Mabwysiadu

Ers 1af Ebrill 2010 cyfunwyd holl wasanaethau mabwysiadu awdurdodau lleol ar draws Gogledd Cymru yng Ngwasanaeth Mabwysiadu newydd Gogledd Cymru. Yr awdurdodau dan sylw yw Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Wrecsam ac Ynys Môn. Erbyn hyn mae’r awdurdodau’n cronni eu hadnoddau ac yn datblygu gweithgareddau ar y cyd er mwyn rhoi gwasanaeth mwy effeithlon i bawb sy’n ymwneud â mabwysiadu ar draws y rhanbarth.

Trwy rannu arferion da a gwybodaeth arbenigol gweithwyr mabwysiadu yn y Gogledd nod y gwasanaeth yw:

  • gwella canlyniadau i blant sy’n cael eu mabwysiadu
  • sicrhau cyflawni’r broses asesu’n effeithlon a darparu mwy o gyfleoedd hyfforddi ar gyfer darpar fabwysiadwyr a rhai cymeradwy
  • gwella darpariaeth gwasanaethau cefnogi teuluoedd sy’n mabwysiadu, oedolion a fabwysiadwyd a rhieni naturiol.
  • cael y dewisiadau lleoli teuluoedd eithaf ar gyfer plant
  • byrhau’r amserlenni ar gyfer plant a mabwysiadwyr
  • sicrhau gwasanaeth cyfiawn i bawb trwy weithio gyda’n gilydd ar draws y rhanbarth

I gael rhagor o wybodaeth::

Gwefan: www.northwalesadoption.gov.uk
Ffôn: 0800 085 0774
Ebost: larry.groom@wrexham.gov.uk

Sut ydych yn graddio'r wybodaeth / gwasanaeth hwn?

yn ôl i'r brig