Gwobrau Ansawdd Ymgorfforol Gogledd Cymru

Mae'r cynllun Gwobrau Ansawdd Ymgorfforol ar gyfer adeiladwyr sy'n cyrraedd ansawdd rhagorol yn eu gwaith adeiladu, o ran rheoli adeiladu. Mae'r cynllun yn amlygu pwysigrwydd Rheoli Adeiladu wrth gyrraedd safonau uchel ac yn rhoi hwb haeddiannol i adeiladwyr sy'n gweithredu yn ardaloedd Wrecsam a Gogledd Cymru. Gall y prosiectau a gwblhawyd amrywio o dai newydd, estyniadau ac altradau i ddatblygiadau masnachol.

Wnaeth Archwilwyr Rheoli Adeiladu'r holl Gynghorau sy'n cymryd rhan, yn enwebu adeiladwyr sydd wedi cyflawni gwaith adeiladu o safon uchel ac yn cydymffurfio â'r Rheoliadau Adeiladu ar gyfer gwobr. Mae ffurf y wobr tystysgrif a gyflwynir gan y Maer neu aelod etholedig yn ystod seremoni arbennig ac yna bydd eu henwau'n mynd ymlaen am wobr cenedlaethol.

Categorïau Gwobrau

Rhoddir gwobrau'n flynyddol i enillwyr yn y categorïau canlynol:

  • Domestig Bach
  • Adeiladwyr Tai Mawr
  • Fflatiau/preswyl arall
  • Diwydiannol/Masnachol Bach
  • Diwydiannol/Masnachol Mawr

Enwebiadau

Bydd Swyddogion Rheoli Adeiladu Wrecsam yn nodi safleoedd sy'n cyrraedd safonau uchel yn rheolaidd ac yn cwrdd â'r meini prawf canlynol:

  • Cydymffurfiad â Rheoliadau Adeiladu ac effeithiolrwydd ynni
  • Cyflenwi a rheoli gwybodaeth (gan roi hysbysiadau a gwybodaeth sy'n ymwneud â'r gwaith)
  • Cyflymder cywiro diffygion
  • Amgylchedd y safle - Diogelwch a storio deunyddiau (fel nad ydynt yn niweidiol wrth eu defnyddio)
  • Bodlonrwydd cleientiaid/cwsmeriaid
  • Mynediad i rai ag anabledd (os yn briodol)

Beirniadau

Rheolwyr Rheoli Adeiladu a phensaer annibynnol yw'r panel.

Cinio'r Gwobrau

Fel arfer, bydd y Maer neu aelod etholedig yn cyflwyno'r gwobrau mewn seremoni flynyddol a hysbysebir yn eang.

Enillwyr Gwobrau Ansadd Ymgorfforol 2003

Eleni cynhaliwyd y seremoni ar 28 Mawrth yng Ngwesty St Davids Park, Ewlo. Cynhaliwyd y digwyddiad hynod o lwyddiannus hwn, a noddwyd gan Kingspan Ltd, i gydnabod adeiladu o safon yn y sir.

Agorodd y Cynghorydd Matthews o Gyngor Sir y Fflint y noson, drwy groesawu 170 o westeion i'r cinio. Dilynwyd y Cynghorydd gydag anerchiad gan Graham Lee, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes Cenedlaethol LABC Services, a ganolbwyntiodd ar fuddion cydweithio i gyflawni ansawdd. Dilynwyd hyn â'r seremoni wobrwyo.

Cyflwynodd Dave Sharp, Prif Swyddog Rheoli Adeiladu ar gyfer Wrecsam, wobrau Wrecsam i'r:

  • Arglwydd a'r Fonesig Hughes o Abrahurst Ltd yn y categori preswyl bychan am eu datblygiad ar Fferm Caelica, Tallarn Green.

  • Martin Moore o Moore Construction yn y categori preswyl bach am Little Grange, Llannerch Banna.

  • Brian Spencer o Country Barns & Homes yn y categori adeiladwr mawr am eu datblygiad yn Honkley Barns, Yr Orsedd, a

  • Johnathan Baldwin o Zouk Café Bars Ltd am eu cadwraeth yn 7 Allt y Dref, Wrecsam.

Mae holl enillwyr y noson wedi mynd ymlaen i Wobrau Cenedlaethol LABC, i'w gynnal ar 5 Mehefin 2003 yn Llundain.

Gweler prosiectau Enillwyr Gwobrau Anasawdd Ymgorfforol Wrecsam 2003

Trefnwyr Gwobrau 2003

  • Karl Jones Swyddog Rheoli Adeiladu - Cyngor Gwynedd
  • John Wilkinson Uwch Swyddog Rheoli Adeiladu - Cyngor Sir y Fflint
  • Ian Vaughan Evans Rheolwr Rheoli Adeiladu - Cyngor Sir y Fflint
  • Joanne Davies Swyddog Rheoli Adeiladu - Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
  • Dafydd Evans Swyddog Rheoli Adeiladu - Cyngor Ynys Môn
  • Richard Broughton Swyddog Rheoli Adeiladu - Cyngor Sir Ddinbych
  • Richard Tiedtke Uwch Swyddog Rheoli Adeiladu - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.


Enillwyr Gwobrau Anasawdd Ymgorfforol 2003

Rheoli Adeiladu

yn ôl i'r brig