Os digwydd y farwolaeth yn yr ysbyty, bydd staff yr ysbyty yn cysylltu â'r unigolyn a enwyd gan yr ymadawedig fel ei berthynas agosaf. Nid oes raid i'r unigolyn hwn fod yn berthynas. Os dymunwch, gallwch weld caplan yr ysbyty. Bydd yr ysbyty'n cadw'r corff ym marwdy'r ysbyty, hyd nes i'r ysgutor drefnu iddo gael ei symud. Mae gan y rhan fwyaf o drefnwyr angladdau gapel gorffwys lle cedwir yr ymadawedig hyd nes yr angladd. Bydd yr ysbyty'n trefnu i'r perthynas agosaf gasglu eiddo'r ymadawedig.
Os oedd y farwolaeth yn ddisgwyliedig, cysylltwch â'r meddyg a oedd yn gofalu am yr ymadawedig yn ystod ei salwch terfynol. Os gall y meddyg ardystio i achos y farwolaeth, bydd yn rhoi'r canlynol i chi:
Tystysgrif Feddygol sy'n nodi achos y farwolaeth (mae hon am ddim a bydd mewn amlen wedi'i selio a'i chyfeirio at y cofrestrydd).
Hysbysiad Ffurfiol sy'n nodi bod y meddyg wedi llofnodi'r Dystysgrif Feddygol, ac yn dweud wrthych sut i gofrestru'r farwolaeth.
Efallai eich bod am gysylltu â gweinidog neu offeiriad yr ymadawedig, os nad ydych wedi gwneud hyn eisoes. Gall trefniadau'r angladd gael eu gwneud gan drefnwr angladdau.
Os oedd y farwolaeth o ganlyniad i salwch HIV neu AIDS, fe all fod rheolau arbennig ynghylch trin y corff. Gall y sefydliadau canlynol gynnig cyngor ynghylch trefniadau angladdau:
London Lighthouse
FACTS Health Centre
Terence Higgins Trust
Os ydych yn darganfod corff neu os yw'r farwolaeth yn sydyn neu'n annisgwyl, dylech gysylltu â'r bobl ganlynol:
Meddyg Teulu (os yn hysbys)
Perthynas agosaf yr ymadawedig
Gweinidog neu Offeiriad yr ymadawedig
Yr heddlu a fydd yn cynorthwyo i ddod o hyd i'r bobl a restrir uchod, os bydd angen.
Os oes unrhyw le i gredu nad oedd y farwolaeth yn un naturiol, peidiwch â chyffwrdd na symud unrhyw beth yn yr ystafell. Gall y farwolaeth gael ei chyfeirio at y Crwner.
Os yw achos y farwolaeth yn hollol amlwg, bydd y meddyg yn rhoi Tystysgrif Feddygol i chi, ynghyd â Hysbysiad Ffurfiol sy'n nodi bod y meddyg wedi llofnodi'r Dystysgrif Feddygol.
Os oedd yn hysbys bod y farwolaeth oherwydd salwch naturiol, ond bod y meddygon am wybod mwy ynghylch achos y farwolaeth, fe allent ofyn i'r perthnasau am ganiatâd i wneud archwiliad post-mortem. Archwiliad meddygol o'r corff yw hwn a all ddarganfod mwy ynghylch achos y farwolaeth. Ni ddylai oedi'r angladd.
Mae'n bosibl bydd meddyg yn hysbysu Crwner o farwolaeth o dan yr amgylchiadau canlynol:
Damwain neu anaf
Clefyd diwydiannol
Yn ystod llawdriniaeth lawfeddygol
Cyn adfer o effeithiau anaesthetig
Os yw achos y farwolaeth yn anhysbys
Roedd y farwolaeth yn sydyn ac anesboniadwy
Gall mai'r Crwner yw'r unig un a all ardystio achos y farwolaeth. Bydd y meddyg yn ysgrifennu ar yr Hysbysiad Ffurfiol bod y farwolaeth wedi ei chyfeirio i'r Crwner.
