Amodau Neilltuo Partïon

  1. Lleiafswm y plant y codir tâl amdanynt ar gyfer pob parti yw 10.
  2. Rhaid rhoi gwybod i’r ganolfan am unrhyw newidiadau i’r trefniadau 24 awr cyn y parti.
  3. Mae angen blaendal o £15 na ellir ei ad-dalu wrth neilltuo'r parti ynghyd â ffurflen neilltuo wedi'i chwblhau.
  4. Cyn i’r parti ddechrau, rhaid talu’r swm sy’n weddill a chadarnhau’r archebion bwyd os ydych wedi dewis bwydlen 2 yn y ffreutur.
  5. Gellir gadael cacennau pen-blwydd yn y ffreutur new bod eu hangen.
  6. Rhowch wybod am unrhyw anghenion deietegol arbennig o leiaf 24 awr cyn y parti.
  7. Mae gan y Ganolfan y cymarebau gorchwylio canlynol er mwyn sicrhau bod y plant yn ddiogel:
    1. dan 4 oed - 1 plentyn i 1 oedolyn
    2. 4 - 7 oed - 2 blentyn i 1 oedolyn
    3. DS - oedolyn yw unigolyn cyfrifol dros 16 mlwydd oed
  8. Ni chodir tâl ar oedolyn sy’n goruchwylio'r plant yn y pwll.
  9. Yn ystod partïon nofio, rhaid cadw pob eiddo yn y loceri a ddarperir. Mae angen darn £1.00 ar gyfer pob locer, a chaiff hwn ei ad-dalu ar ôl i chi orffen.

yn ôl i'r brig