Y Map a Datganiad Diffiniol yw cofnod cyfreithiol y Cyngor o Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn Wrecsam ac fe’i paratowyd yn ôl darpariaethau Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949. Mae’n dangos llwybrau cyhoeddus, llwybrau ceffylau, cilffyrdd cyfyngedig a chilffyrdd sy’n agored i holl draffig (BOAT). Mae’n dystiolaeth bendant o fodolaeth yr hawliau tramwy er y dylid sylwi y gall fod Hawliau Tramwy Cyhoeddus nad ydynt yn cael eu dangos ar y map a bod hawliadau’n cael eu gwneud byth a hefyd i ychwanegu llwybrau o’r fath.
Dim ond trwy orchymyn cyfreithiol y mae modd newid y Map a Datganiad Diffiniol. Bydd unrhyw orchymyn sy’n cynnig newid hawliau tramwy sy’n cael eu dangos ar y map neu ychwanegu llwybrau at y map yn cael ei hysbysebu fel bod cyfle i bawb gyfranogi a gwneud sylwadau ar y cynnig.
Dyddiad perthnasol y Map Diffiniol ar gyfer Wrecsam yw 31ain Hydref 1978.

© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded 100023429. 2009
Cymorth gyda’r Map – fformat Word 36Kb ![]()
Cymorth gyda’r Map – fformat PDF 32Kb ![]()
Nodyn pwysig – Mae’r hyn sydd ar y map hwn er gwybodaeth yn unig a rhaid peidio â dibynnu arno at ddibenion cyfreithiol neu statudol na dibenion ffurfiol eraill. Mae modd edrych ar y cofnod cyfreithiol o Hawliau Tramwy, sy’n dwyn yr enw Map a Datganiad Diffiniol, trwy drefniant gyda’r Uned Hawliau Tramwy. I wneud trefniant, ffoniwch 01978 292057 neu e-bostio rightsofway@wrecsam.gov.uk.
|
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader. |
I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. |