Trevor Ford 1947-57 Capiau 38 Goliau
23 SW
Sgoriwr mwy o goliau na neb arall yn ei genhedlaeth. Yn ergydiwr heb
ei fath, roedd gan y "Ford Tanllyd" arddull galed, ymosodol
oedd yn codi brawiau ar golwr y tim oedd yn ei wynebu. Roedd yn ei elfen
yn hyrddio golwr i gefn y rhwyd os oedd hwnnw'n dal ei afael yn y bêl
yn rhy hir. Gwnaeth argraff oddi ar y cae hefyd pan gafodd ei gyhuddo,
gan y Wasg, o fod a'i fys ym mhotes 'taliadau dan y cownter' ym myd pêl-droed.
Cyn gynted ag yr enillodd apêl yn erbyn ei atal gan yr FA fe gafodd
ei whardd am dderbyn taliadau ei hun. Gadawodd Gymru i chwarae yn yr Iseldiroedd
ond gwelwyd ei gollit yn ystod yr ymgyrch am Gwpan y Byd.
Ian Rush 1980-96 Capiau 73 Goliau 28 N
Bachgen
o Lanelwy a dorrodd bob record sgorio i Gymru a Lerpul. Roedd tymor 1992
yn un cofiadwy iddo gan mai dyna pryd y sgoriodd yn gol yn erbyn Ynysoedd
y Ffaroe a olygai ei fod wedi sgorio mwy o goliau i'w wlad na Trevor Ford
nac Ivor Allchurch. Enilodd bob tlws posib pan oedd yn chwarae i Lerpwl
a thorrodd record goliau Roger Hunt pan yn chwarae yn erbyn arch-elynion
Lerpwl, sef Manchester United.
Ivor Allchurch 1950-66 Capiau 68 Goliau 23 SW
Roedd
cryn gystadleuaeth rhwng John Charles ac Ifor pan oedden nhw'n fechgyn
yn Abertawe. Datblygodd Allchurch i fod yn un o arwyr mwyaf disglair pêl-droed
Cymru. Roedd ganddo bryd golau ac athrylith fawr fel pêl-droediwr.
Fe chwaraeai'r gêm brydferth gyda steil - roedd yn disgleirio yn
ei allu i basio'r bêl yn gywir i'r ergydiwr oedd ar y blaen. Roedd
ganddo reolaeth berffaith ar y bêl a rhoddai'r argraff nad oedd
byth ar frys. Bu Abertawe'n ffodus gan iddyn nhw Iwyddo i ddal eu gafael
ynddo am gyfnod hir. Wnaeth timau'r Adran gyntaf ddim sylweddoli beth
oedd maint ei dalent nes cawson nhw eu cyfareddu gan ei berfformiad yng
Nghwpan y Byd yn Sweden yn 1958.

Ble Mae'r Ffin?
Yn 1933 fe gwynodd Is-Cadeirydd Clwb
Spurs bod dau chwaraewr nad oedden nhw'n gymwys i chwarae i Gymru am mai
o Sir Gynwy roedden nhw'n hanu. Gan Ted Robbins y cafodd ateb. "Fe
fyddai'n dda o beth i Mr Cadman geisio cael peint n y Sir honno ar y Sul.
Fe welai, yn fuan iawn, ei fod yng Nghymru!"

Ar ochr pwy rydych chi?
Erbyn i swyddogion pêl-droed Lloegr
sylweddoli ei fod wedi cael ei eni yng Nghaer, roedd Robert Ernest Evans
wedi chwarae 10 gêm i Gymru. Mae'n rhai eu bod nhw'n meddwl y byd
ohono - fe chwaraeodd ddwywaith i Loegr yn erbyn ei hen dim.
|