Os nad oedd y meddyg yn gofalu am yr ymadawedig wedi ei g/weld, un ai
wedi'r farwolaeth neu o fewn 14 diwrnod cyn y farwolaeth, rhaid adrodd
y farwolaeth wrth y Crwner.
Bydd raid i chi weithredu yn sydyn os mai dymuniad yr ymadawedig neu'r perthynas agosaf yw rhoi'r organau, neu'r corff cyfan i'w trawsblannu ar gyfer dibenion hyfforddiant meddygol. Y weithdrefn arferol yw gofyn i'r perthynas agosaf sicrhau nad ydynt yn gwrthwynebu rhoi organau. Os digwyddodd y farwolaeth mewn ysbyty neu sefydliad tebyg, eiddo pennaeth y sefydliad hwnnw'n gyfreithlon yw'r corff. Gall anrhydeddu cais yr ymadawedig, yn ysgrifenedig neu ar lafar ger bron dau dyst, i'r corff gael ei roi at ddibenion ymchwil feddygol, os nad oes rheswm credu y diddymwyd y cais.
Os oes rhaid hysbysu'r Crwner o'r farwolaeth, mae'n bosibl bydd angen caniatâd y Crwner cyn y gellir rhoi organau neu'r corff. Rhaid cael tystysgrif feddygol cyn y gellir tynnu unrhyw organ neu ddefnyddio'r corff.
Mae'n arferol i dynnu arennau, ond yn hanfodol i'r galon, ysgyfaint, iau a'r cefndedyn, o roddwr sy'n ardystiedig bod bôn eu hymennydd yn farw ac fe anedlir drostynt ac felly eu curiad calon, gan awyriadur mewn uned gofal dwys ysbyty.
Anaml iawn y gellir tynnu arennau ar ôl awr wedi marwolaeth y galon. Gellir tynnu organau eraill hyd at yr amseroedd canlynol wedi marwolaeth y galon:
Y cornbilennau (o'r llygaid) -
croen - hyd at 24 awr
asgwrn - hyd at 36 awr
falfiau'r galon - hyd at 72 awr
Gall y meddyg sy'n gofalu eich cynghori ynghylch y drefn. Wedi'r rhoi,
rhyddheir y corff i'r perthnasau. Os yw'r corff cyfan yn cael ei roi,
ffoniwch Archwilydd Anatomi EM (020 7972 4551). Os byddwch yn cael unrhyw
anawsterau, neu ag unrhyw ymholiadau, cysylltwch â'r Archwilydd
Anatomi EM ar y rhif uchod. Rhoddir ystyriaeth i leoliad ac achos y farwolaeth,
cyflwr y corff ar adeg y farwolaeth a'r galw mewn colegau meddygol. Gall
y corff gael ei dderbyn. Gellir gwrthod cyrff os bu post-mortem, neu os
tynnwyd unrhyw organ fawr, heblaw am y cornbilennau.
Gallwch gael mwy o wybodaeth am sut i roddi’ch corff gan yr Awdurdod Meinweoedd Dynol (HTA) (dolen allanol).
Sefydlwyd yr HTA i reoleiddio symudiad, storio, defnyddio a gwaredu cyrff dynol, organau a meinwe ar gyfer nifer o Bwrpasau Rhestredig – fel ymchwil, trawsblaniad, ac addysg a hyfforddiant – a osodwyd yn y Ddeddf Meinweoedd Dynol 2004 (Deddf MD).
Mae addysg a hyfforddiant gweithwyr proffesiynol meddygol, ynghyd ag ymchwil biofeddygol, yn elwa o garedigrwydd y rhai sy’n rhoddi’u cyrff i’w defnyddio ar ôl eu marwolaeth. Mae pobl sy’n rhoddi’u cyrff yn cyfrannu mewn dull hanfodol i hyfforddiant gan ysgolion meddygol a gwerthfawrogir cyfraniadau fel hyn yn fawr iawn gan staff a myfyrwyr fel ei gilydd.
