Polo Dŵr
Cynhelir y gystadleuaeth hon ym Myd Dŵr Wrecsam dydd Iau 23ain Awst rhwng 10am a4pm. Bydd timau o Wrecsam, sir Ddinbych, Powys Sir y Fflint, Ynys Môn, Conwy a Gwynedd yn cystadlu.
Bydd y timau’n cynnwys nofwyr sydd rhwng 8 a 16 mlwydd oed sydd wedi bod yn cymryd rhan yng ngweithgareddau polo dŵr yr FSI yn eu pwll nofio lleol ac wedi cael eu dewis i gynrychioli eu hawdurdod lleol. Bydd nifer o’r chwaraewyr erioed chwarae polo dŵr cyn heddiw.
Sylwer y bydd y pyllau nofio ym Myd Dŵr Wrecsam ar gau i’r cyhoedd rhwng 9am a 4pm ar y diwrnod hwn. Bydd y gampfa, yr ystafell iechyd a’r caffi ar agor fel arfer.
Os ydych chi rhwng 8 ac 16 oed ac am chwarae i dîm Wrecsam dewch draw i un o’r sesiynau canlynol sydd am ddim yn y Byd Dŵr (01978 297300) a gofyn i’r hyfforddwr am fwy o wybodaeth.
Dydd Iau rhwng 2 a 3pm 26ain Gorffennaf – 31ain Awst 3ydd a 24ain Awst 7.30-9.30pm.
|