Billy Meredith 1895-1920 Capiau
48 Goliau 11 NE
Billy
oedd 'yr enw mawr' cyntaf yn hanes pêl-droed Cymru. Yn ei anterth,
cafodd ei ddisgrifio fel "asgellwr de gorau'r cyfnod, un anhylaw
i'w daclo, yn llithrig fel 'slywen ac yn saethwr heb ei ail." Yn
1907 bu Billy a'i gydchwaraewr Leigh Roose, yn bennaf gyfrifol am fuddugoliaeth
gyntaf Cymru yn y Bencampwriaeth Ryngwladol Gartref gyntaf. Roedd yn chwaraewr
cynhyrfus ar y cae ac yn gymeriad go-iawn oddi arno. Cafodd ei gyhuddo
o fod yn rhan o sgandal llwgrwobrwyo er mwyn pennu canlyniad gêm
yn erbyn Aston Villa. Roedd yn un o sefydlwyr Undeb y Chwaraewyr ac ymgyrchodd
yn ddiflion i ddileu'r Uchafswm Cyflog. Roedd yn bêl-droediwr modern
o'r iawn ryw.
John Charles 1950-65 Capiau 38 Goliau 15 SW
Cafodd ei fedyddio'n "Il Gigante Buono" gan yr Eidalwyr ac
mae John Charles yn cynrychioli blwyddyn aur pêl-droed Cymru - 1958.
Mae'n debyg mai Charles ydi'r chwaraewr gorau a gynhyrchodd Cymru. Charles
oedd y chwaraewr cyntaf i groesi'r llinell rhwng pêl-droed ac enwogrwydd.
Yn 1957 fe symudodd o Leeds i Jeventus mewn bargen a olygodd bod £65,000
yn newid dwylo - record ar y pryd. Ffynnodd yn yr Eidal on cafodd cefnogwyr
Cymru sawl noson heb gwsg cyn i reolwr Cymrun, Jimmy Murphy, berswadio
Jeventus i'w rhyddhau i chwarae yng Nghwpan y Byd. Golygodd yr anaf a
gafodd wrth chwarae yn erbyn Hwngari na fedrodd fod yn rhan o'r tim yn
erbyn Brasil. Y gêm honno ydi'r 'Beth petai?' mwyaf yn hanes pêl-droed
ein gwlad.
Bryn Jones 1935-49 Capiau 17 Goliau 6 S
Chwaraeai
Bryn fel mewnwr chwith. Roedd ei dalent yn golygu bod Arsenal yn fodlon
talu £14,000 amdano i Wolves yn 1938. Ar y pryd, roedd hynny'n record.
Am ei fod yn gymeriad mor annibynnol, roedd Wolves yn barod i'w werthu.
Perthynai i ail genhedlaeth teulu'r pêl-droedwyr Jones.
Mark Hughes 1984-99 Capiau 72 Goliau 16 NE
Roedd
Mike England yn gwybod ei fod wedi dewis yn ddoeth pan sgoriodd "Sparky"
yn ei gêm gyntaf ar y Cae Ras, cae sydd heb fod ymhell o fan geni
Mark Hughes, sef Rhiwabon. Cafodd ei ethol yn Chwaraewr y Flwyddyn gan
y PFA yn 1989 ac 1991. Mae cefnogwyr yn dal i gofio y foli drawiadol a
roddodd gol iddo yn erbyn Sbaen yn 1986. Er na chafodd ennill anrhydeddau
yn rhyngwladol fe enillodd rai niferus gyda Manchester United, Barcelona
a Chelsea. Ei ddawn fwyaf oedd gwybod am faint i ddal ei afael ar y bêl
cyn ei phasio i'r blaenwyr. roedd yn chwaraewr weithredu fel rheolwr y
tim cenedlaethol.
Ryan Giggs 1991 on Capiau 33 Goliau 7 S
Mae'r
gwybodusion yn dweud mai'r tim gorau i gynrychioli Prydain fyddai tim
Lloegr gyda Giggs yn rhan ohono. Mae eraill yn dadlau mai Giggs, gyda
gweddill tim Lloegr yn llenwi'r bylchau eraill, fyddai'r gorau. Bu'n chwarae
rhan allweddol yn rhim Manchester United a chyfrannodd lawer iawn at eu
llwyddiant yn y 1990au. Giggs ydi'r unig berson i gael ei ehtol yn Chwaraewr
Ifanc y Flwyddyn ddwywaith. Mae'n chwim ei symudiadau ac mae ei allu i
wneud i amddiffynwyr edrych yn gloff ac yn drwsgl yn golygu ei fod wedi
gwireddu ei addewid ac sedi datblygu i fod "y dalent fwyaf cynhyrfus
ym mhêl-droed Prydain heddiw".