Meddyg neu gyfreithiwr sy'n gyfrifol am ymchwilio i farwolaethau yn yr amgylchiadau isod yw Crwner:
Nid oedd meddyg wedi gweld yr ymadawedig yn ystod y salwch diwethaf, neu nid oedd y meddyg a oedd yn gofalu am yr ymadawedig wedi ei weld/gweld ar ôl marw neu o fewn 14 diwrnod cyn marw.
Roedd y farwolaeth yn dreisgar neu'n annaturiol neu wedi digwydd o dan amgylchiadau amheus.
Nid yw achos y farwolaeth yn hysbys, neu mae'n ansicr.
Digwyddodd y farwolaeth tra bo'r claf yn cael llawdriniaeth neu ni adferodd o'r anaesthetig
Achoswyd y farwolaeth oherwydd afiechyd diwydiannol
Digwyddodd y farwolaeth yn y carchar neu tra yn y ddalfa gan yr heddlu
Os oes angen cyngor neu wybodaeth ynghylch marwolaeth sydd wedi cael ei adrodd i'r Crwner arnoch, cysylltwch â swyddfa'r Crwner.
Mr John B Hughes,
HM Coroner for North East Wales.
Coroner's Office,
Marbel House,
Overton Arcade,
High Street,
Wrexham, LL13 8LL.
Gall y Crwner drefnu archwiliad post-mortem o'r corff. Nid oes angen caniatâd y perthnasau, ond mae ganddynt hawl i gael meddyg yn bresennol yn yr archwiliad ar eu rhan. Wedi i'r perthnasau hysbysu'r Crwner eu bod am gael eu cynrychioli, bydd y Crwner, os yn bosibl, yn dweud wrthynt pryd a lle fydd yr archwiliad yn digwydd.
Os digwydd y farwolaeth yn yr ysbyty, bydd y Crwner yn trefnu i'r archwiliad gael ei wneud gan batholegydd nad yw'n gweithio nac â chysylltiad â'r ysbyty hwnnw, os bydd perthynas yn gofyn i'r Crwner wneud hyn ac nid yw'n creu oediad gormodol.
Telir am symud y corff o leoliad y farwolaeth i'r marwdy ar gyfer archwiliad post-mortem gan y Crwner. Gall y perthnasau ddewis eu trefnwr angladdau.
Os bydd y post-mortem yn profi bod y farwolaeth oherwydd achosion naturiol, gall y Crwner roi hysbysiad a elwir y Ffurflen Binc B (ffurflen 100), sy'n nodi achos y farwolaeth fel y gellir cofrestru'r farwolaeth. Fel arfer, bydd y Crwner yn anfon y ffurflen yn uniongyrchol at y cofrestrydd, ond fe all ei rhoi i chi i'w danfon.
Os bydd y corff i'w amlosgi, bydd y Crwner yn rhoi Tystysgrif Amlosgi
(ffurflen E) i chi, sy'n rhoi hawl i amlosgiad ddigwydd.
Ymchwiliad i achos meddygol ac amgylchiadau marwolaeth yw cwest. Fe'i cynhelir yn gyhoeddus, weithiau gyda rheithgor. Y Crwner fydd yn penderfynu sut i drefnu'r ymchwiliad, yn y modd gorau i wasanaethu lles y cyhoedd a'r perthnasau.
Bydd y Crwner yn cynnal ymchwiliad os bu'r farwolaeth yn:
Dreisgar neu'n annaturiol neu
Fe'i hachoswyd trwy afiechyd ddiwydiannol hysbys neu
Fe ddigwyddodd y farwolaeth mewn carchar neu
Mae achos y farwolaeth yn parhau'n ansicr ar ôl yr archwiliad post-mortem
Bydd Crwneriaid yn cynnal ymchwiliad o dan yr amgylchiadau hyn, hyd yn oed os bu'r farwolaeth dramor (ac mae'r corff yn cael ei ddychwelyd i Brydain).
