Dyfarnwyd Aquamark Premiere i’n gwersi nofio – sef safon y diwydiant ar gyfer gwersi nofio. Mae ein gwersi yn dilyn Cynllun Cenedlaethol yr ASA ac rydym yn cyflwyno dros 2000 o wersi bob blwyddyn. Caiff pob plentyn ei asesu yn ôl ei lefel allu a bydd yn symud dosbarthiadau pan fydd wedi cyflawni’r tasgau sydd eu hangen.
Amseroedd y Pwll Nofio a Sesiynau Rheolaidd
Mae’r wybodaeth ganlynol yn disgrifio’r dosbarthiadau, y rhaglenni a’r lefelau nofio amrywiol a gynigir gan Canolfan Hamdden a Gweithgareddau'r Byd Dwr Wrecsam. Mae gwersi’n dechrau o 3 mis oed gyda’n dosbarthiadau i Rieni a Babanod / Plant Bach.
Cynhelir y sesiynau hyn ar ffurf cwrs y mae’n rhaid ei neilltuo ymlaen llaw ar gyfer oedolyn a phlentyn (3 mis i 3 blwydd oed) fel gweithgaredd cyn oed ysgol yn y dwr gydag athro/athrawes â chymhwyster Athro ASA sy'n gymwysedig i addysgu Oedolion a Phlant. Bydd pob sesiwn yn para 30 munud.
Byddwch yn treulio amser arbennig yn cael hwyl gyda’ch plentyn, ac yn dysgu drwy chwarae er mwyn i’ch plentyn fagu hyder yn y dwr. Rydym yn cynnig grwpiau ar gyfer 4 lefel gallu sy’n seiliedig ar gynllun gwobrwyo graddol.
Gall eich plentyn fynychu’r sesiynau hyn cyn gynted ag y byddant wedi cael y pigiadau priodol (cysylltwch â’ch meddyg teulu neu Ymwelydd Iechyd am fanylion). Os bydd eich plentyn yn dioddef o annwyd, haint feirol neu’r dolur rhydd ni chaniateir iddynt fynychu’r sesiynau yna byddai'n ddoeth colli'r dosbarth y diwrnod hwnnw. Hefyd, peidiwch â fwydo eich baban un awr cyn dechrau'r sesiwn.
Pethau y bydd eu hangen arnoch!
Dosbarthiadau i nofwyr o dan 5 oed sydd wedi dechrau yn yr ysgol yw’r rhain. Cyfnod sylfaenol 1 yw’r dechreubwynt lle bydd plentyn yn y dŵr yn magu hyder yng nghwmni oedolyn/gwarcheidwad.
Yn 2007 gwnaeth yr ASA lansio’r Cynllun Cenedlaethol newydd ar gyfer Addysgu Nofio. Elfennau craidd y rhain yw HWYLfodol lle y bydd plant yn dysgu drwy gemau a chwarae. Mae ein gwersi yn dilyn y cynllun hwn sy’n darparu dilyniant strwythuredig a chyfleoedd hamdden.