Fel rhan o'n hymroddiad i sicrhau y rhoddir pob cyfle i athletwyr ifainc dawnus symud ymlaen yn eu dewis chwaraeon, mae gan Adran Hamdden Wrecsam ddau gynllun a all helpu.
Gall unigolion ifainc dawnus ymgeisio am grantiau unigol i'w helpu gyda'u treuliau.
Dylai ceisiadau fod mewn perthynas ag unigolion yn hytrach na grwpiau.
O ddewis, dylai ymgeiswyr fod dan 25 oed, mewn addysg neu hyfforddiant llawn amser.
Dylai ymgeiswyr fyw yn Sir Wrecsam neu dylai fod ganddynt gysylltiadau â'r ardal.
Dylai ymgeiswyr llwyddiannus fod yn barod i fynd i ddigwyddiad a drefnir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam unwaith y flwyddyn a thelir treuliau rhesymol am hyn.
Mae'r Cyngor yn cadw'r hawl i gysylltu ag unrhyw sefydliad lleol neu genedlaethol mewn cysylltiad â chais.
Dylai ymgeiswyr fod yn athletwyr o safon sirol, cenedlaethol neu ryngwladol neu dylid ystyried eu bod â'r potensial i gyrraedd y safonau hyn.
Mae'r ffurflen gais ar gael ar y ffurfiau canlynol:
Ffurflen Gais Nawdd Chwaraeon - Fersiwn Word 51Kb ![]()
Ffurflen Gais Nawdd Chwaraeon - Fersiwn PDF 95Kb ![]()
Ffurflen Gais Nawdd Chwaraeon - Testun Plaen 138Kb ![]()
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.
Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.