Fel rhan o'r broses barhaus i wella'r wefan hon, rydym yn adolygu'r cynnwys, y cyfleusterau a'r gwasanaethau a gynigir ar y wefan i sicrhau ein bod yn cyflwyno safle sy'n hygyrch, hwylus a defnyddiol.
Rydym yn gwneud hyn mewn nifer o ffyrdd:
Gwaith Cynnal a Gynlluniwyd ar y Wefan - Dydd Mawrth 21 a Dydd Mercher 22 Chwefror 2012
Sylwer: Dydd Mawrth 21 i Ddydd Mercher 22 Chwefror 2012 o ganlyniad i'r gwaith a gynlluniwyd ei wneud ar system dalu'r wefan ni fydd y wefan ar gael am rywfaint o amser. Mae hyn er mwyn gwella cyflymder ein gwasanaeth. Ni fydd yn bosibl gwneud taliadau ar-lein bryd hynny. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y bydd hyn yn ei achosi. Bydd y gwasanaeth arferol ar gael cyn gynted ag y bydd y gwaith wedi'i gwblhau. 01978 298989.
Dadansoddiad misol ystadegau defnyddio'r Wefan
Rydym yn arolygu amrywiaeth eang o ystadegau defnyddio, gan gynnwys nifer ymwelwyr, tudalennau a ddarllennwyd, adrannau mwyaf poblogaidd, ymadroddion chwilio a ddefnyddir yn aml a thudalennau gwall, er mwyn ein helpu i wella'r wybodaeth, dulliau symud o gwmpas y safle, a hwylustod y wefan.
Darperir y geiriau chwilio allweddol a ddefnyddir amlaf mewn dewislen cysylltiad cyflym ar y dudalen chwilio, ac mae'r cwestiynau a ofynnir yn aml mwyaf cyffredin mewn dewislen cysylltiad cyflym hefyd.
Adborth Gwefan
Rydym yn defnyddio'r holl adborth a geir ar y wefan i'n helpu i wella'r cynnwys a'r cyfleusterau, ac yn ymateb i awgrymiadau a sylwadau defnyddwyr lle bo modd.
Grwp Ffocws y Wefan
Rydym yn gweithio gyda grwp ffocws y wefan i brofi datblygiadau newydd, trafod pa mor hwylus ydyw i ddefnyddio'r wefan, a chael adborth cyffredinol ar y safle.
Eich Adborth Chi
Os hoffech wneud sylwadau neu anfon adborth ar wrexham.gov.uk yna cwblhewch y ffurflen ymateb ar-lein, ffurflen ymholiadau cyffredinol ar-lein neu cysylltwch gyda ni yn webmaster@wrexham.gov.uk.







