Rheoliadau Adeiladau

Prif nod yr adran yw gwarchod iechyd, diogelwch a lles pobl mewn ac o amgylch adeiladau, sicrhau mynediad a chyfleusterau ar gyfer pobl anabl ac arbed tanwydd a phwer.

Prif ddyletswyddau'r tîm yw penderfynu ar amrywiaeth o geisiadau rheoliadau adeiladau sy'n cynnwys adeiladau newydd, estyniadau i gartrefi, estyniadau masnachol, newid defnydd, datblygiadau masnachol a diwydiannol.

Mae'r gwasanaethau eraill yn cynnwys:

  • Gwasanaeth ymholi i benderfynu pa un a oes angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu

  • Trafodaethau cyn cyflwyno cais i ddatrys unrhyw anawsterau i ddarpar ymgeiswyr.

  • Ymgynghori a chysylltu gydag adrannau eraill er mwyn sicrhau bod gwasanaeth prydlon yn cael ei ddarparu

  • LANTAC National Type Approval Scheme

  • Rhoi cyngor pan yn ymdrin â thir llygredig

  • Ymgynghori â Swyddog Tân pan yn ymdrin ag adeiladau â defnydd dynodedig

  • Dymchwel neu ddiogelu adeiladau sy'n cael eu hystyried yn beryglus i'r cyhoedd

  • Rheoli gwaith dymchwel er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd

  • Dyrannu enwau strydoedd a rhifau post

  • Plotio sylwadau'r bwrdd glo.

Tai

Mae angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar gyfer y canlynol:

  • Adeiladau/anheddau newydd

  • Estyniad i adeiladau/anheddau

  • Newidiadau ac ailwampio

  • Newidiadau adeileddol/tanategion

  • Addasiadau

  • Gosod gwasanaeth cyfyngedig

Cysylltwch â: Rheoli Adeiladu, Adran Cynllunio, Stryt y Lampint, Wrecsam, LL11 1WL. Ffôn: 01978 292050.
Ffacs: 01978 292502. E-bost: planning@wrexham.gov.uk


Rheoli Adeiladu

Rheoli Cynllunio

yn ôl i'r brig