Sherwood
oedd brenin y llithr-dacl. Chwaraeodd i'w wlad am y tro cyntaf yn y gêm
Ryngwladol lawn gyntaf ar ol yr Ail Ryfel Byd. Roedd y cyn-lowr yn rhoi
ei gyfan yn y gêm, yn enwedig pan fyddai'n wynebu'r blaenwr Seisnig,
Stanley Matthews. Roedd ei sioncrwydd, ei gadernid yn y dacl a'i synnwyr
safle arbennig ynhlith ei gryfderau pennaf. Pan gurodd Cymru Loegr yn
gêm fythgofiadwy 1955, Sherwood oedd y capten. Ei ofid pennaf: na
chafodd chwarae yn nghystadleuaeth Cwpan y Byd yn 1958.
Roedd
Frd yn gymeriad amlwg ym mhêl-droed Cymru yn y 1920'au. Cafodd ei
anafu ddwywaith yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd ei wytnwch yn amlwg yn ei
gêm ond roedd yn sbortsman go-iawn hefyd. Pan enillodd Dinas Caerdydd
Gwpan yr FA yn 1927, Keenor oedd eu capten. Dyna'r unig dro i'r Cwpan
fynd allan o Loegr. Ysbrydolodd fuddugoliaethau Cymru un Mhencampwriaethau'r
Pedai Gwlad yn 1924 a 1928.
Hanerwr
talentog o'r Rhondda a helpodd Abertawe i ennill dyrchafiad i'r Ail Adran
yn 1948-49. Yn 1950 cafodd ei hudo i ymuno a Chlwb Pêl-droed y Millionarios
yn Colombia. Wedi i'r clwb fethu a'i wobrwyo fel roedden nhw wedi addo,
fe ddaeth adref. Doedd Abertawe ddim un awyddus i'w dderbyn yn ol, ond
cafodd ei fachu gan Manchester City. Roy oedd yn eu harwain pan enillson
nhw Rownd Derfynol Cwpan yr FA yn 1956.
Roedd
Joey, oedd yn cael ei alw'n 'Glown Coronog Pêl-droed Cymru' yn cyfuno
ansawdd a chymeriad yn ei gêm.
Ni
fedrai ei wyleidd-dra guddio'i dalent. Roedd yn chwaraewr poblogaidd gyda'r
dilynwyr yn Lerpwl a Wrecsam. Ei gêm fwyaf cofiadwy oedd buddugoliaeth
Cymru yn erbyn Lloegr o 1-0 yn Wembley.
Cafodd
ei eni cyn i'w fam fedru cyrraedd Ysbyty Caer. Dyna pam roedd o'n gymwys
i chwarae i Gymru. Trwy rwystro i Pele sgorio, gwnaeth argraff fawr, am
y tro cyntaf, yn ystod taith tim Cymru i Brasil yn 1962. Roedd yn chwaraewr
tawel, hunanfeddiannol ac yn feistre ar y bêl uchel. Chwaraeodd
rol allweddol yn llwyddiant Spurs. Bu'n rheolwr ar dim Cymru ar amser
anodd a bu'r penderfyniad i'w ddiswyddo yn 1988 yn un dadleuol.
Chwaraeodd Derrick, oedd yn bêl-droediwr amryddawn, ymhob safle ar wahan i ganolwr blaen a golwr. Chwaraeodd fel cefnwr i'w wlad yn ymgyrch Cwpan y Byd yn 1958.

Ar Hydref 25 1930 golygodd y rheol 'Byth ar Ddydd Sul' y byddai'n rhaid i Fred Keenor chwarae mewn tim o chwaraewyr cwbl ddi-brofiad mewn gêm Ryngwladol yn erbyn yr Alban. Ar ol iddyn nhw gael eu bedyddio'n 'Unknowns' gan y Wasg, roedd gan y tim lawer i'w brofi a dim i'w golli. Llwyddodd y tim i ddod yn gyfartal, 1-1, gyda'r Albanwyr ac ar ol iddyn nhw ddod adref fe'u bedyddiwyd yn 'Great Unknowns'.

Bod Dinas Caerydd wedi troi ei thomen sbwriel yn faes pêl-droed. Yr Arglwydd Ninian Stuart, un o noddwyr y Clwb, a gychwynnodd y gêm gyntaf yno yn 1910. Penderfynodd y clwb enwi'r maes ar ei ol.
Mae tywydd gwael yn medru bod yn rhwystr gwirioneddol. Bu'n rhaid i Ddinas Caerdydd deithio 8000 o filltiroedd i chwarae yn erbyn Moscow yn Stadiwn y Casglwyr Cotwm, Tashkent, Usbekistan, yn 1967. Roedd y caeau yn Moscow wedi rhewi'n gorn a'u cae yn Tashkent oedd yr un agosaf y gellid ei ddefnyddio. Am stori!! Ar waethaf iddyn nhw orfod aros mewn gwesty Rwsaidd am ddwy noson a dioddef taith gydag Aeroflot, llwyddodd y Bluebirds i ddod yn gyfartal, 1-1.