Brymbo a Bwlchgwyn

Llwybr - Brymbo a Bwlchgwyn (5 milltir / 3.5 awr)

Brymbo – Mount Pleasant – Bwlchgwyn – Mynydd Seion - Brymbo

Mae’r daith hon yn cychwyn wrth dafarn y “George and Dragon” (cyfeirnod grid SJ 294541) ym mhentref Brymbo, ychydig o filltiroedd i’r gogledd orllewin o Wrecsam. Ceir golygfeydd panoramig rhagorol o Wrecsam a Gwastadedd Swydd Gaer ar y daith. Mae’r llwybr yn mynd trwy ddyffrynnoedd coediog deniadol ac yn croesi tir fferm agored, gan fynd heibio llawer o nodweddion yn deillio o orffennol diwydiannol yr ardal. Mae’r gymysgedd o gynefinoedd yn caniatáu i’r cerddwr cael profiadau newydd a gwahanol trwy’r tymhorau.

Man Ewch ar yr A525 i gyfeiriad Rhuthun o ganol tref Wrecsam. Ar ôl
cychwyn: croesi’r A483 trowch i’r ail ffordd ar y dde i gyfeiriad Brymbo. Trowch i’r ail ffordd ar y dde ar hyd y ffordd hon ar ôl tua milltir. Yn y gyffordd T trowch i’r dde ar y B5101. Ewch trwy bentref Lodge a thafarn “Y Tai” ar y dde, cyn troi i’r chwith i fyny’r allt ger arwydd cartref preswyl Pen y Garth. Trowch i’r dde a dilyn yr arwyddion maes parcio.

Parcio: Mae maes parcio bychan gyferbyn â’r ysgol ar y ffordd i’r dafarn. Gellir gweld y “George and Dragon” yn uwch i fyny’r allt ar yr ochr chwith o fynedfa’r maes parcio.

Bysiau: Mae bysiau rhif 12 a 13 yn cysylltu Brymbo a Wrecsam. Gwybodaeth am amseroedd bysiau: 01978 266166.

Map: Mae Map Explorer 256 Arolwg Ordnans yn cwmpasu’r ardal hon, ond bydd y darn a roddwyd i chi yn ddigonol ar gyfer y daith hon.

  • Dylid nodi y gallai’r llwybr yma fod yn fwdlyd mewn mannau ac argymhellir gwisgo esgidiau addas.
  • Dydy’r llwybr ddim yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn, coetsys babi na phlant bach.

Cyfarwyddiadau’r Daith

Sefwch â’ch cefn at dafarn y “George and Dragon (1) a cherddwch i fyny’r ffordd i’r dde. Hon ydy Ffordd Pen y Graig. Ewch heibio ffordd cul de sac “Poppy Field” ar y dde i chi. Wrth i chi gerdded i fyny’r allt byddwch yn mynd heibio Rocko (2) ar y chwith i chi, cerflun sy’n cyfleu ac yn cofio am orffennol diwydiannol diweddar Brymbo. Cewch oedi yma ac edrych yn ôl ar y golygfeydd godidog dros y tirwedd.

Mae seddau ar hyd y llwybr at y cerflun ac mae’r placiau arnyn nhw yn dangos enwau teuluoedd a fu’n gweithio yn y gweithfeydd dur yn y gorffennol. Mae carreg ar wahân hefyd sy’n bortread cerfweddol o John Wilkinson, un o’r meistri haearn lleol. Bu’r cerflunydd yn gweithio â’r gymuned ac ymgynghorodd â phobl leol i greu gwaith a oedd yn adlewyrchu treftadaeth ddiwydiannol yr ardal. Mae dyluniad y cerflun wedi ei seilio ar ddelweddau o’r hen waith dur a awgrymwyd gan gynweithwyr y safle – y dur poeth, maint enfawr y peiriannau a’r gwres tanbaid.

Wrth i chi fynd yn eich blaen ar hyd Ffordd Pen y Graig edrychwch ar y potiau simne cain amrywiol ar y tai. Fe ddewch chi at groesffordd. O’ch blaen, i’r chwith i’r dderwen fawreddog, mae Ffordd Brake.

Y dderwen (3) ydy un o’n coed sy’n byw hiraf, dros nifer o genedlaethau. Defnyddid hen goed derw am y rheswm yma gan y Derwyddon, brenhinoedd a’r Eglwys ar gyfer cyfarfodydd a seremonïau pwysig. Roedden nhw’n cael eu plannu i ddynodi ffiniau oherwydd eu hirhoedledd a’u cryfder i oroesi am gannoedd o flynyddoedd. Mae’n cymryd tua 70 i 80 o flynyddoedd cyn i dderwen ddechrau cynhyrchu mês. Erbyn hynny bydd y boncyff tua 20 modfedd o ddiamedr, ond bydd yn parhau i fod yn goeden ifanc yng nghylchred bywyd derwen!