Os yw'r corff ar goll (fel arfer yn y môr), gall Crwner gynnal cwest trwy orchymyn yr Ysgrifennydd Gwladol, os yw hi'n debygol y bu i'r farwolaeth ddigwydd yn neu ger awdurdodaeth y Crwner.
Os cynhelir cwest, rhaid i'r Crwner hysbysu'r bobl ganlynol:
Partner priod yr ymadawedig
Y perthynas agosaf (os yn wahanol)
A'r cynrychiolydd personol (os yn wahanol i'r uchod)
Gall perthnasau fynychu cwest a gofyn cwestiynau i'r tystion, ond dim ond cwestiynau ynghylch achosion meddygol ac amgylchiadau'r farwolaeth.
Gall fod yn bwysig cael cyfreithiwr yn bresennol i'ch cynrychioli os bu i'r farwolaeth ddigwydd oherwydd damwain ffordd, neu ddamwain yn y gwaith neu unrhyw amgylchiadau eraill a all arwain at gais am iawndal. Ni ellwch gael cymorth cyfreithiol i hyn.
Os bydd yr ymholiadau'n cymryd cryn amser, gofynnwch i'r Crwner am lythyr yn cadarnhau'r farwolaeth. Gellwch ddefnyddio'r llythyr hwn at ddibenion Nawdd Cymdeithasol neu Yswiriant Gwladol.
Mae'n bosibl bydd y Crwner yn rhoi Gorchymyn Claddu (ffurflen 101) neu Dystysgrif Amlosgi (ffurflen E) i chi, fel bod yr angladd yn gallu digwydd. Gellir gwneud hyn cyn i'r cwest orffen, cyn belled nad oes angen y corff ar gyfer archwiliad pellach.
Bydd y Crwner hefyd yn anfon Tystysgrif ar ôl Cwest (ffurflen 99 (rev)) at y Cofrestrydd yn nodi achos y farwolaeth. Mae hyn yn galluogi'r farwolaeth i gael ei chofrestru.
Y Crwner yn unig all roi caniatâd i symud corff allan o Gymru neu Loegr. Rhaid cael y caniatâd hwn o leiaf pedwar diwrnod cyn symud y corff (er gall y Crwner roi'r caniatâd yn gynt), fel y gellir gwneud unrhyw ymholiadau angenrheidiol. Wedyn byddwch yn cael Hysbysiad Symud (ffurflen 104) a ac anfonir rhan ohono at y cofrestrydd ar ôl yr angladd. Rhaid derbyn caniatâd os cynhelir angladd y tu allan i Gymru neu Loegr.
Mae'r weithdrefn hon yn weithredol ym mhob achos os yw'r corff yn cael
ei symud allan o Gymru neu Loegr, nid dim ond pan fo'r farwolaeth yn cael
ei adrodd i'r Crwner.
Pan fo rhywun yn marw, bydd y meddyg a fu'n gofalu am yr ymadawedig yn rhoi tystysgrif feddygol o achos y farwolaeth i'r perthnasau. Mae'n rhaid i'r unigolyn sy'n cofrestru'r farwolaeth fynd â'r dystysgrif hon i swyddfa'r cofrestrydd. Weithiau, os oedd y farwolaeth yn un sydyn, neu os nad oedd y meddyg a fu'n gofalu am yr ymadawedig ar gael, mae'n bosibl na ellir rhoi tystysgrif feddygol o achos y farwolaeth. Os bydd hyn yn digwydd, bydd rhaid i'r farwolaeth gael ei hadrodd i'r Crwner a all arwain at oedi cyn cofrestru'r farwolaeth.
