Mewn Car: O ganol tref Wrecsam, dilynwch Ffordd Rhuthun A525, a chroesi’r A483 a theithio ar ei hyd am tua 2 filltir i Goedpoeth.
Parcio: Mae maes parcio yng Nghoedpoeth, ger yr A525, gyferbyn â’r New Inn. Gellir cael mynediad i’r maes parcio drwy’r Stryt Fawr neu Ffordd y Parc.
Trafnidiaeth Gyhoeddus: Mae bysiau rhif 9 a 10 gan G. Edwards a’i Fab a rhifau 10 ac 11 gan Arriva’n cysylltu canol tref Wrecsam gyda Choedpoeth. Mae amserlenni ar gael yn y Canolfannau Ymwelwyr, Llyfrgelloedd, ar-lein drwy wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a’r rhan fwyaf o Swyddfeydd Post Gwybodaeth fysiau: 01978 266166.
Nid yw’r llwybr yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn, bygis na phlant bach.
Byddwch yn hynod ofalus ar y daith hon gan fod rhai rhannau ohoni ar hyd ffyrdd heb balmentydd.
Gan gychwyn o’r maes parcio gyferbyn â’r New Inn yng Nghoedpoeth, (Cyf, Grid: SJ 283511) cerddwch o’r maes parcio a throwch i’r chwith ar Ffordd Parc. Ar ôl 200m, trowch i’r chwith ar Stryd Tudur (y ffordd o flaen y tŷ du a gwyn), ar ôl pellter byr, trowch i’r dde nesaf gyferbyn â’r Golden Lion. Ewch tua Rock House a dilynwch y llwybr troed ar y chwith gan ei adael yn y diwedd ar Stryd Tudur unwaith eto. Trowch i’r dde a dilynwch ef i lawr i ymuno â Ffordd Penygelli mewn 35m. Trowch i’r dde ar Ffordd Penygelli ac ar ôl 220m ewch dros y gamfa garreg ar ochr chwith y ffordd a dilynwch y llwybr ar hyd terfyn y cae. Croeswch gamfa a chadwch i’r dde tuag at goeden dderwen wrth ffens gornel yn y cae, cadwch i’r dde a dilynwch yr arwyddion llwybr bychain, croesi camfa, trac ac yna camfa arall a dilyn y llwybr i lawr llethr bychan. Cadwch i’r dde ac ewch drwy goedlan fechan, wrth gyrraedd y wal garreg yn y gwaelod trowch i’r dde a chroeswch ar groesfan bren dros ffos at gamfa garreg. Croeswch y gamfa ac ewch ar y ffordd sy’n arwain at Barc Gwledig Melin y Nant.
Dilynwch y ffordd droellog i lawr i Barc Gwledig Melin y Nant (dangosir gydag arwydd ffordd brown a gwyn). Wrth gyrraedd y maes parcio, cadwch i’r dde ac ewch drwy giât gerdded sydd wedi ei lleoli wrth y ganolfan addysg a’r ardd fywyd gwyllt. Dilynwch y llwybr heibio’r maes chwarae ac ar draws y bont bren. Trowch i’r chwith a dal i fynd ar hyd y llwybr dros y bont ac i fyny’r grisiau, ar y top, trowch i’r dde ac ymunwch â llwybr glaswellt. Rydych ar Lwybr Clywedog erbyn hyn. Dilynwch hwn am tua 700m nes cyrraedd lôn ger y rhyd yn yr afon. Croeswch y ffordd a dal i fynd ar hyd Llwybr Clywedog drwy goetir a thir fferm, gan ddod â chi at y B5426. Croeswch y ffordd ac ewch i mewn i Barc Gwledig Mwyngloddiau Plwm y Mwynglawdd, dilynwch y llwybr i fyny drwy safle’r mwynglawdd.
Mae amseroedd a dyddiadau agor y mwynglawdd wedi eu harddangos ger y bwrdd gwybodaeth yn y maes parcio.
Parhewch ar hyd y llwybr troed gyda Mwyngloddiau Plwm y Mwynglawdd ar y dde i chi, cadwch i’r chwith i fyny ochr o laswellt a dilynwch lwybr nes cyrraedd giât mochyn arall a’r ffordd. Croeswch y ffordd a cherddwch ar hyd y llwybr i’r dde. Ar ôl ychydig, croeswch ffordd arall, gan fynd trwy giât ar hen reilffordd. Dilynwch y llwybr troed hwn nes cyrraedd giât arall ar ôl tua 600m.