Cerddwch i fyny’r lôn wledig goediog hon. Wrth iddi wyro i’r chwith ewch ar hyd y lôn ar y dde, gan fynd heibio’r tŷ cerrig ar y chwith i chi. Yna wrth i’r lôn wyro i’r dde fe welwch chi gamfa o’ch blaen nesaf at giat mawr sy’n fynedfa i gae. Croeswch y gamfa a mynd yn eich blaen trwy’r llwyni eithin. Wrth i’r prif lwybr wyro i’r chwith ewch ar hyd y llwybr llai i’r dde. Fe welwch chi Bwll Brymbo ar y dde ar draws y cae.

Roedd Pwll Brymbo (4) yn llyn naturiol yn gorchuddio 3 erw ar un adeg. Cafodd ei ymestyn i 5 erw yn 1892, a’i ehangu eto i gwmpasu 8 erw yn 1958. Ei ddiben oedd darparu ffynhonnell barhaus o ddŵr i’r gwaith dur. Yn dilyn cau’r gwaith dur cafodd y pwmpiau a ddefnyddid i lenwi’r pwll eu dadgomisiynu. Arweiniodd hyn at gwymp dramatig yn lefel y dŵr yn y pwll, ac roedd gwely’r pwll yn gollwng hefyd. Gwnaed gwaith adfer i selio gwely’r pwll â chlai yn ystod 1996, gan atal colli rhagor o ddŵr. Mae arwynebedd presennol Pwll Brymbo tua 3 erw eto erbyn hyn.

Daliwch i fynd ar hyd y llwybr hwn heibio i weddillion gwrych sydd wedi gordyfu ar y dde i chi. Wrth i chi ddod yn nes at y strwythur carreg mawr dilynwch y llwybr ar y dde tuag at gornel y cae. Simne potel (5) ydy’r adeilad hwn.

Adeiladwyd y simne, sy’n dyddio’n ôl i gyfnod John Wilkinson, rhwng 1792 a 1794. Dyma un o’i brosiectau diwydiannol cynharaf yn yr ardal ac roedd yn ffurfio rhan o’i ffatri mwyndoddi plwm gerllaw. Roedd y simne yn fwy na chan troedfedd (32 metr) o uchder unwaith, cyn cael ei dymchwel yn 1962, gan adael y gweddillion 25 troedfedd (8 metr) o uchder sy’n weddill heddiw.

Ewch dros y gamfa yng nghornel y cae, ewch i’r chwith a dilyn y llwybr ar i lawr trwy goed celyn mawr, aeddfed. Fe welwch chi dŷ mawr o’ch blaen chi. Dyma Hurricane House (5), cartref preifat a saif drws nesaf i hen safle gweithfeydd plwm Wilkinson. Gyda’r tŷ ar y dde i chi ewch trwy giat y cae a mynd i’r chwith tuag at Ffordd Mwynglawdd.

Byddwch yn ofalus wrth i chi droi i’r chwith ar Ffordd Mwynglawdd a cherdded ar ei hyd am tua 50 metr nes i chi weld camfa yn y gwrych ar y dde i chi. Ewch dros y gamfa a mynd ar i lawr ar draws y cae gan gadw’r gwrych ar y chwith i chi. Wrth i chi groesi’r ddwy gamfa nesaf at giatiau’r cae fe wnewch chi sylwi ar y gwrychoedd cyfochorog sy’n agos at ei gilydd.

Mae’r rhain yn dynodi llwybr hen reilffordd (6), sef trac “Rheilffordd Mwynau Mwyngladd” a oedd yn cludo calch, mwyn a glo o bwll glo Pen y Coed gerllaw i waith dur Brymbo.

Cadwch y gwrych ar y chwith i chi eto wrth i chi gerdded ar i lawr ar draws y cae nesaf. Ewch heibio’r bont bren fechan ar y chwith i chi a mynd i lawr i’r dyffryn coediog. O’ch blaen mae pont garreg hardd sy’n croesi’r dyffryn cyfareddol hwn â’i ochrau serth. Croeswch y bont a’r gamfa gerllaw o’ch blaen, cyn dod yn ôl i ffermdir agored.

