Roedd Mawrth 25 1876 yn ddiwrnod hanesyddol. Cerddodd unarddeg o ddynion ar y cae a gwneud rhywbeth nad oedd neb wedi'i wneud o'r blaen; chwarae pêl-droed i Gymru. Yn anffodus, fe gollodd Cymru 4-0, ond roedd yr Albanwyr wedi bod yn ymarfer ers pedai blynedd.

Yn Ionawr 1876 gwelodd Llewelyn Kenrick o Riwabon lythyr yn un o bapurau sbort Llundain yn herio'r Cymry i greu tim pêl droed. Penderfynodd Kenrick ymateb i'r her. Hysbysebodd am chwaraewyr a chynhaliodd dreialon yn Wrecsam.
Nid ar ei ben ei hun y gwnaeth Kenrick y gwaith yma. Aeth ati, gyda nifer o ffrindiau brwdfrydig, i greu Cymdeithas Pêl-droed Cymru er mwyn cael help i drefnu'r tim.
Cafodd y geiriau 'Cymdeithas Pêl-droed Cymru' eu hysgrifennu am y tro cyntaf mewn cyfarfod yng ngwesty'r Wynnstay, Wrecsam ar Chwefror 2 1876.
Yn stafell ddawns Gwesty'r Wynnstay, Rhiwabon y carodd cyfansoddiad CPC ei lunio. Aeth y dadlau ymlaen mor hi fel eu bod nhw wedi gorfod galw'r plismon lleol i mewn i alw stop-tap. Wrth Iwc roedd Syr Watkin Williams Wynn yno. Syr Watkin oedd yr YH lleol ac fe aeth i'r Llys, oedd yn yr adeilad drws nesaf, ac ymestyn oriau agor y gwesty er mwyn iddyn nhw fedru gorffen y gwaith.

Beth ydych chi'n gael os ydych chi'n tynnu dau dwrnai, meddyg, myfyriwr diwinyddiaeth, clerc yswiriant, dyn tan, milwr, glowr, gwneuthurwr potiau simne a gwertwr coed at ei gilydd?
Tim pêl-droed cyntaf Cymru.
Ydych chi'n gwybod y gwahaniaeth rhwng dribliwr a llaw-wyr yn y 19 ganrif?
Roedd driblwyr yn chwarae fel pêl-droedwyr modern. Roedd llaw-wyr yn chwarae fel chwaraewyr rygbi modern.