Pyllau Nofio

Mae gan Byd Dwr Wrecsam dri phwll i ddarparu ar gyfer pob oed a gallu.

Prif Bwll

Mae’r prif bwll 25 metr o hyd a 12.5 metr (neu 6 lôn) o led ac yn amrywio o ddyfnder o 1.25 metr i 2 metr yn y canol. Mae’r pwll yn berffaith ar gyfer nofio mewn lonydd, a neilltuir o leiaf un lôn yn ystod oriau cyhoeddus amrywiol bob diwrnod at y diben hwn. Mae’r dwr ym mhob un o’r pyllau yn cael ei hidlo a’i drin â chemegion yn gyson er mwyn cynnal amodau nofio diogel bob amser, ac ar dymheredd o 30 gradd canradd mae’n ddymunol ar gyfer y rhan fwyaf o ddefnyddwyr.

yn ôl i'r brig

Llun o rhieni a plant yn y pwllPwll y Dysgwyr

Mae pwll y dysgwyr yn berffaith ar gyfer plant ifanc a sesiynau rhieni a phlant bach. Mae’r pwll wedi’i wahanu oddi wrth y prif bwll, ac yn fwy bas, gyda’r dyfnder yn amrywio o 0.60 metr i 0.90 metr. Mae tymheredd y dwr yn cael ei gadw ar dymheredd cynnes iawn o 32 gradd canradd.

yn ôl i'r brig

Llun o pwll nofio Pwll Addysgu

Mae’r pwll gweithgareddau wedi’i wahanu oddi wrth y prif bwll gan rwystr symudol sy’n ein galluogi i newid hyd y pwll gweithgareddau. Dyfnder y pwll gweithgareddau yw 1.05 metr, ac mae’n berffaith ar gyfer nofwyr nad ydynt yn ddechreuwyr, gyda’r tymheredd yn cael ei gadw ar yr un tymheredd â’r prif bwll, sef 30 gradd canradd.

Yn ogystal â’r pyllau, mae’r Byd Dwr hefyd yn cynnig nodweddion dwr a fydd yn sicrhau bod eich ymweliad yn un cofiadwy.

yn ôl i'r brig

Llun o genethare sleid dwrNodweddion Dwr

Adnewyddwyd Byd Dwr Wrecsam ym 1998. Ar yr un pryd, cafodd y pwll plymio ei amnewid ar gyfer nodweddion dwr a fu’n atyniad rheolaidd, yn enwedig i bobl ifanc a theuluoedd. Mae’r nodweddion hyn yn cynnwys cafn 65 metr, Reid Dyfroedd Gwylltion a Phwll Bybylu. Mae’r rhain ar agor ar amseroedd arbennig, ac yn enwedig gyda’r nos ac ar benwythnosau.

yn ôl i'r brig

Llun o bachgen yn practisio achyb bywydAwgrymiadau diogelwch ar gyfer rhai sy’n defnyddio’r pwll

Rhaid i bob nofiwr gael cawod cyn mynd i’r pwll er mwyn lleihau’r halogiad i ddwr y pwll. Anogir cwsmeriaid i beidio gwisgo esgidiau awyr agored wrth ochr y pwll er mwyn lleihau’r perygl o drosglwyddo halogiad o esgidiau i draed nofwyr a dwr y pwll. Mae hetiau nofio yn ffordd effeithiol o leihau colled gwallt yn y pwll sy’n effeithio ar system hidlo’r pwll. Rhaid i blant dan 8 oed gael eu goruchwylio ar bob adeg tra yn yr adeilad, a gwaherddir y defnydd o esgyll a snorceli sesiynau goruchwyliedig yn unig. Ni chaniateir plymio i’r pwll yn y Byd Dwr gan nad yw’n ddigon dwfn, oni bai y rhoddir caniatâd penodol gan aelod o staff, a hynny fel rhan o weithgaredd yn unig a dan reolaeth hyfforddwr plymio cymwysedig.

yn ôl i'r brig

Plant a Nofio

Yn unol â’r canllawiau diogelwch nofio cenedlaethol, rhaid i blant dan wyth fod yng nghwmni oedolyn wrth ddefnyddio’r pwll, ar gymhareb o 2 blentyn i bob oedolyn (unigolyn cyfrifol dros 16 oed). Rhaid i blant dan 5 fod yng nghwmni oedolyn ar gymhared 1 i 1, ond gellir cynyddu hyn i 2 i 1 ar ddoethineb y swyddog sydd ar ddyletswydd a chan gyfyngu’r plant i bwll y dysgwyr. Rhaid i oedolion â phlant dan 8 oed sicrhau eu bod yn cadw’r plant o fewn hyd braich a’u bod yn gallu eu gweld ar bob adeg.

yn ôl i'r brig

Cyfleusterau ar gyfer Pobl Anabl

Mae cyfleusterau’r Byd Dwr yn gwbl hygyrch i bobl ag anableddau. Yn ogystal â chyfleusterau newid a thoiledau ar wahân, mae gan y pwll beiriant codi a stepiau symudol â graddiant bas i bobl sy’n ei chael hi’n anodd i fynd i mewn i’r pwll. Mae gennym gyfarwyddwr nofio anabl cwbl gymwysedig sy'n rhan o'n tîm sy'n cynnig gwersi.

back to the top of page

Cyfleusterau Newid

Mae gan y Byd Dwr gyfleusterau newid â darpariaethau ar wahân ar gyfer teuluoedd a phobl ag anableddau. Darperir loceri i gadw eiddo personol sy’n defnyddio darn £1.00 a ad-delir.

yn ôl i'r brig