Cyfnodau Bywyd - Y Wasgfa Gredyd

A yw'r wasgfa gredyd yn effeithio arnoch chi? Peidiwch ag anwybyddu hyn, rydym wedi darparu rhai dolenni defnyddiol ar eich cyfer i Wasanaethau'r Cyngor a gwefannau allanol hefyd a allai eich helpu i fynd i'r afael â'ch sefyllfa.

Gwasanaethau Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

A yw'r 'Wasgfa Credyd' yn effeithio arnoch chi?

Gwybodaeth gan Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - Adran Tai.

Torri eich Treth Gyngor a thaliadau rhent - Budd-dal Tai a Budd-dal y Dreth Gyngor

Os ydych yn talu rhent a/neu dreth y cyngor ar eich cartref ac yn byw ar incwm isel efallai y bydd gennych hawl i Fudd-dal Tai a/neu Fudd-dal y Dreth Gyngor, sy'n golygu y gallech dalu llai am y biliau hyn.

Rheoli eich Busnes drwy’r Dirwasgiad (15fed Gorffennaf 2009)

Ydy’ch busnes chi’n dioddef straen y wasgfa economaidd? Eisiau gwybod sut mae busnesau eraill yn ymdopi â’r dirwasgiad? Dymuna Llinellfusnes groesawu busnesau lleol i ddigwyddiad AM DDIM a allai eu helpu drwy’r wasgfa economaidd.

Hawliau Lles

Mae'r Uned Hawliau Lles yn dm o weithwyr sy'n cynnig cyngor a chynrychiolaeth am faterion budd-daliadau lles.

Cefnogi Busnes

Mae Adran Datblygiad Economaidd Wrecsam yn cynnig ystod eang o wasanaethau cefnogi ar gyfer busnesau lleol.  Mae gan ein hymgynghorwyr busnes brofiad helaeth ac maent yn deall anghenion a gofynion busnesau o bob maint ac o bob sector. "ReAct" - Pecyn cymorth i bobl sydd wedi’u colli’u gwaith yw ReAct i’w cefnogi i fynd yn ôl i waith cyn gynted à phosibl.

Cysylltiadau Defnyddiol Allanol

Dyled, Methdaliad a Gwaddolion

Llinell Gymorth Alsolfedd y DU

Mae galw mawr am Gymorth Dyled yn y DU. Llinell Gymorth Ansolfedd a Chymorth Dyled y DU yw'r adnodd ar-lein cwbl ryngweithiol yn y DU sy'n rhoi'r cyfle i bob math o endidau ac unigolion gael mynediad uniongyrchol i gyngor proffesiynol mwyaf medrus y DU ar bob mater sy'n ymwneud â dyled ac ansolfedd.

Llinell Ddyled Genedlaethol

Mae ein Llinell Ddyled Genedlaethol yn llinell gymorth genedlaethol dros y ffôn i bobl â phroblemau dyled yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Mae ein gwasanaeth am ddim, yn gyfrinachol ac yn annibynnol. Yn y Llinell Ddyled Genedlaethol rydym yn ymrwymedig i ateb eich galwad ac yna'n trafod eich problemau dyled gyda chi a'r opsiynau sydd ar gael i chi. Ategir y cyngor arbenigol rydym yn ei roi dros y ffôn gan ddeunyddiau hunangymorth ysgrifenedig y gallwn eu hanfon hatoch am ddim. Os bydd eich amgylchiadau yn diwallu meini prawf penodol, gallwn, os oes gennych ddiddordeb, eich cynorthwyo i lunio Cynllun Rheoli Dyled i chi, am ddim.

Y Gwasanaeth Cynghorol ar gyfer Methdaliad

Nodau'r Gymdeithas yw: Rhoi cymorth ymarferol cwbl annibynnol, cyngor a chysur i'r rheiny a fydd yn mynd i ddyled a methdaliad. Ymgyrchu dros ddiwygio ein deddfwriaeth ansolfedd a deddfau cysylltiedig.

