NewyddionAmcan y Swyddog Datblygu Tennis yw darparu cyfleoedd chwarae tennis ledled Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar gyfer pobl o bob oedran a gallu.
Darparu cyfleoedd i ddechrau chwarae’r gêm drwy ysgolion, clybiau a lleoliadau eraill.
Creu cyfleoedd i bob chwaraewr gyflawni eu potensial llawn i chwarae tennis.
Creu cyfleoedd i athrawon, chwaraewyr, a rhieni i ddysgu tennis drwy gyrsiau addysg i hyfforddwyr tennis.
Mae gan Wrecsam 6 Clwb tennis ar gyfer oedolion a phlant, canolfan tennis o dan do a pharc a chyrtiau sydd ar gael i’w hurio mewn canolfan hamdden.
Canolfan Tennis Rhanbarthol Gogledd Cymru, Ffordd Plas
Coch, Wrexham. LL11 2BW
Ffôn: 01978 265260
Ffacs: 01978 362730
Clwb Tennis Hanmer
Ffôn: 01948 710499
Clwb Tennis Brymbo
Ffôn: 01978 265768
Clwb Tennis Gresffordd a Merffordd
Ffôn: 01978 855016
Clwb Oedolion Wrecsam
Ffôn: 01978 710467
Clwb Plant Wrecsam
Ffôn: 07718 752934
Clwb Tennis Owrtyn
Ffôn: 01978 710467
Cymuned tennis ar-lein Prydain.
Parc Bellevue, Bellevue, Wrecsam.
Parc Acton, Acton, Wrecsam.
Parc Ponciau, Rhos, Wrecsam.
Nid oes raid talu i ddefnyddio’r cyrtiau hyn.
Am
wybodaeth bellach ynghylch cyrtiau tennis a reolir gan y Gwasanaethau
Cymunedol >>
Mae Tennis Byr yn gêm liwgar a hwyliog a luniwyd yn arbennig i ddatblygu gyda’r plant fel mae eu sgiliau’n datblygu.
Mae gan Wrecsam galendr llawn o ddigwyddiadau ar gyfer pob oedran a gallu. Cynhelir digwyddiadau i unigolion a thimau mewn clybiau, ysgolion a’r ganolfan tennis. Am fwy o wybodaeth ynghylch digwyddiadau lleol a sut i gymryd rhan cysyllter â’r Swyddog Datblygu Tennis.
Dysgu TennisMae sesiynau hyfforddi unigol a grwp ar gael yn y rhan fwyaf o safleoedd tennis yn Wrecsam. Am wybodaeth fwy penodol cysyllter â’r safleoedd neu’r Swyddog Datblygu Tennis.
Beth bynnag fo’ch oedran neu allu bydd sesiwn addas i chi. Mae gan ysgolion, clybiau a’r ganolfan tennis ystod eang o grwpiau a sesiynau unigol ar gyfer chwaraewyr newydd i’r gêm. Mae gan y ganolfan tennis hefyd raglen perfformiad gan Phil Leighton ar gyfer y chwaraewyr hynny sydd am fod yn chwaraewyr proffesiynol. Mae cyfleoedd hefyd i famau a thadau i gymryd rhan drwy grwpiau tennis a chyrsiau cymdeithasol. Am wybodaeth ynghylch grwpiau a chyrsiau cysyllter â’r safle neu’r Swyddog Datblygu Tennis.
Rhaglen Haf 2005
Mae'r rhaglen ar gael ar y ffurfiau canlynol:
Rhaglen Haf 2005 - Fersiwn Word 497Kb ![]()
Rhaglen Haf 2005 - Fersiwn PDF 301Kb ![]()
|
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader. |
I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. |
Canolfan Tennis Rhanbarthol Gogledd Cymru
Ffordd Plas Coch
Wrecsam
LL11 2BW
Ffôn: 01978 265260
Ffacs: 01978 362730