Teithiau Cerdded yng Nghefn Gwlad ger Wrecsam - Broughton

Lawrlwytho’r daith gerdded hon

Anfon lluniau o'r daith gerdded hon atom | Anfon e-bost atom am y daith gerdded hon

Broughton – Cerney – Nant – Moss – Pentre Broughton

Oddeutu 4 ½ milltir / 2 awr 30 munud

Man cychwyn y daith gerdded hon yw Neuadd Goffa/Llyfrgell Brynteg, sydd oddeutu 3 milltir o ganol tref Wrecsam, ac mae hi’n mynd trwy Broughton, trwy ardal wledig hardd ac ar hyd llwybrau coetir.  Wedyn mae’r llwybr yn mynd ar i lawr trwy ffermdir lle cewch chi olygfeydd bendigedig o Gresffordd, Gwastadeddau Sir Gaer a’r gwaith dur hanesyddol ym Mrymbo.

Sut i fynd i’r man cychwyn yn y car

O ganol tref Wrecsam dylech anelu am y B5101, sef Ffordd y Bers.  Trowch i’r dde a mynd ar hyd Ffordd Gatewen a mynd yn eich blaen hyd nes byddwch yn cyrraedd y B5433. Trowch i’r chwith a mynd ar hyd Ffordd y Chwarel a bydd y man cychwyn i’w weld ar y chwith.

Parcio

Mae lleoedd parcio ar gael yng Nghanolfan Goffa Brynteg.

Bysiau

Ewch ar y bws rhif 12 i Frymbo o Ganol Tref Wrecsam. Am ragor o wybodaeth ffoniwch 01978 266166.

  • Sylwer:  gallai’r daith gerdded hon fod yn fwdlyd a llithrig mewn rhai mannau felly cofiwch wisgo esgidiau addas a chymryd pwyll.
  • Nid yw’r llwybr hwn yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn na chadeiriau gwthio.
  • Nid oes camfeydd ar y daith gerdded hon, ond mae grisiau, gatiau mochyn a llethrau serth arni.

Teithiau Cerdded yng Nghefn Gwlad ger Wrecsam - Broughton

Mae'r teith ar gael ar y ffurfiau canlynol:

Teithiau Cerdded yng Nghefn Gwlad ger Wrecsam - Broughton - Fersiwn Word 37Kb

Teithiau Cerdded yng Nghefn Gwlad ger Wrecsam - Broughton - Fersiwn PDF 57Kb

Teithiau Cerdded yng Nghefn Gwlad ger Wrecsam - Broughton - Fersiwn Testun Plaen 33Kb

Map

Mae'r teith ar gael ar y ffurfiau canlynol:

Map Teithiau Cerdded yng Nghefn Gwlad ger Wrecsam - Broughton - Fersiwn PDF 1.5Mb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.

 

I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan microsoft i ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word

Anfonwch eich lluniau atom!

Anfonwch eich hoff luniau digidol o’r daith gerdded hon atom trwy’r e-bost.  Bydd detholiad o’r goreuon yn cael ei ddefnyddio i ddarlunio’r dudalen am y daith gerdded hon.  Bydd eich enw’n ymddangos o dan y llun.  Byddwn yn ystyried pob math o luniau – pobl, adeiladau, tirluniau, bywyd gwyllt – cyn belled a’ch bod wedi’u tynnu wrth ddilyn y daith gerdded hon.  Sicrhewch eich bod yn nodi pa daith gerdded y tynnwyd y lluniau arni.  Gweler yr ymwadiad.  Anfonwch eich lluniau at rightsofway@wrexham.gov.uk.

yn ôl i'r brig