mae Wrecsam wedi cynnal tennis rhyngwladol heriol i ddynion ar gyfer chwaraewyr sydd ychydig y tu allan i’r 100 uchaf. Gellir gweld chwaraewyr da a’r rhai sy’n datblygu yn y digwyddiadau hyn. Mae mynediad am ddim, felly beth am ddod draw i gael cip ar ser y dyfodol.

Sut allaf gael tocynnau i weld y pencampwriaethau yn Wimbledon a phryd mae’r rhain yn digwydd?

Mae sawl ffordd o gael tocyn i’r pencampwriaethau. Mae’n bosibl gwneud cais am docynnau un ai drwy gymryd rhan yn y dosbarthiad tocynnau cyhoeddus sy’n cau ddiwedd mis Rhagfyr neu drwy ddod yn Aelod Manteisiol o’r CTL. Gall aelodau o glybiau tennis cysylltiedig hefyd dderbyn tocyn drwy ysgrifenyddion eu clwb neu drwy dynnu enw o’r het yn y clwb.

Gwefan swyddogol Wimbledon am fanylion llawn ynghylch ticedi

yn ôl i'r brig