Dyma
un o gyfres o nodiadau cyfarwyddyd rheoli adeiladu sy'n anelu at esbonio
gweithdrefnau'r rheoliadau adeiladu.
Oes - darllenwch Nodyn Cyfarwyddyd Rheoli Adeiladu Rhif 6 - Gwaith Adeiladu a Eithrir o'r Rheoliadau Adeiladu.
Wedi i chi ddarllen y Nodyn Cyfarwyddyd Rheoli Adeiladu Rhif 6 - Gwaith Adeiladu a Eithrir o'r Rheoliadau Adeiladu. dylech benderfynu a fydd raid i'ch cynigion ar gyfer eich adeilad dderbyn caniatâd Rheoliadau Adeiladu a/neu ganiatâd cynllunio. Os bydd gennych unrhyw amheuon ffoniwch (01978) 292050 a bydd Tirfesurydd Rheoliadau Adeiladu yn falch i roi cyngor i chi.
Mae yna ddwy ffordd o wneud cais am ganiatâd rheoliadau adeiladu:-
Nodwch, os ydych chi'n cynnig codi annedd sydd â'i wyneb ar stryd, neu adeilad sy'n cynnwys swyddfeydd, siopau, gwestai, tai gwely a brecwast, ffatrïoedd ac ati, mae'n rhaid i chi gyflwyno CYNLLUNIAU LLAWN.
Dyma fanteision y drefn CYNLLUNIAU LLAWN:-
Dyma fanteision y drefn RHYBUDDIO AM ADEILADU:-
Bydd, mae'n rhaid i ni godi ffi am weinyddu'r Rheoliadau Adeiladu. Bydd y swm cychwynnol y bydd yn rhaid i chi ei dalu yn dibynnu a ydych yn dewis y CYNLLUNIAU LLAWN neu'r trefnau RHYBUDDIO AM ADEILADU. Cysylltwch Rheoli Adeiladu i weithio allan faint fydd y ffi cywir o'r 'Gynllun Ffïoedd' Wrecsam, Rhif ffôn (01978) 292050.
Darllenwch y daflen Nodyn Cyfarwyddyd Rheoli Adeiladu Rhif 3 - Gwneud Cais am Gymeradwyaeth - mae'n arweiniad syml cam wrth gam. Os ydych yn parhau'n ansicr ynglyn â'r hyn y dylech ei wneud, ffoniwch y Tirfesurydd Rheoliadau Adeiladu os gwelwch yn dda i gael sgwrs anffurfiol ar (01978) 292050.
Darllenwch y daflen Nodyn Cyfarwyddyd Rheoli Adeiladu Rhif 3 - Gwneud Cais am Gymeradwyaeth - mae'n arweiniad syml cam wrth gam. Os ydych yn parhau'n ansicr ynglyn â'r hyn y dylech ei wneud, ffoniwch y Tirfesurydd Rheoliadau Adeiladu os gwelwch yn dda i gael sgwrs anffurfiol ar (01978) 292050.
Nid oes raid i chi aros i'r cynlluniau gael eu pasio cyn i chi ddechrau gweithio. Ond, os byddant wedi eu pasio, mae hynny'n eich amddiffyn chi rywfaint yn erbyn costau dianghenrhaid. Ar ôl i chi roi Rhybudd am Adeiladu i ni, neu ar ôl i chi anfon cynlluniau atom, gallwch ddechrau gweithio ar yr amod eich bod yn cysylltu â ni ac yn trefnu i Dirfesurydd ddod i wneud archwiliad. Efallai y byddwn yn gofyn am wybodaeth gennych i gyfiawnhau eitemau penodol (e.e. cyfrifiadau strwythurol ar gyfer trawstiau pren a gwaith dur).
Os byddwch yn cario ymlaen gyda'r gwaith heb roi gwybod i ni, efallai y bydd raid i chi dynnu'r gwaith i lawr fel bod y Tirfesurydd Rheoliadau Adeiladu'n gallu gwneud yn siwr ei fod o'n cydymffurfio â'r Rheoliadau. Bydd ein Tirfesurydd Rheoliadau Adeiladu'n gweithio'n agos gyda'ch contractiwr chi i wneud yn siwr bod eich project yn rhedeg yn esmwyth, o fewn yr amser gofynnol, ac yn unol â'r Rheoliadau Adeiladu.
Efallai y bydd Deddf y Wal Gydrannol ac ati 1996 yn berthnasol yn y fan yma, ac efallai hefyd y bydd raid i chi roi rhybudd statudol i berchennog yr adeilad nesaf atoch i geisio'i gytundeb ef i'ch cynigion cyn i chi ddechrau'r gwaith. Os byddwch eisiau mwy o gyngor neu arweiniad, gofynnwch os gwelwch yn dda.
Gweler: Nodyn Cyfarwyddyd Rheoli Adeiladu Rhif 9 - Eich Prosiect Adeiladu a Deddf Mur Cyd 1996.
Gweler hefyd y daflen: 'Y Deddf Mur Cyd 1996', ar gael yn eich derbynfa neu yr Llyfrygell Wrecsam.
Prif Swyddog Cynllunio, Stryt y Lampint, Blwch SP 1290, Wrecsam, LL11 1WL.
EBost: planning@wrexham.gov.uk
Ffôn: 01978 292050
Ffacs: 01978 292502
Mabwysiadwyd Hydref 2002.
Mae copi o ddaflen hon ar gael i'w lawr lwytho yn y ffurf ganlynol:
Mae copi o ddaflen hon ar gael i'w lawr lwytho yn y ffurf ganlynol - Fersiwn PDF 221Kb ![]()
Mynegai Nodiadau Cyfarwyddyd Rheoli Adeiladu