Y Dewiniaid Cymreig - Golwr

Roedd cryn gystadleuaeth am y safle pwysicaf, yn ol rhai, yn nhim Cymru.

Llun o Neville SouthallNeville Southall 1982-98 Capiau 92 N

Does neb wedi chwarae i Gymru gymaint o weithiau a Neville Southall. Gan gychwyn yn Llandudno, aeth yn ei flaen i fod yn un o 'arbedwyr shotiau' gorau'r gêm. Roedd yn chwaraewr creiddiol trwy gydol y 1980au a'r 1990au. Cafodd ei ddawn ei chydnabod gan ei gydchwaraewyr pan wnaethon nhw ei ethol yn Chwaraewr y Flwyddyn y PFA yn 1985. Yn y gêm ryngwladol yn erbyn yr Iseldiroedd yn 1988 gwnaeth Southall arbedion gwyrthiol gan arbed gol ar ol gol wrth i flaenwyr yr Iseldiroedd ymosod. Roedd ei berfformiadau i'w glwb, Everton, yn Sail i lwyddiant y tim hwnnw yn y 1980au.

Llun o Dai DaviesDai Davies 1975-83 Capiau 75 W

'Dai the drop' oedd llys-enw Dai ymhlith cefnogwyr Everton. Gwisgodd fenig golwr Cymru trwy gydol y 1970au. Wynebai gystadlauaeth gref Jack Kelsey, a dreuliodd y rhan fwyaf o'r cyfnod ar fainc yr eilyddion. Ond nid pêl-droediwr yn unig oedd Dai. Yn ei hunangofiant, "Hanner cystal a 'nhad" ac yn ei sylwadau ar S4C cawn ddarlun o ddyn a welodd ei yrfa'n mynd i fyny ac i lawr.

Masgot y CanolwrMae bob tim eisiau i'r canolwr fod ar eu hochr nhw. Mervyn Griffiths ydi'n dewis ni fel Cymro'r chwiban. Hyd yma, Mervyn ydi'r unig Gymro i ymddangos yn rownd derfynol Cwpan y Byd. Gwisgodd lifrai du ar gyfer gêm derfynol 1954. Roedd cael canoli'r gêm hon yn gydnabyddiaeth o'i fedr a'i integriti mewn swydd anodd.

yn ôl i'r brig