Cynllunio Partneriaethau Sifil

Materion Cyfreithiol

Rhaid rhoi rhybudd o fwriad i gofrestru partneriaeth sifil yn y rhanbarth yr ydych yn byw ynddo. Ar ôl rhoi rhybudd, rhaid i chi aros pymtheng niwrnod arall cyn y gellir arwyddo’r Atodlen Partneriaeth Sifil. Mae’r rhybudd yn ddilys am ddeuddeng mis.

Dogfennau sydd eu hangen yn ôl y gyfraith

Pan fyddwch yn mynd at Gofrestrydd Arolygol i wneud trefniadau ffurfiol, bydd angen i chi ddangos dogfennau penodol i gadarnhau eich enw, eich oedran, eich statws priodasol a’ch cenedligrwydd.

Bydd angen i chi ddangos y dogfennau gwreiddiol (ni dderbynnir llungopïau) canlyno:

  • Pasport llawn sy’n ddilys a chyfredol

neu

  • Dystysgrif Geni

neu

  • Drwydded Yrru Ddilys a chyfredol

Bydd angen i chi ddangos dogfen i brofi’ch cyfeiriad e.e.

  • Llyfr banc/cyfriflen neu fil treth y cyngor neu fil cartref ac ati

Hefyd (os yw’n berthnasol)

  • Os ydych yn weddw, tystysgrif marwolaeth eich cyn briod neu bartner sifil.
  • Os ydych wedi ysgaru, archddyfarniad diamod yn dangos stamp gwreiddiol y llys neu archddyfarniad diddymu partneriaeth sifil.
  • Dogfennau newid enw os ydych wedi newid eich enw.
  • Unrhyw ddogfennau perthnasol eraill

Costau

Codir pris o £33.50 yr un arnoch pan fyddwch yn rhoi rhybudd (nid yw’n ad-daladwy)
Hefyd:

Bydd arwyddo’r Atodlen Partneriaeth Sifil yn costio £40.00 sy’n daladwy ar y diwrnod arwyddo, hefyd £3.50 am bob tystysgrif a brynir ar y diwrnod.

Am arwyddo’r Atodlen Partneriaeth Sifil mewn adeiladau cymeradwy, codir ffi ar berchnogion yr adeiladau, a ffi am bresenoldeb y swyddogion cofrestru, sef

  • £215.00* Dydd Llun - Dydd Gwener
  • £235.00* Dydd Sul
  • £310.00* Dydd Sul a gwyliau banc

* yn daladwy heb fod yn llai na phythefnos cyn y digwyddiad, hefyd £3.50 am bob tystysgrif a brynir ar y diwrnod.

Nodwch fod pob tystysgrif ar ôl hynny yn £9.00

Adolygir yr holl ffioedd.

Ffoniwch y Cofrestrydd Partneriaethau Sifil i wneud apwyntiad i roi Rhybudd Cyfreithiol. Ffôn: (01978) 292027

Taflen Partneriaethau Sifil

Mae’r daflen hon gan Lywodraeth EM ar gael ar y wefan partneriaethau sifil, a gellir ei lawrlwytho yn y fformat canlynol:

Taflen Partneriaeth Sifil - fersiwn PDF 313Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.

Cysylltiadau Defnyddiol

Partneriaethau Sifil

O 5 Rhagfyr 2005, gall parau o’r un rhyw gael cydnabod eu perthynas yn gyfreithiol.  O hynny ymlaen, bydd gan unrhyw un sy’n cofrestru partneriaeth sifil yr un hawliau â pharau priod mewn agweddau fel treth, nawdd cymdeithasol, etifeddiaeth a budd-daliadau’r gweithle.  Mae’r hawliau newydd yn berthnasol i’r DU gyfan, ond mae’r wybodaeth a ddarperir ar y wefan hon yn ymdrin â chofrestru partneriaethau sifil yng Nghymru a Lloegr

yn ôl i'r brig