Dilynwch arwydd y llwybr troed drwy giât arall ac ar yr hen reilffordd unwaith eto. Parhewch ar hyd y rheilffordd gan fynd drwy giât fach arall y drws nesaf i gae mawr a chamfa fetel wrth ei hochr, cyn cyrraedd giât fawr arall i gae ar y chwith a giât gerdded fechan ar y dde (mae’r trac yn lledu yma). Ewch drwy’r giât gerdded ar y dde gan adael yr hen reilffordd ac ymuno â thrac. Parhewch ar hyd y trac ac ewch drwy ddwy giât mochyn. Mae’r trac yn arwain at Lôn Tŷ Brith. Unwaith y cyrhaeddwch y lôn, ewch ar hyd yr ail lwybr troed ar y chwith, gan groesi pont droed a dringo dwy set o risiau sy’n arwain at bentref y Mwynglawdd. Ar ben draw’r llwybr hwn, mae camfa garreg. Byddwch yn ofalus rhag trafnidiaeth wrth groesi’r gamfa i Ffordd yr Eglwys gan nad oes palmant yno. Wrth y gamfa, trowch i’r dde a pharhewch ar hyd y ffordd nes cyrraedd y gyffordd gyda Ffordd Plas y Mwynglawdd.
Dilynwch arwydd y llwybr troed ar draws y ffordd, gan fynd i lawr yr allt ger yr ysgol gynradd, mynd drwy giât mochyn a pharhau i lawr yr allt at bont droed. Gallwch fynd ddwy ffordd yma. Mewn tywydd gwlyb, ewch yn eich blaen dros y bont droed ac i fyny’r allt ar y llwybr tarmac. Trowch i’r chwith yn y gyffordd a dilynwch y llwybr ceffylau i lawr at 2 bont, pont geffylau a phont droed, croeswch un o’r ddwy bont, troi i’r dde ac ail-ymuno â’r cyfarwyddiadau cerdded yn *. Mewn tywydd sych, trowch i’r chwith yn union cyn y bont a dilynwch y llwybr troed i fyny’r ochr ar hyd yr afon. Croeswch dair camfa nes y cyrhaeddwch 2 bont ar y dde i chi, pont droed a phont geffylau. Peidiwch â chroesi’r pontydd ond * dilynwch y llwybr ceffylau o’ch blaen, ac ar ôl i’r llwybr ceffylau dynnu tua’r chwith, trowch i’r dde wrth yr arwyddbost a dilyn y llwybr troed a’r arwyddion i fyny’r allt nes cyrraedd Hen Ffordd Mwyndoddi. Crëwyd y llwybr hwn gan weithwyr oedd yn cerdded i’r hen waith mwyndoddi yng Nghoedpoeth.
Croeswch y ffordd ac ewch ar hyd y llwybr byr caeedig ymlaen i Ffordd Mwyndoddfa. Dilynwch y ffordd o amgylch i’r chwith gan fynd heibio llwybr troed yng nghornel y ffordd. Ewch ar hyd y llwybr troed nesaf ar y dde gan fynd heibio’r rhwystr beic modur a pharhau ar hyd y llwybr tarmac hwn at gyffordd T. Yn y gyffordd T, torrwch i’r chwith i fyny’r allt, gan fynd heibio Mynwent Coedpoeth ar y chwith. Ar ôl cyrraedd Ffordd y Cynulliad, trowch i’r dde ac yna bron yn union wedyn i’r chwith ar Ffordd Manley. Mae’r maes parcio ar ddiwedd y daith yn syth o’ch blaen ar ben draw Ffordd Manley.
Coedpoeth
Mae’r enw Coedpoeth, gyda’i ddwy elfen, coed + poeth, yn deillio o’r gwaith cynhyrchu siarcol ar gyfer mwyndoddi haearn a phlwm fu’n digwydd yma mor bell yn ôl â chyfnod y Rhufeiniaid ym Mhrydain.
Mae’r tir o amgylch ardal Coedpoeth yn cynnwys adnoddau naturiol megis mwyn haearn, mwyn plwm, glo a chalch ac mae treftadaeth ddiwydiannol y pentref yn amlwg o’r gweithgareddau sydd wedi digwydd yma dros y blynyddoedd – mwyngloddiau plwm a gwaith calch yn y Mwynglawdd.
