‘Nosweithiau Sblash’Nid oes raid i nos Wener fod yn ddiflas i blant a phobl ifanc 8 – 14 oed. Pam na ddewch i ymweld â Canolfan Hamdden a Gweithgareddau'r Byd Dwr? Mae teganau gwynt yn y pwll nofio arnofion yn creu’r cyffro a chi sy’n darparu’r awyrgylch! Dewch i roi cynnig arni! Pris £2.90, neu £2.40 (Pris am Pur). Nifer cyfyngedig o leoedd ar gael, felly’r cyntaf i’r felin.
Cynhelir Nosweithiau Sblash ar nos Wener. Mae’r drysau’n agor am 8.00pm i orffen erbyn 9.30pm.
Bob dydd o'r wythnos yn ystod gwyliau ysgol mae gweithgareddau hwyliog gwahanol ar gael I blant o dan 16 oed.
O 2.00pm i 3.00pm rhowch gynnig ar weithgareddau hwyliog newydd.
Am ddim os byddwch yn dangos cerdyn hamdden Pur.
Darperir lôn nofio yn ystod y gwyliau yn ystod pob sesiwn nofio gyhoeddus.
Gall cwsmeriaid sy’n mwynhau defnyddio campfeydd a nofio’n rheolaidd wneud arbedion mawr drwy ymaelodi â’r gampfa am 1, 3 neu 12 mis. Pan ymunwch ag un o gampfeydd y Cyngor, nid oes tâl ymaelodi, sy’n gallu bod yn ddrud wrth ymuno â champfa breifat. Nid ydych ychwaith yn gaeth i gontract, a gellwch dalu wrth ddefnyddio’r gampfa am bris rhesymol iawn.
Mae Canolfan Hamdden a Gweithgareddau'r Byd Dwr yn bwll nofio rhanbarthol sydd â chyfleusterau ar gyfer cystadlaethau cenedlaethol. Mae’r cyfleusterau’n cynnwys 220 o serddi rhenciog ar gyfer gwylwyr, amseru electronig, rhaffau gwrthdon ar y lonydd, partneriaeth effeithiol rhwng Clwb Nofio Wrecsam a staff y pwll. Mae hyn i gyd, a llawer mwy, yn cyfuno i ddarparu cystadlaethau rhagorol sy’n helpu i hybu proffil tref Wrecsam a dod â chwsmeriaid i’r ardal.
Dydd Sadwrn 11.00am - 12.00pm. 11 - 16 oed.
Ffurf artistig, gymnastig, unigol a medrus o ddawns. £1.60 y sesiwn.