Cliff Jones 1954-70 Capiau 59 Goliau 16
SW
Cyfrannodd teulu Cliff Jones gryn dipyn i bêl-droed
Cymru. Cynrychiolai Cliff y drydedd genhedlaeth o'i deulu i chwarae'n
broffesiynol. Mae'n debyg mai ef oedd asgellwr cyflymaf ei genhedlaeth
a chodai frawiau ar y timau oedd yn ei wynebu. Roedd gan y teulu safle
yn y tim oedd fel petai wedi cael ei diogelu ar gyfer ei aelodau: mewnwr.

Dim ond ar ol i staff golchfa Menachester
City ddechrau cwyno am fod y baco roedd o'n gnoi yn difetha ei grysau
y dechreuodd Billy Meredith ddechra cnoi pigwr dannedd.

Sut mae cyflogau wedi newid?
Dim ond yn ddiweddar y mae pêl-droed
ac arian mawr wedi bod yn gysylltiedig a'i gilydd. Yn 1900 dwy feipen
yr wythnos a dderbyniai Robert Evans, y Chwaraewr Rhyngwladol Cymreig,
fel costau gan ei glwb. Yn ystod tymor 1894 derbyniai Billy Meredit £2.00
yr wythnos yn ystod y tymor. Ym mlynyddoedd cyntaf ei yrfa gweithiai yn
y pwll glo yn ystod yr wythnos. Does ryfedd ei fod yn gwrthwynebu'r uchafswm
cyflog roedd y Gymdeithas bêl-droed yn ei orfodi ar bob chwaraewr.
Newidiodd pob dim yn 1961. Wedi i'r cyfyngiadau gael eu dileu, decreuodd
y pêl-droedwyr amlwg ago poteli siampaen...
Pêl-droed yn ystod y Rhyfeloedd
Ni chwaraewyd unrhyw gêmau rhyngwladol
yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Fe ymatebodd pêl-droedwyr, hefyd,
i'r alwad i fynd i ryfel. Ymunodd lawer a "Bataliwn y Pêl-droedwyr'
yng Nghatrawd 17 Swydd Middlesex. Gwnaeth Leigh Roose, golwr Cymru, ddefnydd
da o'i fedrau fel golwr yn Awst 1916 trwy daflu grenadau er mwyn atal
gwrthymosdiad gan filwyr yr Almaen. Derbyniodd Fedal Filitraraidd am ei
ddewrder. Gwaetha'r modd ni chafodd chwarae i wlad ei dadau ar ol y rhyfel
gan iddo gael ei ladd yn Ligny-Tholloy yn y Somme, Ffrainc, yn ystod brwydr
Hydref 1916. Sawl un ohonyn nhw, tybed, a feddyliodd mai lifrai lliw khaki
y bydden nhw'n wisgo am y pedwar tymore nesaf? Cyfrannwyd yr holl arian
a godwyd yn y pedair gêm a chwaraewyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd
i achosion da.
Yn
Abertawe y chwaraewyd y gêm ryngwladol gyntaf yn Ne Cymru. Roedd
y gêm yn ddieithr i lawer o'r Cymry a chyhoeddodd y Western Mail
lawlyfr yn egluro sut roedd ei chwarae, rhag ofn i rai o'r cefnogwyr fethu
a deall pam nad oedd neb yn rhedeg gyda'r bêl yn eu dwylo. Enillodd
Cymru 4-1 ac ysgrifennodd sylwebydd y Western Mail: "Doedd fawr ddim
o'r triciau budr, sy'n medru bod mor ddefnyddiol i'r rhai sy'n chwarae
ar sail y cod driblo, ar gyfyl y gêm hon." Ymhellach ymlaen
fe gyfaddefodd bod y gêm wedi bod yn rhybudd o ryw fath i'r Undeb
Rygbi gan ddangos ei fod, yn ddistaw back, yn edmygu'r driblwyr.
|