Gan gadw’r goedwig ffawydd a’r gwrych ar y chwith i chi cerddwch ar i fyny at y gamfa nesaf. Cewch droi ac edrych yn ôl at Hurricane House yn y fan hon, ac edrych i’r chwith i lawr y dyffryn coediog. Ar ôl mynd dros y gamfa cerddwch i fyny’r cae yn lletraws tuag at y pen uchaf ar y dde. Yna ewch dros y gamfa nesaf at y trac. Cadwch y gwrych ar y dde i chi, cyn croesi camfa arall a dilyn y trac o’ch blaen chi. Byddwch yn croesi ffrwd fyrlymus cyn cerdded i fyny i’r cae nesaf. Ewch lletraws ar draws y cae gyda Fferm Cefn ar y dde i chi, gan anelu at giat y cae. Ar ôl cerdded trwy’r giat cadwch y gwrych ar y dde i chi a cherddwch tuag at y gamfa yng nghornel y cae.

Croeswch y gamfa i Ffordd Cefn ac fe welwch chi un arall yn union gyferbyn â chi. Dringwch drosti a mynd ar i lawr at y gamfa yng ngwaelod y cae ar yr ochr chwith. Ar ôl mynd dros y gamfa yma ewch i gyfeiriad yr un nesaf gerllaw ar y dde i chi, ac yna ewch ar i fyny tuag at adeiladau’r fferm. Fferm y Waen ydy hon. Ewch trwy ddwy giat cae, a throi ar eich union ar y chwith tuag at un arall sy’n eich arwain yn uniongyrchol yn ôl i gae. Ewch trwy’r cae gan gadw’r ffens ar y dde i chi a cherddwch ymlaen at y giat nesaf.

Gyda’r ffens a’r ardal goediog ar y dde i chi cerddwch tuag at y gamfa yng nghornel y cae. Ewch drosti a mynd ar hyd y llwybr sy’n arwain yn ôl tuag at Ffordd Cefn. Trowch i’r dde a cherddwch ar hyd y lôn i bentref Bwlchgwyn.

Mae Bwlchgwyn yn un o nifer o bentrefi sy’n hawlio maen nhw ydy’r pentref uchaf yng Ngymru, ar uchder o 1090 troedfedd (333 metr) uwchben lefel y môr. Mae’r ardal yn adnabyddus am gael llawer o eira yn ystod y gaeaf, ac efallai bod hyn yn esbonio enw’r pentref. Esboniad arall ydy ei fod yn cyfeirio at y clogwyni calchfaen gwynion gerllaw. Awgryma rhai mai’r enw gwreiddiol oedd Bwlchgwynt.

Anwybyddwch y llwybr troed ar y dde i chi ac ewch ymlaen ar hyd y lôn tuag at yr ysgol. Wrth i chi nesau at yr ysgol, a chyn y gyffordd, trowch i’r dde a cherddwch ar hyd y llwybr i’r chwith o’r tŷ. Croeswch y trac a dal i fynd ar hyd y llwybr. Ar ôl cyrraedd y tŷ trowch i’r chwith a cherdded ar hyd y dreif cerrig mân i’r ffordd. Dyma ffordd yr A525 o Wrecsam i Rhuthun. Trowch i’r dde a cherdded ar y palmant tuag at y Gofeb Rhyfel (7) yn y gilfan, ar y tro yn y ffordd wrth i’r ffordd wyro i’r chwith.

Adeiladwyd y gofeb er cof am y dwsin o bobl leol a gollodd eu bywyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a’r ddau a fu farw yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Dyma fan hyfryd i orffwyso a mwynhau’r golygfeydd panoramig dros Wrecsam ac i’r dwyrain tuag at Wastadedd Swydd Gaer. Neu edrychwch i’r gorllewin tuag at y tirlun rhostir dramatig. Dyma fan cychwyn Llwybr 5 yn y gyfres Teithiau Gwledig o gwmpas Wrecsam, sef taith 5 milltir o gwmpas Nant y Ffrith.

Dilynwch y lôn i’r dde i’r Gofeb Rhyfel. Dyma Ffordd Glascoed. Dilynwch y lôn hon am tua milltir, gan fynd heibio chwarel gerrig ar y chwith i chi yng Nghoed Mawr a’r ddwy lôn ar y chwith i chi. Wrth i’r lôn wyro i’r chwith fe welwch chi gyffordd ar y dde i chi, ewch ar hyd y lôn hon ar y dde. Dyma Ffordd Cefn eto.