Melin y Nant
Mae Melin y Nant yn dyddio nôl i’r 17eg Ganrif ac yn wreiddiol, yr oedd hi’n bandy lle byddai gwlân yn cael ei brosesu. Yn ddiweddarach, ailadeiladwyd y felin a bu’n gweithredu fel melin flawd a dwy olwyn ddŵr fawr yn ei gyrru. Mae’r adeilad wedi ei adnewyddu’n ofalus ac mae bellach yn Ganolfan Ymwelwyr sy’n cael ei chynnal gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Dyma le bywiog a difyr i archwilio natur, a dangos sut y bu i genedlaethau o bobl siapio tirlun y dyffryn.
Y Mwynglawdd
Mae’r enw Saesneg, ‘Minera’, ar y Mwynglawdd, yn deillio o’r gair Lladin am gloddfa. Mae hanes cloddio plwm a chalchfaen yn ardal y Mwynglawdd yn ymestyn dros sawl canrif - a cheir tystiolaeth i awgrymu bod cloddio wedi digwydd yno yn fuan yn y 15fed ganrif, a chloddio amlycach yn digwydd yn ystod y 18fed a’r 19eg ganrif, ond yn yr 20fed ganrif y digwyddodd y cloddio mwyaf pan grëwyd y siafftiau dwfn cyntaf. Nid oes llawer o’r diwydiant mwyngloddio’n weddill, ond mae adeiladau’r pwll glo yn parhau ym Mhlas Power.
Mwyngloddiau Plwm y Mwynglawdd
Mae’r daith yn mynd heibio safle Siafft y Ddôl yn y mwyngloddiau plwm. Mae tystiolaeth yn dangos bod cloddio plwm wedi digwydd yn y Mwynglawdd ym 1296, pan orchmynnodd Edward 1 i gloddwyr o Ddyfnaint ddod yno. Cafodd cloddfeydd y Mwynglawdd eu gweithio hyd 1349 pan gyrhaeddodd y Pla Du Wrecsam.
Cafodd yr ardal ei hadennill gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac Asiantaeth Ddatblygu Cymru. Dechreuodd y gwaith ym 1988 i ddiogelu’r ardal. Daethpwyd o hyd i eitemau personol yn perthyn i fwyngloddwyr yn Siafft y Ddôl gan wneud y safle’n ddelfrydol ar gyfer ei hatgyweirio. Dechreuodd y gwaith adfer yn y 1990’au, a gosodwyd peiriannau tebyg i’r rhai gwreiddiol ac agorwyd y mwynglawdd fel canolfan i ymwelwyr gan warchod treftadaeth hanesyddol a diwydiannol bwysig Wrecsam.
Rheilffordd y Mwynglawdd
Bu’r ffordd hon, sydd bellach yn llwybr troed, gynt yn rheilffordd mwynau Gogledd Cymru a daeth i’r Mwynglawdd ym 1847.
DILYNWCH Y COD CEFN GWLAD
PARCHU – DIOGELU – MWYNHAU
Os ydych chi’n cael unrhyw broblemau ar y daith hon, neu os hoffech chi wneud unrhyw sylwadau eraill, cysylltwch â’r tîm Hawliau Tramwy Cyhoeddus, rhif ffôn 01978 292057 neu ewch i’n gwefan www.wrexham.gov.uk/rightsofway.
Coedpoeth a'r Mwynglawdd
Mae'r teith ar gael ar y ffurfiau canlynol:
Coedpoeth a'r Mwynglawdd - Fersiwn PDF 523Kb ![]()
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.
Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.
Anfonwch eich hoff luniau digidol o’r daith gerdded hon atom trwy’r e-bost. Bydd detholiad o’r goreuon yn cael ei ddefnyddio i ddarlunio’r dudalen am y daith gerdded hon. Bydd eich enw’n ymddangos o dan y llun. Byddwn yn ystyried pob math o luniau – pobl, adeiladau, tirluniau, bywyd gwyllt – cyn belled a’ch bod wedi’u tynnu wrth ddilyn y daith gerdded hon. Sicrhewch eich bod yn nodi pa daith gerdded y tynnwyd y lluniau arni. Gweler yr ymwadiad. Anfonwch eich lluniau at rightsofway@wrexham.gov.uk.