Rhaid cofrestru pob marwolaeth yng Nghymru a Lloegr yn y dosbarth lle digwyddodd o fewn 5 diwrnod o'r farwolaeth. Rhoddir y wybodaeth ar gyfer y cofrestriad i'r cofrestrydd gan yr unigolyn sy'n cofrestru'r farwolaeth. Cofrestrir y wybodaeth, sydd fel arfer yn cael ei chofrestru ar gyfrifiadur, ar y gofrestr marwolaeth hefyd a bydd yr unigolyn sy'n cofrestru'r farwolaeth yn llofnodi'r cofnod.
Os yw hi'n anghyfleus i'r unigolyn sy'n cofrestru'r farwolaeth fynd i'r dosbarth lle digwyddodd, gellir rhoi'r wybodaeth ar gyfer y cofrestriad i gofrestrydd mewn dosbarth arall. Bydd y cofrestrydd yn cofnodi manylion y cofrestriad ar ffurflen datganiad a'i hanfon at gofrestrydd y dosbarth lle bu'r farwolaeth. Bydd y cofrestrydd sy'n derbyn y datganiad yn nodi'r wybodaeth yn y gofrestr farwolaeth.
Gellir archebu a thalu am dystysgrifau marwolaeth ar yr un pryd â gwneud y datganiad, ynghyd â'r ddogfen sy'n caniatáu i'r angladd fynd ymlaen, yna byddant yn cael eu postio at yr unigolyn sy'n cofrestru'r farwolaeth gan gofrestrydd yr ardal lle digwyddodd. Os yw'r weithdrefn datganiad yn cael ei defnyddio, gall gymryd diwrnod neu ddau yn ychwanegol i'r ddogfen sy'n caniatáu i'r angladd fynd ymlaen gael ei chyhoeddi. Dylai perthnasau drafod y trefniadau gyda'u trefnydd angladdau a'r cofrestrydd er mwyn osgoi unrhyw oediad i'r angladd.
Gellir cofrestru marwolaeth yng Nghymru'n ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg os yw'r unigolyn sy'n cofrestru'r farwolaeth yn rhoi'r wybodaeth yn Gymraeg a bod y cofrestrydd â'r gallu i ddeall ac ysgrifennu Cymraeg. Os nad yw'r cofrestrydd yn deall ac yn ysgrifennu Cymraeg, gellir cofrestru mewn dosbarth gwahanol lle mae cofrestrwyr Cymraeg eu hiaith, gan ddefnyddio'r weithdrefn datganiad fel a ddisgrifiwyd uchod. Yn y Saesneg yn unig y gellir cofrestru marwolaeth sy'n digwydd yn Lloegr.
Isod, rhestrir rhai o'r ffurflenni a'r tystysgrifau byddwch yn eu derbyn gan feddygon a Crwneriaid. Mae'r rhestr yn esbonio pryd a lle byddwch yn derbyn bob ffurflen.
|
Wrth gofrestru marwolaeth |
Byddwch fel arfer yn derbyn |
Oddi Wrth |
|---|---|---|
| Os nad yw'r farwolaeth yn cael ei chyfeirio at Grwner | Tysysgrif Feddygol | Meddyg |
| Ym mhob achos | Hysbysiad Ffurfiol | Meddyg |
| Os yw baban yn farw-anedig | Tystysgrif Feddygol farw-anedig | Meddyg neu Fydwraig |
| Os cyfeirir y farwolaeth i'r Crwner on nid oes cwest | Hysbysiad gan y Crwner (Ffurflen Binc/ffurflen 100) | Crwner (fel arfer anfonir at y cofrestrydd, ond efallai gofynnir i chi ei ddanfon) |
| Os oes cwest ac mae'r corff yn cael ei gladdu | Gorchymyn Claddu (ffurflen 101) | Crwner |
| Os oes post-mortem neu gwest ac mae'r corff yn cael ei amlosgi | Tystysgrif Amlosgi (ffurflen E) | Crwner |
| Os yw'r corff yn cael ei symud allan o Gymru neu Loegr | Hysbysiad Symud (ffurflen 104) | Crwner |