| “Oni bai am wirfoddolwyr,
ni fyddai’r rhan fwyaf o chwaraeon yn gallu ffynnu. Mae’n
fwy na hobi i’r rhan fwyaf o wirfoddolwyr, gan eu bod yn broffesiynol
ac yn ymroddgar, ac eisiau bod y gorau y gallant fod.” |
| “Roedd Stuart Owen yn
un o’m hyfforddwyr ac roedd yn rheoli tîm criced plant
Abertawe pan oeddwn yn iau. Roedd yn darparu gemau y gallwn chwarae
ynddynt, fe roddod y cyfleoedd y mae gan bob plentyn ei angen i
gyrraedd y brig gan hyfforddi ar yr un pryd.” |
Os oes gennych rhywfaint o brofiad mewn chwaraeon arbennig ac mae gennych ddiddordeb mewn bod yn hyfforddwr, y cam cyntaf yw mynychu cwrs hyfforddi sylfaenol. Mae Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol yn cynnal eu cyrsiau eu hunain ar gyfer dechreuwyr hyd at hyfforddwyr o lefel cenedlaethol. Mae cyrsiau dechreuol (arweinwyr) yn galluogi unigolion i arwain eraill mewn gweithgareddau chwaraeon, yn aml yn cynorthwyo hyfforddwyr eraill i ddarparu profiadau diogel sy’n llawn mwynhad. Yn dilyn y cyflwyniad dechreuol i hyfforddi mae cyfres o lefelau hyd at y lefel uchaf, sef hyfforddi sgwadiau cenedlaethol.
Cynhelir y rhan fwyaf o gyrsiau dechreuol yn lleol. Am restr lawn o gyrsiau edrychwch ar Cyrsiau Hyfforddiant.
Gallech fod ynghlwm wrth raglen Campau’r Ddraig yn eich clwb lleol neu ysgol. Mae Campau’r Ddraig yn darparu plant ysgol gynradd gyda chyfleoedd chwaraeon priodol a hwyliog. Edrychwch ar dudalen Dragon Sport page or their web site.
Mae nifer o ffyrdd y gallech fod yn gysylltiedig â chwaraeon eich plentyn. Bydd graddau eich cysylltiad yn dibynnu ar yr amser y gellwch ei gynnig.
Gellwch:
Efallai y canfyddwch eich hun yn ceisio jyglo eich hymrwymiadau i wneud amser i chwaraeon eich plentyn. Ceisiwch gydbwyso eich hanghenion gydag anghenion eich plentyn y gorau gellwch. Byddwch yn realistig gyda’r cyfraniad y gellwch ei gynnig.
Bydd yr amser a’r ymdrech a roddwch i chwaraeon yn rhoi sawl profiad gwerthfawr i’r ddau ohonoch.
Rhan yn unig yw chwaraeon o fywyd eich plentyn
Canmolwch ac anogwch eich plentyn i wella
Cynigiwch wahanol gyfleoedd chwaraeon
Ceisiwch osgoi pwyso ar eich plentyn
Ceisiwch roi arweiniad drwy esiampl dda
Meithrin yr angen am ymroddiad
Dangoswch gefnogaeth
Dylid annog chwarae teg
Ceisiwch ddeall yr hyn mae eich plentyn yn ei ddymuno oddi wrth chwaraeon
Nid yn unig yw chwaraeon i blant ond i chwithau hefyd
Cytuna sawl un bod gwirfoddolwyr yn allweddol i ddatblygu chwaraeon
yng Nghymru.