Rhestr Wirio Bioamrywiaeth

Pwrpas rhestr wirio bioamrywiaeth yw penderfynu ar bresenoldeb cynefinoedd a rhywogaethau a ddiogelir ar neu'n agos at safle'r cais. Caiff pob un o'r cynefinoedd a rhywogaethau a ddiogelir lefelau gwahanol o ddiogelwch o dan y darnau canlynol o ddeddfwriaeth Ewropeaidd a Statudol.

  • Y Rheoliadau Cynefinoedd (fel y'i diwygiwyd), 1994
  • Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (fel y'i diwygiwyd), 1981
  • Deddf Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig (NERC), 2006

Mae gan y Cyngor ddyletswydd i ddiogelu a gwarchod bioamrywiaeth ym mhob un o'i swyddogaethau. Bydd rhestr wirio bioamrywiaeth yn nodi'r cynefinoedd a rhywogaethau sydd angen eu diogelu a'u cadw rhag cyfres o gwestiynau ac atebion. Bydd hyn yn cyflymu'r broses ceisiadau cynllunio drwy alluogi'r Cyngor i asesu p'un a oes angen rhagor o wybodaeth ac os felly, gofyn am y wybodaeth hon a phenderfynu ar y cais o fewn amserlen benodol.

Rhestr Wirio Bioamrywiaeth

Mae'r ddogfennau ar gael ar y ffurfiau canlynol:

Rhestr Wirio Bioamrywiaeth - fformat PDF 2.1Mb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.

yn ôl i'r brig