Lawrlwytho’r daith gerdded hon
Anfon lluniau o'r daith gerdded hon atom | Anfon e-bost atom am y daith gerdded hon
Gwersyllt, Coetiroedd, Caerau, Afonydd a Choed.
Mae’r daith yn dechrau ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun, Ffordd yr Wyddgrug, LL11 4AG (cyfeirnod grid SJ 319, 546) neu os ydych yn defnyddio’r trenau gallwch gychwyn y daith o’r orsaf ym Mhentref Gwersyllt (cyfeirnod grid SJ 318, 533). Mae Gwersyllt yn un o bentrefi mwyaf Wrecsam, wedi’i leoli rhyw 2 filltir i’r gogledd orllewin o ganol y dref. Tyfodd Gwersyllt yn gyflym oherwydd y diwydiant glo yn yr ardal. Ar un adeg roedd sawl pwll glo ar agor ac mae olion y rhain i’w gweld ar draws yr ardal heddiw.
Mae’r daith yn mynd â chi drwy’r pentref, ar draws tir fferm agored, yn croesi afonydd a nentydd sisialog, ar hyd dyffrynnoedd coediog tawel, heibio i weddillion hanes amrywiol yr ardal.
Mae maes parcio bach ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun.
Mae’r bysiau y gallwch eu defnyddio yn cael eu rhedeg gan Arriva a’r rhifau yw 26, 32 a 33. Ffoniwch 01978 266166 i gael gwybodaeth am y bysiau neu gweler gwasanaethau bysiau arlein.
Ffoniwch Linell Ymholiadau National Rail ar 0845 748 4950 i gael amserau’r trenau i Orsaf Gwersyllt ac oddi yno. Neu ewch i’r wefan ar www.nationalrail.co.uk i gael manylion.
Mae Map Explorer 256 yr Arolwg Ordnans yn cwmpasu’r ardal ond mae’r rhanfap a geir yma yn rhoi’r holl wybodaeth y bydd ei hangen arnoch ar gyfer y daith.
Teithiau Cerdded Gwledig o Amgylch Wrecsam - Gwersyllt ac Afon Alun
Mae'r teith ar gael ar y ffurfiau canlynol:
Teithiau Cerdded Gwledig o Amgylch Wrecsam - Gwersyllt ac Afon Alun - Fersiwn Word 55Kb
Teithiau Cerdded Gwledig o Amgylch Wrecsam - Gwersyllt ac Afon Alun - Fersiwn PDF 68Kb
Teithiau Cerdded Gwledig o Amgylch Wrecsam - Gwersyllt ac Afon Alun - Fersiwn Testun Plaen 70Kb
Map Teithiau Cerdded Gwledig o Amgylch Wrecsam - Gwersyllt ac Afon Alun
Map Teithiau Cerdded Gwledig o Amgylch Wrecsam - Gwersyllt ac Afon Alun - Fersiwn PDF 2.7Mb
|
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader. |
I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. |
Anfonwch eich hoff luniau digidol o’r daith gerdded hon atom trwy’r e-bost. Bydd detholiad o’r goreuon yn cael ei ddefnyddio i ddarlunio’r dudalen am y daith gerdded hon. Bydd eich enw’n ymddangos o dan y llun. Byddwn yn ystyried pob math o luniau – pobl, adeiladau, tirluniau, bywyd gwyllt – cyn belled a’ch bod wedi’u tynnu wrth ddilyn y daith gerdded hon. Sicrhewch eich bod yn nodi pa daith gerdded y tynnwyd y lluniau arni. Gweler yr ymwadiad. Anfonwch eich lluniau at rightsofway@wrexham.gov.uk.