Crwydr 15½ milltir o Goedpoeth, ar gyfer cerddwyr profiadol yn unig (mae teithiau cerdded 12½ milltir ac 8 milltir ar gael hefyd).
Mae pobl wedi bod yn gofyn i ni am daith gerdded hirach ers tro. Dyma hi, o’r diwedd. Ond mae hon yn hir ac yn uchel, yn dringo i 565 metr (1853 troedfedd).
Mae’r daith yn cychwyn ym Melin y Nant ac yn dringo Dyffryn Clywedog i’r rhostir grug uwchben. Mae yna ddewis o dair taith gerdded wedyn, pob un â golygfeydd da. Nid oes angen i chi benderfynu pa daith i’w dilyn hyd nes i chi gyrraedd y rhos, oni bai bod y tywydd ac oriau dydd yn ystyriaethau.
Mae’r daith lawn yn 15½ milltir o hyd ac yn dringo 700 metr. Fodd bynnag, mae yna ddwy daith lai ar gael a fyddai’n lleihau’r hyd i 12½ milltir ac uchder o 400 metr neu 8 milltir a dringo 300 metr.
Mae pob taith yn mynnu ychydig o gynllunio a gofal. Yn y gaeaf ac yn ystod tywydd drwg yn gyffredinol, mae’n hanfodol eich bod yn gwylio rhagolygon tywydd. Byddai dechrau’r teithiau hirach yn gynnar yn hanfodol yn y gaeaf neu bydd yn dywyll erbyn i chi orffen. Nid yw’r teithiau cerdded hyn yn briodol i blant bach.
Gall fod yn oer ac yn wlyb ar y rhos; mae bob amser yn fwdlyd. Gwisgwch esgidiau cerdded da a chariwch ddillad glaw, tortsh, chwiban, cwmpawd a bwyd. Ewch â byrbryd gyda chi ar gyfer y daith 8 milltir a phrd da ar gyfer y teithiau cerdded 12½ a 15½ milltir. Mae’r daith gerdded hiraf yn dod o fewn ¾ milltir o’r Ponderosa ar ben Yr Oernant. Mae’r pellter ychwanegol yn werth chweil am y bwyd a’r toiledau.
Ceir nodiadau am barcio, cludiant cyhoeddus a thir mynediad yn y rhagair i gyfarwyddiadau’r daith gerdded.
Gallwch lawrlwytho ac argraffu cyfarwyddiadau cryno a map graddfa 1:40,000. I gwmpasu’r daith gyfan ar raddfa resymol, bu raid i ni rannu’r map rhwng taflenni dwyreiniol a gorllewinol. Sicrhewch eich bod yn argraffu’r ddwy ran! Mae gorgyffwrdd mwy na digonol felly ni ddylech gael unrhyw broblemau’n cydosod un â’r llall.

Sylwer nad yw'r map hwn yn addas i chi fynd ag ef ar y daith gyda chi er mwyn dod o hyd i'ch ffordd.

Map Trosolwg - gweler fersiwn mawr
Os cwblhewch y daith 15½ milltir, beth am gofrestru ar ein rhestr o oroeswyr a rhannu eich profiadau gydag eraill?
Cofiwch anfon eich lluniau digidol gorau atom ar gyfer ein horiel luniau!
Map
Dyma'r ddau fap sydd eu hangen arnoch ar gyfer y daith gerdded:
Map Taith - Dwyrain - fformat PDF 1.3Mb ![]()
Map Taith - Gorllewin - fformat PDF 1.3Mb ![]()
Cyfarwyddiadau'r Daith
Cyfarwyddiadau'r Daith - fformat Word 87Kb ![]()
Cyfarwyddiadau'r Daith - fformat PDF 157Kb ![]()
Cyfarwyddiadau'r Daith - fformat Testun Plaen 61Kb ![]()
|
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader. |
I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. |
Rhestr o Oroeswyr Dyma'ch cyfle i ddweud wrth bawb eich bod wedi goroesi'r daith gerdded 15½ milltir ac i ychwanegu sylwadau a hanesion am eich taith.
Bydd yr holl ddata a ddarperir gennych yn cael eu storio a'u defnyddio yn unol â thelerau Deddf Diogelu Data 1998. Gweler hefyd ein Polisi Preifatrwydd.
Mae'n bosibl y bydd eich sylwadau/hanesion yn cael eu golygu cyn eu rhoi ar y wefan. Gweld rhestr o oroeswyr.
Anfonwch eich hoff luniau digidol o’r daith gerdded hon atom trwy’r e-bost - ychwanegir detholiad o'r rhai gorau at yr oriel luniau. Bydd detholiad o’r goreuon yn cael ei ddefnyddio i ddarlunio’r dudalen am y daith gerdded hon. Bydd eich enw’n ymddangos o dan y llun. Byddwn yn ystyried pob math o luniau – pobl, adeiladau, tirluniau, bywyd gwyllt – cyn belled a’ch bod wedi’u tynnu wrth ddilyn y daith gerdded hon. Sicrhewch eich bod yn nodi pa daith gerdded y tynnwyd y lluniau arni. Gweler yr ymwadiad. Anfonwch eich lluniau at rightsofway@wrexham.gov.uk.
Rydym yn ddiolchgar i Gyngor Cefn Gwlad Cymru, Cyngor Sir Ddinbych Groundwork Wrecsam a Sir y Fflint. Ni fyddai wedi bod yn bosibl cwblhau'r prosiect hwn hebddynt.
Cysylltiadau Defnyddiol |
|
| Teithiau Cerdded y We | |