Rhan
hanfodol o swyddogaeth Rheoli Adeiladau yw sicrhau bod gwaith adeiladu ar
safle yn cydymffurfio â Rheoliadau Adeiladu a deddfwriaethau cysylltiol.
Mae'n hanfodol bod ymgeiswyr a chontractwyr yn rhoi gwybod i'r adran pan fydd gwaith yn dechrau fel bod y Syrfëwr yn gallu trefnu i'w cyfarfod ar y safle.
Y camau allweddol ar gyfer archwilio yw:
1. Dechrau'r gwaith
2. Cloddio ar gyfer sylfeini
3. Cwrs gwrth leithder
4. Draeniau cyn eu gorchuddio
5. Profi'r draeniau
6. Gosod lloriau a thoeau
7. Cwblhau archwiliadau
Mae'n hanfodol bod archwiliad cwblhau yn cael ei wneud gan Syrfëwr, fel bod Tystysgrif Cwblhad yn cael ei rhoi. Dylid cadw'r dystysgrif hon gyda gweithredoedd yr eiddo er gwybodaeth yn y dyfodol.
Cysylltwch â: Rheoli Adeiladu, Adran Cynllunio, Stryt y
Lampint, Wrecsam, LL11 1WL. Ffôn: 01978 292050.
Ffacs: 01978 292502. E-bost: planning@wrexham.gov.uk