Cristnogion yn erbyn Tlodi

Mae Cristnogion yn erbyn Tlodi (CAP) yn elusen genedlaethol sy'n rhoi cyngor ar ddyled sy'n gweithio drwy rwydwaith o 58 o ganolfannau a leolir mewn eglwysi lleol. Mae CAP yn cynnig gobaith ac ateb i bobl sydd mewn dyled drwy eu gwasanaeth unigryw a manwl. CAP Wrecsam, dydd Llun – dydd Mercher. 01978 266975, wrexham@capuk.org.

ClearDebt.co.uk

ClearDebt – Cyngor ar ddyledion a Threfniadau Gwirfoddol Unigol (IVA).

Dewch o hyd i’ch ffordd nôl i’r gwaith

Os ydych yn chwilio am waith, angen awgrymiadau ar wneud cais am swyddi a chyfweliadau neu am ddatblygu eich sgiliau, cewch amrywiaeth o gymorth a chyngor yma.

Gwasanaeth Cynghori Credyd Defnyddwyr (CCCS)

Yn poeni am ddyled? Gall CCCS roi cyngor a chymorth cyfrinachol am ddim i chi.

Debt Free Direct

Mae Debt Free Direct yn rhoi cyngor am ddim ar ddyled ac ystod o atebion i ddyled sydd hefyd am ddim. Ymhlith yr atebion hyn mae Rheoli Dyled, trefniant gwirfoddol unigol (IVA), cyfuno dyledion ac fel ateb olaf, Methdaliad. Mae'r holl gyngor a'r atebion a gynigir yn seiliedig ar eu model 'cyngor gorau' ac nid ydynt yn ffafrio un ateb penodol.

Debt and You – Canllaw am ddim i reoli eich dyledion

"Debt and You – Managing Your Debts" Fe'u cynhyrchwyd fel canllaw am ddim i ddyledion, a oedd yn darparu gwybodaeth gyffredinol am ddyled bersonol ac yn bwysicach fyth, opsiynau ar sut i ddianc rhag dyled.

Debt Questions

Mae Debt Questions yn wefan wybodaeth am ddim sy'n rhoi cyngor diduedd ar ddyledion i unigolion.

Trefniadau Gwirfoddol Unigol a Chyngor ar Gyfuno Dyledion

Pwrpas y wefan hon yw rhoi gwybodaeth i bobl sydd â phroblemau dyled. Prif bwyslais y wefan yw rhoi gwybod i'n defnyddwyr am Drefniadau Gwirfoddol Unigol (IVA).

MoneySavingExpert.com

Mae MoneySavingExpert.com yn ymroddedig i arbed arian i chi ar bopeth drwy ddod o hyd i'r deliau gorau a threchu'r system. Mae'n seiliedig ar ymchwil newyddiadurol manwl, yr offer diweddaraf ac mae'n un o gymunedau gwe fwyaf y DU.

Pay Plan

Payplan yw un o gwmnïau rheoli dyled mwyaf blaenllaw y DU. Rydym yn defnyddio system a ddatblygwyd ar gyfer Paylink Trust (sef sefydliad nid er elw) i wneud trefniadau ad-dalu rhwng cleientiaid sydd mewn dyled a'r rheiny y mae arnynt arian iddynt.

PersonalCreditRating

Ffurfiwyd PersonalCreditRating i fod yn fan cyfeirio unigryw ar ddiogelu a gwella eich cyfradd gredyd.

Voucher Codes

Search VoucherCodes.co.uk for 1,000s of Free Voucher Codes and Exclusive Discounts.

Cysylltiadau Directgov

Gallwch wneud cais am Fenthyciad Cyllidebu – drwy Directgov

Gallwch wneud cais am fenthyciad cyllidebu os ydych chi neu'ch partner yn derbyn budd-daliadau incwm isel a bod angen cymorth arnoch i brynu pethau megis dodrefn, dillad neu dreuliau penodol sy'n ymwneud â byw a gweithio.

Hawlio ad-daliad trethi – drwy Directgov

Cwblhewch ffurflen hawliau gan Cyllid a Thollau ei Mawrhydi os ydych o'r farn bod gennych hawl i gael ad-daliad trethi.

Arian, trethi a budd-daliadau - Rheoli dyled - drwy Directgov

Rheoli dyled, cynllunio i oresgyn dyled, hawliadau llys a methdaliad.

Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.

yn ôl i'r brig