Mae Ffordd Cefn (8) yn dilyn llinell y brif ffordd Rufeinig a oedd yn mynd trwy’r fan hon i bentref Ffrith, i ben Ffordd Brymbo, ac yna trosodd i hen ffordd Rhuthun sy’n mynd ar draws gweundir Llandegla. Yn 1602 cafwyd adroddiad bod ysbrydion byddin Rufeinig yn gorymdeithio drwy’r ardal, ond ni welwyd unrhyw beth ers hynny.

Cerddwch ar hyd nes bo’r lôn yn mynd ar i lawr i groesi ffrwd. Ewch dros y gamfa ar y chwith i chi. Cadwch ar ochr dde’r cae ac anelu at y gornel. Ewch dros y tair camfa nesaf, gan gadw’r coed ar y dde i chi wrth i chi gerdded trwy’r ffermdir agored. Ewch dros y gamfa ac i lawr i’r goedwig.

Ar ôl cerdded i lawr y grisiau pren trowch i’r chwith. Croeswch yr estyll pren a mynd i gyfeiriad y lôn. Trowch i’r chwith a cherdded i fyny’r allt. Wrth i’r lôn wyro i’r chwith dilynwch y llwybr troed o’ch blaen ar hyd y trac a throi i’r dde oddi ar y trac i’r goedwig. Ewch ar i lawr trwy’r goedwig, i lawr dwy set o risiau pren, cyn croesi’r ffrwd a cherdded i fyny’r allt i’r chwith. Anwybyddwch y llwybrau ar y dde a’r chwith a dal i gerdded ymlaen i fyny llethr y dyffryn. Croeswch y gamfa i’r ffermdir agored. Anwybyddwch y gamfa yn union gyferbyn â chi ac ewch i gyfeiriad cornel chwith top y cae. Mae’r ddôl yma yn gyforiog o flodau gwyllt yn yr haf.

Ewch dros y gamfa i Ffordd Mwynglawdd. Byddwch yn ofalus wrth i chi droi i’r chwith a cherdded ar i lawr tuag at y gamfa ar y dde i chi. Ewch dros y gamfa a cherdded yn syth ar draws y cae a dwy gamfa arall. Wrth i chi fynd oddi wrth y gamfa fe welwch chi drac mwdlyd ar y chwith i chi. Ewch i gyfeiriad hwn a cherdded ar hyd y llwybr gan gadw’r trac ar y chwith i chi. Ar ôl cyrraedd y gamfa ewch drosti i drac cerrig mân.

Trowch i’r dde. Ar y chwith fe welwch chi olion trac Rheilffordd Mwynau Mwynglawdd (9) unwaith eto. Ewch ar hyd y trac cerrig mân yn ôl tuag at eich mân cychwyn. Wrth i chi gyrraedd brig yr allt fe welwch chi dafarn y “George and Dragon” o’ch blaen chi. Rydych chi wedi cyrraedd diwedd eich taith.

DILYNWCH Y COD CEFN GWLAD

PARCHU – DIOGELU – MWYNHAU

  • Cadwch eich hun yn ddiogel – cynlluniwch ymlaen llaw a dilynwch unrhyw arwyddion
  • Gadewch giatiau ac eiddo fel roedden nhw pan ddaethoch chi atyn nhw
  • Amddiffynwch y planhigion a’r anifeiliaid ac ewch â’ch sbwriel adref efo chi
  • Cadwch eich cŵn dan reolaeth
  • Byddwch yn ystyriol tuag at bobl eraill

Os ydych chi’n cael unrhyw broblemau ar y daith hon, neu os hoffech chi wneud unrhyw sylwadau eraill, cysylltwch â’r tîm Hawliau Tramwy Cyhoeddus, rhif ffôn 01978 292057 neu ewch i’n gwefan www.wrexham.gov.uk/rightsofway.

Brymbo a Bwlchgwyn

Mae'r teith ar gael ar y ffurfiau canlynol:

Brymbo a Bwlchgwyn - Fersiwn PDF 308Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.

Anfonwch eich lluniau atom!

Anfonwch eich hoff luniau digidol o’r daith gerdded hon atom trwy’r e-bost.  Bydd detholiad o’r goreuon yn cael ei ddefnyddio i ddarlunio’r dudalen am y daith gerdded hon.  Bydd eich enw’n ymddangos o dan y llun.  Byddwn yn ystyried pob math o luniau – pobl, adeiladau, tirluniau, bywyd gwyllt – cyn belled a’ch bod wedi’u tynnu wrth ddilyn y daith gerdded hon.  Sicrhewch eich bod yn nodi pa daith gerdded y tynnwyd y lluniau arni.  Gweler yr ymwadiad.  Anfonwch eich lluniau at rightsofway@wrexham.gov.uk.

yn ôl i'r brig