Mae
pyllau yn bwysig ar gyfer bio-amrywiaeth y presennol a'r dyfodol, maent
yn cynnal amrywiaeth eang o blanhigion ac anifeiliaid dwr ffres. Mae'r
cynefinoedd tir gwlyb cymhleth hyn yn gartref i dros draean o'n planhigion
brodorol a dros 1200 rhywogaeth o infertebratau megis gwas y neidr, clêr
mai, hirheglynnod y dwr, pryfaid a malwod.
Mae ehangiad y trefi a'r ardaloedd diwydiannol, amaethyddiaeth arddwys a dwr wedi ei bibellu ar gyfer gwartheg wedi cyfrannu at leihad yn y nifer o byllau ac at ddirywiad yn nifer y rhywogaethau prin, bregus a'r rhywogaethau o dan fygythiad.
Ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam mae 500 o byllau wedi diflannu yn ystod y 30 mlynedd diwethaf ond ceir dros 2000 o byllau o hyd, gyda chyfanswm eu harwynebedd yn un cilomedr sgwâr. Mae'r rhan fwyaf o'r pyllau hyn i'w cael yn iseldiroedd dwyreiniol y Fwrdeistref Sirol.
Mae'r nifer uchel o byllau yn nodwedd bwysig o'n tirwedd ac yn adnodd biolegol pwysig. Os oes o leiaf 4 pwll i bob cilomedr sgwâr mae amffibiaid yn symud o un pwll i'r llall. Yn y de-ddwyrain mae nifer y pyllau'n anghyffredin o uchel. Mae gwerth cadwraethol uchel i dros 200 o'r pyllau gan eu bônt yn cefnogi rhywogaethau prin megis y madfall ddwr gribog, llygoden bengron y dwr, buladd a'r alaw lleiaf.
Wrth i bwll ddatblygu, mae ei lystyfiant yn cynyddu, gan leihau yr arwynebedd o ddwr agored. Mae silt yn cynyddu ac yn y diwedd bydd y pwll yn coedwigo neu yn sychu. Mae pob lefel yn natblygiad y pwll yn bwysig, gan ei fod yn cynnal gwahanol gymunedau o blanhigion ac anifeiliaid, ond mae angen dwr agored ar amffibiaid i ddodwy eu hwyau. Mae hyd at 50% o byllau y fwrdeistref sirol wedi eu cysgodi gan goed neu wedi troi yn goedwig. Bydd hyn yn cynyddu a bydd pyllau yn cael eu colli os na chânt eu rheoli neu eu hadfer.
Mae angen caniatâd cynllunio i ddod â gwastraff i mewn ar gyfer llenwi pwll; gall hefyd fod angen caniatâd i greu pwll. Am wybodaeth, cysylltwch ag: Adran Gynllunio, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar 01978 292019.
Mae nifer o rywogaethau yn warchodedig o dan Ddeddf Cefn Gwlad a Bywyd
Gwyllt 1981.
Mae gwneud difrod bwriadol i gynefinoedd rhywogaethau gwarchodedig yn
drosedd. Am wybodaeth, cysylltwch â: Chyngor Cefn Gwlad Cymru ar
01352 706600.
Rhaid cael caniatâd gan Asiantaeth yr Amgylchedd ar gyfer gweithgareddau yn ymwneud â rheolaeth dwr, llygredd a stocio pysgod ac mae angen trwydded gwastraff ar gyfer safle sbwriel. Mae cyngor ar gael gan: Asiantaeth yr Amgylchedd ar 01248 670770.
Am wybodaeth bellach ynglyn â phyllau ac am grantiau ar gyfer eu hadfer cysylltwch ag:
Cysylltwch â:
Chynllunio Amgylchedd, Adran Cynllunio, Stryt
y Lampint, Wrecsam, LL11 1WL Ffôn: 01978 292019
Ffacs: 01978 292502
E-bost: planning@wrexham.gov.uk
Cynllun Gweithredu Cynefin Pyllau