Cymru a Chwpan y Byd 1958
Dim ond unwaith y chwaraeodd Cymru yng Nghwpan y Byd. mae'r cof am hynny'n
dal yn fyw am fod gobaith, ymffrost, dewrder, lwc, balchder, penderfyniad,
methiant a cholli wedi dod ynghyd yn yr ychydig gêmau hyn ac wedi
creu stori sy'n werth ei hadrodd.

Roedd Cymru mewn grwp o dri thim. Chwaraeodd Cymru'n wael yn eu tair
gêm oddi cartref yn erbyn Dwyrain yr Almaen a Tsiecoslofacia yn
ystod Mai 1957. Trwy frwydro'n ol yn ddygn yn erbyn Dwyrain yr Almaen
ym Medi 1957, ac ennill o 4-1, fe sicrhawyd lle allweddol ymhlith y timay
wrth gefn.

Roedd Cymru allan ohoni - yr unig un o wledydd Ynysoedd Prydain i fethu
a bod yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd. Ond y sydyn daeth tipyn o lwc
i ran y tim o gyfeiriad gwleidyddiaeth y Dwrain Canol. Roedd timau Arabaidd
yn gwrthod chwarae yn erbyn Israel yn yr ornest i weld pwy oedd yn cael
mynd ymlaen i'r rowndiau terfynol. Enillodd Cymru yr hawl i chwarae yn
erbyn Israel.
Gyda lwc o'u hochr ac Ivor Allchurch yn ol yn y tim unwaith eto, fe gurodd
Cynru Israel yn y ddwy gêm ragbrofol. Roedden ni trwodd i'r rowndiau
terfynol!
Gwelwyd Cymru fel tim oedd heb hawl i fod yn y gystadleuaeth, ond roedd
eu perfformiad ar y cae, yn erbyn Brasil, yn ddigon i gau cegau'r beirniaid.
Poenai pawb yng Nghymru na fyddai Juventus yn rhddhau John Charles mewn
pryd i chwarae. Gyda thri diwrnod i fynd, cafodd ganiatad.
Roedd y gêmau'n rhai caled: chwaraeodd Cymru'n ofalus, yn orofalus,
hwyrach, a dod yn gyfartal gyda Mecsico a Sweden. Tra oedd y gêm
gyntaf yn erbyn Hwngari'n un digon brwnt, roedd yr ail yn un giaidd. Cafodd
John Charles, yn arbennig, driniaeth egr iawn. Cymru wnaeth ennil, o 2-1,
ond cafodd sawl chwaraewr ei frifo. Doedd John Charles ddim wedi dod ato'i
hun yn ddigon da i chwarae yn erbyn Brasil yn y rownd nesaf. Er fod Cymru
wedi chwarae'n dda, sgoriodd Pele gol lwcus i Brasil gan roi diwedd ar
freuddwydion Cymrun i ennill Cwpan y Byd.
A
fedr Cymru gyrraedd y rowndiau terfynol byth eto? A welwn ni Gymro'n dal
Tlws Jules Rimet yn ei ddwylo? Hwyrach y bydd y chwaraewyr yn ein tim
ffanatsi, y Dewiniaid Cymreig, yn ysbrydoli chwaraewyr y dyfodol i lwyddo
lle methodd tim 1958.
|