Arolwg Pathewod

Mae Grwp Bioamrywiaeth Wrecsam wedi gosod 100 o diwbiau pathewod yn ystod yr haf. Mae dosbarthu tiwbiau pathewod yng nghoetiroedd Wrecsam yn rhan o Arolwg Mamaliaid Coetir Prin Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru a ariennir gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru.

Mae pathewod yn defnyddio'r tiwbiau i nythu lle mae tyllau mewn coed a mannau nythu eraill ar goll. Arbrofwyd nhw mewn sawl ardal ym Mhrydain ac maent wedi bod yn ddull arolygu llwyddiannus iawn.

Swyddog Bioamrywiaeth Wrecsam fydd yn gyfrifol am arolygu'r tiwbiau ddwywaith y flwyddyn.

Mae pathewod yn brin oherwydd colli hen goetiroedd, rhannu coetiroedd mawr a cholli nodweddion perthynol megis gwrychoedd. Cyfeiria hen goetiroedd at safleoedd lle credir y bu coetiroedd parhaus ers o leiaf 1600OC.

Mae pathewod yn bwyta blodau, ffrwythau, cnau a phryfed. Mae'n rhaid iddynt fyw rhywle lle mae'r rhain ar gael. Mae coed cyll, llaeth y gaseg, drain a derw'n ffynonellau pwysig o fwyd hefyd.

Mae pathewod yn hollol nosol, yn treulio'r dydd yn cysgu yn eu nythod. Treuliant y rhan fwyaf o'r nos yn dringo ar hyd brigau coed yn chwilio am fwyd ac yn defnyddio eu llygaid mawr a blew barf i'w harwain. Anaml iawn y byddant yn cerdded ar y ddaear.

Mae pathewod yn euraidd, â chynffon blewog a llygaid mawr duon. Mae'r oedolion yn pwyso'r un faint â dau ddarn arian £1 yn yr haf ond byddant yn dyblu cyn y tymor gaeafgysgu ym mis Tachwedd. Byddant yn cysgu wedyn tan fis Ebrill neu fis Mai, sef o leiaf hanner y flwyddyn.

Mae nyth pathew'n cynnwys rhisgl llaeth y gaseg wedi ei rwygo a'i blethu i mewn i bêl gymhleth o gwmpas haenen o ddail.

Diogelir pathewod gan y gyfraith ac ni ellir eu lladd na'u hanafu'n fwriadol, ni ellir tarfu arnynt yn eu nythod, eu casglu, eu dal na'u gwerthu heblaw am dan drwydded.

Am fwy o wybodaeth am yr arolwg pathewod, ffoniwch y Swyddog Bioamrywiaeth ar 01978 292514.

yn ôl i'r brig