Er mai gwlad fach ydi Cymru, mae hi wedi cynhyrchu rhai o gewri byd pêl-droed. Er eu bod nhw wedi bod yn israddol yn broffesiynol ers 1876, mae'n pêl-droedwyr gorau wedi perfformio campau hudol o flaen ein llygaid.

Gyda help rhai o haneswyr y gêm rydym ni wedi dewis ein Dewiniaid
Cymreig. Fel unigolion, maen nhw ymhlith y goreuon a welodd y byd. Gyda'i
gilydd maen nhw'n cynrychioli'r gorau ym mhêl-droed Cymru.

Hwyrach na fyddwch chi'n cytuno gyda'n dewis. Mae rhai chwaraewyr allan
o'u safle arferol ond doedd dim modd i ni eu gadael; nhw allan. Mae gan
bob cenhedlaeth ei fferfrynnau ar y cae. Fe gewch gyfle i ychwanegu eich
ffefrynnau chi at yr arddangosfa. Tan hynny...
Yn ôl yn y 19 ganrif y trefniant arferol oedd 2-2-6. Roedd y blaenwyr yn ymosod ar eu pennau'u hunain. Dim ond yn anaml roedden nhw'n pasio'r bêl. Roedd hynny cyn i'r Albanwyr ddangos y ffordd. 2-3-5 oedd y trefniant arferol cyn yr Ail Ryfel Byd. Mae timau modern yn chwarae 4-4-2. Roedd gêm pob cyfnod yn wahanol. Pwy sydd i farnu pa un ydi'r gorau?

Oeddech chi'n gwybod bod yr FA wedi llunio'r rheol 'Byth ar Ddydd Sadwrn'? Roedd hon yn rhwystro chwaraewyr o Gymry oedd yn chwarae i dimau yn Lloegr chwarae i'w gwlad. Dim ond yn ystod yr wythnos waith y gallen nhw wneud hynny. Ymgyrchu diflino gan Ted Robbins a lwyddodd i ddileu'r rheol yn 1934.