Taith Gerdded Trefor a Garth

Mae’r llwybr 4 milltir yn dechrau ym yr Tafarndy’r Duke of Wellington (cyfeirnod grid SJ 272 428) yn ymgysylltu traphont ddŵr Pontcysyllte sydd newydd gael ei dynodi yn Safle Treftadaeth y Byd, â’r ardal wledig oddi amgylch. Mae’r cerddwyr hynny sy’n dymuno dewis taith gerdded fyrrach yn gallu rhoi cynnig ar y llwybr 1.5 milltir sy’n cynnwys naw o gatiau mochyn sy’n hawdd eu defnyddio.

Mae’r tai cyfagos yn cynnwys bythynnod o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif yn bennaf, ar gyfer gweithwyr yn niwydiannau traddodiadol yr ardal, sef chwareli calchfaen a gwneud briciau. Er bod y diwydiannau hyn wedi diflannu bellach, mae gan yr ardal archaeoleg ddiwydiannol gyfoethog.

Mae Basn Trefor yn agos ar ben gogleddol traphont ddŵr Pontcysyllte. Hyd at 1965, roedd gan y pentref orsaf reilffordd ar y rheilffordd o Riwabon i’r Bermo.

Mae’r daith yn mynd â chi drwy’r pentref, ar draws tir fferm agored, yn croesi afonydd a nentydd sisialog, ar hyd dyffrynnoedd coediog tawel, heibio i weddillion hanes amrywiol yr ardal.

  • Sylwch y gallai’r llwybr fod yn lleidiog mewn mannau a dylech wisgo esgidiau addas. Mae yna gamfeydd, llethrau serth a ffyrdd prysur i ymdopi â nhw hefyd.
  • Nid yw’r daith yn addas i gadeiriau olwyn, coetsys babanod na phlant bach.

Parcio

Mae ychydig o le parcio ar y stryd ger Tafarndy’r Duke of Wellington.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Mae gwasanaethau bysiau rheolaidd yr daith yn dechrau. Ffoniwch 01978 266166 i gael gwybodaeth am y bysiau neu gweler gwasanaethau bysiau arlein.

Map

Mae Map Explorer 256 yr Arolwg Ordnans yn cwmpasu’r ardal ond mae’r rhanfap a geir yma yn rhoi’r holl wybodaeth y bydd ei hangen arnoch ar gyfer y daith.

Taith Gerdded Trefor a Garth

Mae'r teith ar gael ar y ffurfiau canlynol:

Map Taith Gerdded Trefor a Garth - Fersiwn PDF 511Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.

Anfonwch eich lluniau atom!

Anfonwch eich hoff luniau digidol o’r daith gerdded hon atom trwy’r e-bost.  Bydd detholiad o’r goreuon yn cael ei ddefnyddio i ddarlunio’r dudalen am y daith gerdded hon.  Bydd eich enw’n ymddangos o dan y llun.  Byddwn yn ystyried pob math o luniau – pobl, adeiladau, tirluniau, bywyd gwyllt – cyn belled a’ch bod wedi’u tynnu wrth ddilyn y daith gerdded hon.  Sicrhewch eich bod yn nodi pa daith gerdded y tynnwyd y lluniau arni.  Gweler yr ymwadiad.  Anfonwch eich lluniau at rightsofway@wrexham.gov.uk.

yn ôl i'r brig