Hawliau Tramwy Cyhoeddus

Mae dros 850 cilomedr (525 milltir) o hawliau tramwy cyhoeddus cofnodedig ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam.

P'un ai a ydych yn teithio i ac o'r gwaith, yn gwneud ymarfer corff i ostwng eich pwysedd gwaed neu'n cerdded i ymlacio ac i anghofio am straen bywyd modern mae ein rhwydwaith o lwybrau troed, llwybrau march a chilffyrdd yn cynnig rhwydwaith o lwybrau godidog. Dilynwch nhw a chewch weld tirlun coeth a threftadaeth fwyaf hudol y fwrdeistref sirol.

Yn Wrecsam mae gennym dri math o Hawliau Tramwy Cyhoeddus:

Llwybr Cyhoeddus - Mae gan y cyhoedd hawl i basio ac ailbasio ar droed yn unig.

Llwybr March Cyhoeddus - Mae gan y cyhoedd hawl i basio ac ailbasio ar droed, ar geffyl neu drwy arwain ceffyl â llinyn ac ar feic pedalau.

Cilffordd Ar Agor I'r Holl Draffig - Mae gan y cyhoedd hawl i basio ac ailbasio ar droed, ar geffyl neu drwy arwain ceffyl â llinyn, ar feic pedalau neu mewn cerbyd ond defnyddir y ffordd yn bennaf gan gerddwyr a / neu geffylau.

Gwaherddir cerbydau rhag defnyddio'r llwybrau troed a'r cilffyrdd ac mae'n drosedd gyrru arnynt oni bai eich bod yn dirfeddiannwr, yn derbyn caniatâd gan y tirfeddiannwr neu fod gennych hawl i ddefnyddio cerbyd preifat ar dir sy'n rhedeg ochr yn ochr â'r ffordd.

Yn ogystal â'r hawliau tramwy uchod, mae milltiroedd amrywiol o ffyrdd annosbarthedig heb fetlin distaw yn y sir sy'n addas ar gyfer y lleiafswm posibl o draffig cerbydau.

Gwybodaeth Bellach

Cyswlltwch â Hawliau Tramwy Cyhoeddus

yn ôl i'r brig