Angladdau Sifil

Angladdau Sifil

Beth yw Angladd Sifil?

Mae angladd sifil yn ffordd bersonol ac urddasol o gofio a dathlu bywyd un annwyl pan fyddant yn marw.

Bydd y Cofrestrydd yn llunio seremoni gyda theulu a’i gwneud yn bersonol ac yn unigryw i’r unigolyn, gan ystyried eu bywyd, eu personoliaeth, eu llwyddiannau a sôn hefyd am bobl bwysig yn eu bywyd mewn ffordd urddasol nad yw’n grefyddol.

Gall seremonïau gynnwys darlleniadau, cerddoriaeth, barddoniaeth a gweddïau er nad ydynt yn grefyddol o ran natur, a hefyd darlleniadau sy’n grefyddol eu cynnwys. Gellid hefyd defnyddio Gweddi’r Arglwydd yn ystod y seremoni.

Lle cynhelir hyn?

Gall y Cofrestrydd gynnal y seremoni yn yr amlosgfa neu fan claddu a ddewiswyd gan y teulu.

Sut ydw i’n trefnu Angladd Sifil?

Gallwch drefnu Angladd Sifil cyn, neu ar ôl i’r un annwyl farw.  Gallwch gysylltu â ni yn uniongyrchol, neu drwy drefnwr angladdau a gwnawn drefnu i’ch cyfarfod chi, un ai yn ein swyddfa, neu yn eich cartref i wneud trefniadau. 

Ein manylion cyswllt yw:

Y Swyddfa Gofrestru
Tŷ Dewi Sant
Ffordd Rhosddu
Wrecsam
LL11 1NF

Ffôn: 01978 292027
B-bost: civilfunerals@wrexham.gov.uk 

Angladdau Sifil gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Mae’r ddogfen hon ar gael i’w lawrlwytho yn y fformat canlynol:

MAngladdau Sifil gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - fersiwn PDF 590Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.

yn ôl i'r brig