Cynhaliwyd Blwyddyn Diwylliant Wrecsam o fis Ionawr i fis Rhagfyr 2011. Bu’r Flwyddyn yn llwyddiant mawr ac amcangyfrifir iddi ddod â £2 filiwn i mewn i’r economi lleol. Gosodwyd targed o 300 o ddigwyddiadau yn ystod y flwyddyn, ond erbyn i’r flwyddyn ddod i ben roedd y cyfanswm 91% yn fwy na’r targed gyda chyfanswm o 572 o ddigwyddiadau wedi cael eu cynnal. Yn gyfan gwbl, denodd y digwyddiadau 500,000 o ymwelwyr i’r Fwrdeistref Sirol.
Roedd y digwyddiadau’n hynod amrywiol ac yn cynnwys pethau fel Opera Cenedlaethol Cymru, Gŵyl Adloniant Stryd Gyntaf Wrecsam, yr Eisteddfod Genedlaethol, Wythnos Ffasiwn Wrecsam a chyngerdd awyr agored yng Nghastell y Waun.
Dechreuodd y flwyddyn ym mis Ionawr gyda Gorymdaith Goleuadau Godidog drwy Ganol Tref Wrecsam, yna cafwyd perfformiad gan Gôr Meibion Fron ac arddangosfa tân gwyllt a wyliwyd gan filoedd. Trannoeth, cynhaliwyd gweithgareddau dawns yng nghanolfan siopa Dôl yr Eryrod a ddenodd lawer o sylw yn y wasg a’r cyfryngau, gyda channoedd o bobl yn cymryd rhan yn y perfformiad byrfyfyr. Roedd y digwyddiadau hyn eu hunain yn ddigon i godi proffil Bwrdeistref Sirol Wrecsam a gwnaethant sefydlu’r naws ar gyfer rhaglen wych gydol 2011.
Ers hynny, mae’r dref wedi croesawu cantorion opera, cerddorion, arddangosfeydd crefftau a pherfformwyr stryd. Hefyd yn ystod y flwyddyn cynhaliwyd digwyddiadau er budd elusennau. Cynhaliwyd Wythnos Ffasiwn Wrecsam ym mis Medi gan gynnig noson faldodi arbennig i godi arian i Hosbis Hope House yng Ngwesty Ramada Plaza - codwyd cyfanswm o £1260. Cododd Etape Cymru hefyd swm sylweddol o arian, dros £12,000 i gyd, i Hospis Tŷ’r Eos.
Denodd Blwyddyn Diwylliant Wrecsam enwogion amlwg a digwyddiadau allweddol yn ystod y flwyddyn. Ymysg yr wynebau cyfarwydd roedd Max Boyce, Charlie Boorman, Russell Howard, Dave Spikey, Gervase Phinn, The Drifters, Russell Kane, Y Tri Thenor ac Al Murray. Dosbarthwyd 250,000 o raglenni bob chwarter – ar-lein ac wedi’u printio – ac roedd y dosbarthu yn cwmpasu Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cymru gyfan a rhannau o Loegr.
Hefyd yn rhan o Flwyddyn Diwylliant Wrecsam roedd Gŵyl Gelfyddydau flynyddol Wrecsam a gynhelir ym mis Mai a chynlluniau eraill yn cynnwys y Prosiect Gwagleoedd, sy’n dod â chelf i adeiladau nad ydynt yn cael eu defnyddio ar y pryd, yn ogystal â llu o arddangosfeydd yn Oriel Wrecsam.
Bu’r Flwyddyn Diwylliant yn gweithio hefyd gydag ysgolion lleol, cynradd ac uwchradd. Lluniwyd cynlluniau i annog pobl ifanc a myfyrwyr i gymryd rhan yn y rhaglen ddigwyddiadau. Bu cystadlaethau i ysgolion fel ‘Dylunio mwgwd Comedi/Trasiedi’, ‘Pizza Blwyddyn Diwylliant Wrecsam’, a’r ‘Gystadleuaeth Grempogau’ i gyd yn boblogaidd. Ymddangosodd Culture Kid yn llawer o’r digwyddiadau gan gyflwyno’u gwobrau i’r plant.
Mae Blwyddyn Diwylliant Wrecsam wedi bod yn llwyddiant enfawr, yn cynyddu’r niferoedd mewn dros 500 o ddigwyddiadau ac yn helpu i arddangos Wrecsam i’r byd y tu allan drwy ddenu ymwelwyr a sylw ar y cyfryngau. Ni fyddai’r flwyddyn wedi bod yn bosib heb help ein noddwyr (yn arbennig Dôl yr Eryrod, ein prif noddwr), ein cefnogwyr, trefnwyr y digwyddiadau, stiwardiaid a gwirfoddolwyr a phawb a ddaeth allan i gefnogi’r digwyddiadau.
Os hoffech gan unrhyw wybodaeth bellach am Flwyddyn Diwylliant Wrecsam 2011 neu ddigwyddiadau ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam, cysylltwch â’r tîm Marchnata a Hyrwyddo ar 01978 292545.