Pan Fydd Rhywun Wedi Marw, Dwedwch wrthon ni Unwaith

Pan fydd rhywun wedi marw, mae 'na lawer o bethau sydd angen eu gwneud, ar adeg pan na fyddwch chi'n teimlo fel eu gwneud nhw o gwbl. Un o'r rheiny ydi cysylltu ag adrannau'r llywodraeth a gwasanaethau'r cyngor lleol sydd angen eu hysbysu.

Pan fyddwch chi'n cofrestru'r farwolaeth yn ein Swyddfa Gofrestru gallwn ddarparu gwasanaeth ychwanegol a fydd, rydyn ni'n gobeithio, yn gwneud pethau'n haws. Mae'r gwasanaeth hwn yn golygu y gallwch chi ddweud wrthon ni ac fe gysylltwn ni â'r sefydliadau hyn.

Mae yna nifer o sefydliadau y gellid eu hysbysu yng Nghyngor Bwrdeistref Siriol Wrecsam a sefydliadau eraill y llywodraeth fel yr Adran Gwaith a Phensiynau, Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi a'r DVLA, yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Mae yna restr lawn i'w chael yma.

I gael rhagor o wybodaeth ar y gwasanaeth gallwch lawrlwytho taflen neu gysylltu â'r Cofrestrwyr ar 01978 292027.

Yn dibynnu ar eich amgylchiadau gellir hysbysu'r sefydliadau canlynol gan ddefnyddio'r gwasanaeth Unwaith:

  • Gwasanaethau Oedolion
  • Lwfans Gweini
  • Budd-dal Profedigaeth
  • Cerdyn Parcio Bathodyn Glas
  • Lwfans Gofalwr
  • Budd-dal Plant
  • Credyd Treth Plant
  • Gwasanaethau Plant
  • Mân Ddyledwyr
  • Tai Cyngor
  • Treth Gyngor
  • Budd-dal Treth Gyngor
  • Lwfans Byw i'r Anabl
  • Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau
  • Gwasanaethau Etholiadol
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • Budd-dal Tai
  • Y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau
  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith
  • Gwasanaethau Llyfrgell
  • Credyd Pensiwn
  • Trethiant Personol
  • Pensiwn y Wladwriaeth
  • Credyd Treth Gwaith

Taflen Dwedwch wrthon ni Unwaith - fformat PDF 264kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.

yn ôl i'r brig

Cysylltiadau Defnyddiol