Hawdd iawn yw credu ein bod yn ddiogel o fewn ein cartrefi ein hunain, ond gartref, rydym yn aml yn llai gofalus nag ydym y tu allan. Mae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am sut i leihau'r perygl o gael damwain yn eich cartref.
Y damweiniau mwyaf cyffredin sy'n digwydd yn y cartref yw:
Ewch i Brofi eich Llygaid Caiff pobl dros 60 profion llygaid am ddim bob 2 flynedd. Cysylltwch ag optegydd am fanylion pellach.
Rydych yn fwy tebygol o lithro, baglu neu ddisgyn os ydych yn gwisgo:
Gwisgwch esgidiau fflt neu rai sydd â gwadnau tenau neu sawdl annatod.
Pan fyddwch yn codi o'r gwely neu o gadair ar ôl eistedd am gyfnod hir, mae'n syniad da gwneud hyn mewn camau araf.
Mae gostyngiad sydyn mewn pwysedd gwaed yn aml yn achosi i chi deimlo'n benysgafn wrth sefyll yn gyflym.
Ceisiwch dynhau eich breichiau a'ch coesau sawl gwaith cyn i chi sefyll gan fod hyn yn aml yn helpu.
Cymerwch Ofal yn y Baddon a'r Gawod Mae damweiniau'n fwy tebygol ar ôl yfed alcohol. Mae hyn oherwydd ei fod yn arafu ein gallu i ymateb i sefyllfaoedd sy'n codi.
Ffisig
DietRydych yn fwy tebygol o ddisgyn os ydych wedi methu prydau bwyd neu os oes gennych ddiet gwael. Ceisiwch beidio â methu prydau bwyd.
Os ydych yn ei chael hi'n anodd coginio:
Gall Wiltshire Farmfoods ddarparu prydau bwyd parod wedi'u rhewi yn uniongyrchol i'ch drws . I gael llyfryn lliw am ddim ffoniwch RHADFFÔN 0800 773 773.
Mae'r rhan fwyaf o archfarchnadoedd hefyd yn gwerthu prydau bwyd parod.
Mae sawl cwmni lleol yn cynnig bwydlen amser cinio â phris penodol ar gyfer pobl dros 60.
Sicrhewch fod larwm dân sy'n gweithio yn eich cartref - nid yw larymau tân yn atal tanau ond maent yn rhoi rhybudd cynnar.
Peidiwch byth ag ysmygu yn y gwely.
Cadwch wresogyddion cludadwy oddi wrth lenni a dodrefn.
I drefnu gwiriad diogelwch tân yn y cartref ffoniwch: 0800 169 1234
Rydych yn fwy tebygol o ddisgyn os oes gennych gyhyrau gwan a chydbwysedd gwael.
Ffordd dda o gryfhau'ch cyhyrau a gwella'ch cydbwysedd yw cadw'n heini.
Mae EXTEND yn ddosbarth symud i gerddoriaeth a luniwyd yn arbennig ar gyfer pobl hyn.
Mae ar gael ar hyn o bryd yn Springfield (llety ymddeol yn Rhosddu) dydd Llun 2.30pm
Arweinir y teithiau cerdded gan arweinwyr cerdded gwirfoddol sy'n wedi'u hyfforddi, ac maent yn addas i bobl o bob oedran a gallu. Mae'n gyfle da i gwrdd â phobl newydd, cael peth awyr iach a gwella eich ffitrwydd.
Am fwy o wybodaeth am deithiau cerdded lleol cysylltwch ag Anna Pollard neu Alison Puddle ar 01978 757524.
Mae fideo'n cael ei gynhyrchu i amlygu'r peryglon sydd yng nghartrefi pobl hyn, a sut y gellir gwneud newidiadau bychain i leihau'r peryglon hyn.
Caiff hon ei dosbarthu gyda'r fideo a gellir ei defnyddio fel nodyn i'ch atgoffa sut i wneud eich cartref yn fwy diogel.
Neges mewn Potel Cynllun sy'n rhoi manylion hanfodol bwysig i'r gwasanaethau brys gan gynnwys perthnasau agosaf, afiechydon, alergeddau ac ati.
Cedwir y wybodaeth hon mewn potel blastig yn yr oergell.
Gellir cael Neges mewn Potel mewn fferyllfeydd, llyfrgelloedd, gan nyrsys ardal, meddygfeydd a mannau addoli.Cysylltwch â'r Tîm Atal Damweiniau:
Linda Mullock neu Michelle Stanley
Ffôn: 01978 297018 neu 01978 297068.